Rhai Agweddau o Bla y Tatws yn yr Iwerddon



Dyma drosiad o’r hyn a gyhoeddwyd ym 1845 yn yr Irish Freeman’s Journal:– Mae’n ddrwg gennym ddweud ein bod wedi ein hysbysu gan fwy nag un gohebydd fod yr hyn a elwir yn ‘Cholera’ mewn tatws wedi digwydd yn yr Iwerddon, enwedig yn y gogledd. Er enghraifft, fe dynnodd berson datws ;#8211; y gorau iddo eu gweld – mewn cae arbennig, ac mewn man neilltuol yn y cae hwnnw, hyd Dydd Llun diwethaf, ond, y dydd canlynol wrth balu yn yr un man fe welodd fod y tiwbers wedi eu blastio ac yn anaddas i ddyn neu anifail eu defnyddio.

Mae’n amlwg fod y gair ’Cholera’ yn ddealladwy i’r darllenwyr. Fe ddaeth yr afiechyd i Brydain ym 1832 ac yn naturiol ddigon roedd meddygon a gwyddonwyr y dydd yn ceisio dyfalu’r rheswm pam. Credai rhai fod ffwng arbennig yn cydio mewn tatws, reis a rhyg ac o ganlyniad i hynny yn pasio gwenwyn i ddyn trwy’r bwyd. Credai eraill fod ’Germ Cholera’ yw gael yn y pridd yn barhaus: yn cysgu pan fyddai’r tywydd yn sych ac yn dihuno pan fyddai’r amgylchiad yn ffafriol. Bu’r ddau syniad fyw hyd oddeutu 1868 a’r Athro Pettenkofer, yn Munich, oedd y cefnogwr mwyaf dylanwadol. Yn y flwyddyn honno fe ddanfonodd awdurdodau Coleg Feddygol y Fyddin yn Netley ddau feddyg galluog i India er mwyn cael ateb i epedemig y ’Cholera’ a oedd yno ar y pryd. Timothy Richards Lewis – yn enedigol o Sir Benfro – oedd un ohonynt. Bu’r ddau’n gweithio am rai misoedd gyda Pettenkofer ar y ffordd allan a daethant i’r casgliad nad oedd ei syniadau ef yn gredadwy. Roeddent, ar y llaw arall, yn cydfynd â barn Dr. Snow yn Llundain (1849) mai’r modd y trosglwyddiwyd y dolur o gleifion i’r iach oedd trwy eu carthion. Iechydaeth wael oedd wrth wraidd y broblem. (Koch, yn 1884, darganfyddodd y drwg‒weithiwr, sef y Coma‒bacillus).

Beth am y ffwng a ffyrnigrwydd ei ymosiad ar y tatws? Ceir yr ateb ym myd y cromosomau a’r genynau.

Bwydlys benywaidd yw tatws, a nid yw rhyw yn cymryd rhan yn eu datblygiad. Yr un tatws oedd yn bodoli oddiar cofnod Elizabeth y Cyntaf, a’r un cyfluniad o gromosomau oedd ynddynt. Gyda threiglad amser dros y canrifoedd roedd eu ansawdd wedi dirywio.

Tebyg iawn eu bod yn agos at ddiwedd eu esblygiad. Ymhellach, oherwydd nad oedd y cromosomau wedi cysylltu â chromosomau dieithr nid oedd y genynau wedi datblygu’r modd i rwystro ymosodiad gelyn allanol, fel ffwng. Diffyg imwnedd fyddai disgrifiad cyfoes o’r gwendid.

Hanes wahanol oedd i fywyd y ffwng. Roedd mwy nag un math ohono ac am fod eu bodolaeth a’u cryfder yn dibynnu ar rhyw (h.y. cysylltiad cromosomau gwrwaidd ag eraill benywaidd) roedd y genynau yn medru cymysgu a’u gilydd i greu y teip mwyaf ffafriol i ddinistrio tatws – os dyna oedd y bwriad. Roeddent yn adnewid a thyfu yn llawer cynt na’r tatws. Serch hynny, anodd credu fod diwrnod wedi gwneud y gwahaniaeth a nodwyd yn y newyddiadur. Y tebygrwydd yw fod rhywfaint o’r ffwng wedi cydio mewn tatws yma a thraw ers rhai blynyddoedd a gydag amser wedi cynyddu i raddau eithafol.

Gwyddys fod y Gwyddyl, cyn y pla, yn arfer bwyta 10 i 14 pwys yr un o datws bob dydd (oherwydd iddo allforio gwenith i dalu rhent), a bod babanod yn cael eu diddyfnu, o laeth i datws, pan nad oeddent ond rhyw dair wythnos oed. Y canlyniad i’r babanod oedd fod eu genynau ddim yn cael cyfle i baratoi celloedd y perfedd i amsugno’r protin a gynhwysir mewn gwenith. ‘Gluten’ yw’r rhan bwysicaf ohono, a diffyg amsugniad ‘gluten’ yw achos y dolur, Coeliac. Mae’r cwestiwn yn codi: a yw’r babanod a’r plant i gyd wedi dod dros yr anhawster yma yn llwyr? Mae lle i gredu nad ydynt. Mewn llyfr a ddaeth allan ym 1984 (awduron: W.T. Cooke a G.K.T. Holmes) dywedir fod y dolur Coeliac yw gael mewn un o 303 genedigaethau yn Galway a dim ond mewn un o 4,000 yn yr Alban. Eto, rhoddodd F.A.Logan yr un dystiolaeth ym 1992 mewn llyfr a olygwyd gan Michael N. Marsh pan sgrifennodd fod cyffredinolrwydd (prevalence) genetic y dolur Coeliac yn uwch yng ngorllewin Iwerddon nag mewn un man arall. Ei ffigur oedd 45 y cant.

Ni ddylid pwysleisio gormod ar y sylwadau hyn ar hyn o bryd oherwydd cyfyngdra’r ymchwil, ond, serch hynny, mae’n amhosibl eu diysyru. Gobeithio y cawn atebiad dibynadwy a chynhwysfawr cyn bo hir.

©: Dr. J. H. Thomas, Porthcawl.



Erthyglau eraill gan Dr. Thomas:

2. Y Tlawd a’r Wyrcws
Hanes y wyrcws ar hyd y canrifoedd.

3. James Ebenezer Bicheno
Erthygl yn Saesneg am yr ysgolhaig y mae ei fywyd yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg yn cysylltu Cymru, Iwerddon, Lloegr a Thasmania.

Starvation Fever
Erthygl arall yn Saesneg.

Y Ddraig Werdd Rhif 2

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan