Nadolig ar yr Ynysoedd Aran



Lle go anghysbell ydi Aran—tair ynys o graig lom 30 milltir allan o borthladd Galwy yng nghanol môr Iwerydd— a lle go anial hefyd yn y gaeaf. Mae cyfran o’r 1,500 trigolion yn ymfudo, megis, i’r tir mawr yn ystod y misoedd mwyaf garw, i aros at deuluoedd yno. Neu yn mynd i Ddulyn neu Galwy, neu hyd yn oed i Loegr, i chwilio am waith dros dro.

Gaeaf yr Ynyswyr

’Does yna fawr o neb yn mynd allan o’u bythynnod to gwellt ar ôl machlud haul yn ystod hanner olaf Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr a dechrau Chwefror gan arwed y tywydd. Ambell un gweddol ifanc yn ymweld â’r ysgol dechnegol i fynychu dosbarth neu i chwarae tennis‑bwrdd; ambell noson mi fydd galw am wasanaeth y bad‑achub; ambell un prin yn mynnu galw mewn tafarn, efallai. Ond ar y cyfan godro’r unig fuwch, neu’r geifr, sy’n canu cnul y diwrnod i’r rhan fwyaf o’r ynyswyr.

Miri’r Ŵyl

Daw’r Nadolig i rannu’r gaeaf, fel y bydd gwyl Badrig yn rhoi cyfle i ddathlu yng nghanol y grawys. Daw plant adref o’r ysgolion uwchradd ar y tir mawr, a’r efrydwyr o’r colegau yno, a chyfran o bobl ifanc adref am wyliau o’u gwaith yn y trefydd ar gyfandir Iwerddon. Yn eu sgîl, ac yn ysbryd y Nadolig, fe ddaw rhialtwch i lonni ychydig ar yr ynysoedd; fe geir dawnsio gwerin ‒ ceilidh ‒ yn neuadd y plwyf, eraill yn ymgynnull i ganu baledi, melodeon, ffidil a phibau, a bydd y mamau a’r neiniau’n ymysgwyd i ddarparu teisennau a phwdinau cyfoethog. Fedr y llong fawr sy’n cario nwyddau o Galwy ddwywaith yr wythnos ddim glanio bob tro yn y gaeaf oherwydd y tywydd, ac felly mi fydd pawb yn ceisio celcio bwyd, baco a diod ar gyfer yr wyl.

Carol ac Offeren

Ni cheir offeren ganol‑nos ar Aran fel a geir yng Nghymru ar noson y Nadolig; mae hi’n rhy oer i bawb droi allan a chroesi’r ynysoedd ar droed neu ar ferlyn neu mewn car‑a‑cheffyl; ond fe ddethlir yr wylnos mewn modd amlwg.Mae bythonnod Aran wedi eu gwasgaru ar hyd craig yr ynys, heb na golau stryd na siop na gwesty i’w cael i dorri ar dywyllwch melfed y nosweithiau yno.

Nid oes fawr o sôn am hud a lledrith ynghylch yr wyl, a fawr dim sôn am Siôn Corn. Ond ar yr wylnos fe gynheuir cannwyll ym mhob ffenestr ym mhob ty, fel y bo croeso i’w weld ar bob aelwyd ar drothwy penblwydd yr Arglwydd. Fore’r Nadolig ceir offeren ddathlu, efo carolau a chlychau’n canu, a gall y plant ddilyn llawer o arwyddocâd y offeren hon wrth edrych ar y preseb a’i gerfluniau o deulu Bethlem a’r addolwyr‒yn ddyn ac anifail‒a welir ym mhob un o eglwysi’r ynysoedd. Dyma’r unig adeg, bron, y clywir carolau ar Aran.

Dawnsio Ymlaen

Y mae yna wahaniathau eraill eto yn eu ffordd nhw o ddathlu’r Nadolig. Ychydig o’r ynyswyr a fydd yn cael aderyn i’w fwyta; bydd llawer yn cael cig eidion sy, iddyn nhw, yn ddanteithyn. Nos yr wyl ei hun bydd dawnsio eto, a bydd hyn yn parhau hyd y calan. Ar wyl Steffan, trannoeth y Nadolig, yn ôl eu harfer bydd gwyr a meibion yn dod at ei gilydd yn y pnawn a’r nos i ganu ac i ddawnsio ac adrodd staeon; dawnsiau arddangosol, fel ein dawns‑coes‑brws ni. Fe gofiaf weld weld hen wr y llynedd, yn dair ar ddeg a phedwar ugain oed, yn ei sgwario hi i swn pibgorn a ffidl. Roedd yn ystumio ei gluniau a’i goesau’n gelfydd, a tharo’r llawr hyd at atsain, ei ddwylo’n glos wrth ei ystlysau, a’i gorff bron yn ddi‑symud o’r canol i fyny. Ond ei lygaid a ddawnsiai’n fwyaf bywiog, a dôi cyffro’r dydd a’r cwmni ag atgofion a dychmygion yn llu o’i gof i’n diddori wrth iddo adrodd neu ganu stori. Ac ni allaf anghofio am yr eneth fach, Teresa, yn credu fod y tylwyth teg yn dawnsio o gwmpas eu coelcerth mewn llannerch fach ym môn pibell ei thaid, gan iddi glywed swn y sudd baco’n berwi yno! Dyna ran o naws y Nadolig ar Aran.

I bobl Aran, nid gwyl fawr i ddathlu’n unig ydi’r Nadolig, ond hefyd mae’n egwyl bwysig yng nghanol adfyd eu bywyd, egwyl fer ynghanol undonedd pwrpasol eu bywyd beunyddiol. Mae llymder y tywydd yn help i arddangos y llawenydd, fel y mae uwchben bae Galwy yn ychwanegu at grisialder y sêr.

Ac ar noson y Nadolig mae seren i’w gweld ym mhob ffenestr ar Aran.

�: Dr. Harri Pritchard-Jones, meddyg, llenor a darlledwr, Caerdydd, Cymru.



Cyhoeddiwyd gyntaf yn y cylchgrawn Byw, Rhagfyr 1965.
Dymunwn ddatgan ein diolchgarwch i’r awdur am roddi i ni ganiatâd i'w gyhoeddi unwaith eto.

Saesneg / English

Cuireadh do Mhuire
Cerdd Nadolig o’r Ynysoedd Aran yn y Wyddeleg gyda throsiad i’r Saesneg.

The Day of my First Communion
Hanesyn o’r Ynysoedd Aran wedi’i drosi o’r Wyddeleg i’r Saesneg .

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Christmas Box

Hafan