Caed bywiol ddŵr Eseciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel, ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
’R addewid ’roedd i Adda,
Yr Alffa a’r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair,
Mewn côr ym Meth’lem Juda, ar lin Mair.
Diosgodd Crist ei goron, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion, o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog, o’i wirfodd.
Am hyn, bechadur, brysia fel yr wyt, fel yr wyt,
I mofyn am y noddfa, fel yr wyt;
I ti’r agorwyd ffynnon,
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn ar Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.
Gan y Parch. Owen Davies (Eos Llechid).
CD:Carolau Plygain / Caneuon Llofft Stabal 2003, Sain SCD 2389.
Gorgysylltiadau i'r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.