Ar arferion Cymru gynt
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenhedlaeth wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymhestlog hir
Alun Mabon mwy nid yw,
Ond mae’r heniaith yn y tir
A’r alawon hen yn fyw.
Gan: John ‘Ceiriog’ Hughes, 1832 – 1887.
************************
Ceir fersiwn digyfeiliant aruthrol ar gân o’r gerdd fawreddog hon ar y Cryno Ddisg:
************************
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.
Ffynnon — Celtic music from Wales.