Cyflwyniad: Datblygu Perthnasau Diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon



Wedi i’r Chwaer Patricia Maxwell ddychwelyd i’w lleiandy yng Nghaerdydd nifer o flynyddoedd yn ôl siaradai am brofedigaethau’r bobl y gwelodd yn ystod y cyfnod y treuliodd hi yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica.

Yno, tra’n edrych i fyw llygaid y gwŷr, y menywod a’r plant a lwgai i farwolaeth o achos y cyni a’r newyn a ddaeth yn sgîl rhyfel, fe allai weld, fel mewn drych, byw llygaid y gwŷr, y menywod a’r plant, ei pherthnasau hi, efallai wrth iddyn nhw hefyd lwgu i farwolaeth yn y newyn mawr – yn Iwerddon ei geni hi – yn nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae rhyw brofiad o’r un fath yn rhan y Gwyddyl yn Iwerddon a thramor bob dydd y daw’r lluniau a’r newyddion erchyll ar eu sgriniau teledu o’r Swdan: mae eu cof cenedl am brofedigaethau ei hynafiaid truenus yn rhan anatod o’u hadwaith i’r newyddion cywilyddus cyfoes hyn i gyd.

Ffurfiwyd Fforwm Cymru y Newyn yng Nghaerdydd bron iawn deng mlynedd yn ôl er mwyn cofio hanes y newyn mawr hwnnw yn Iwerddon ac i ddwyn sylw at y newyn parhaus sydd yn chwalu bywydau pobloedd eraill yn ein byd cyfforddus cyfoes anghyfiawn ni.

Cafodd ffoaduriaid o’r newyn yn Iwerddon loches a chartref ar draws y byd mewn gwledydd niferus gan gynnwys ein Cymru annwyl ni ac ar hyd y degawdau a’r cenedlaethau ers hynny ffyniant ochr yn ochr fu rhan y Genhinen a’r Siamrog fel ei gilydd.

Er mwyn dwyn sylw at ac i ddathlu y ffyniant a’r hanes deuol hwn dechreuodd ein cymdeithas drefnu darlithoedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol bob dwy flynedd wrth iddi fod yn y de gan gychwyn ym Mhenybont–ar–Ogwr yn 1998, wedi ’ny yn Llanelli yn 2000 ac yn Nhŷ Dewi yn 2002.

Gyda balchder, felly, ac chyda ymwybyddiaeth o fraint arbennig, gofynnaf i Lenna Pritchard–Jones i gyflwyno Elinor Bennett ac i gadeirio ei darlith, yr olaf o dair yn ystod yr wythnos eisteddfodol hon.



Y Genhinen a’r Siamrog

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan