Yn Cyflwyno’r An Briathar Saor


Cylchgrawn yn y Wyddeleg y mae pedwar argraffiad wedi’u cyhoeddi yng Nghaerdydd rhwng 1994 a 1997 yw An Briathar Saor. Bwriad y cyhoeddwyr oedd hyrwyddo dolengysyllt rhwng unigolion a mudiadau Gwyddeleg eu hiaith ar draws Prydain Fawr.

Yn y 90au cynnar dechreuodd grwp anffurfiol o gwmpas dosbarth Gwyddeleg a gychwynodd Barry Tobin, Gwyddel o’r ddinas Corc, a ddaeth i Gaerdydd yn 1960. Ymysg aelodau’r dosbarth a’r grwp cafwyd Patrick Egan, Gwyddel arall, o Swydd na hIarmhí (Westmeath), a ddysgodd y Wyddeleg mewn ysgol uwchradd. Yn 1993 prynodd Patrick gyfrifiadur cartref Apple Mac ac, wedi bwrw misoedd maith yn ymgodymu gyda’r dechnoleg newydd honno, roedd yn ddigon hyddysg i awgrymu wrth aelodau’r grwp ei fod hi'n hen bryd i ni roi cynnig ar gyhoeddi cylchgrawn.

Cafodd ei awgrym gymeradwyaeth deg.

Trefnwyd cyfarfod aelodau’r grwp anffurfiol ar 23 Ionawr, 1994 er mwyn sefydlu ein cymdeithas newydd, Comhluadar Caerdydd(‘Cwmpeini Caerdydd’). Yn bresennol i'r cyfarfod hwnnw roedd yr unigolion canlynol:

John Breese, Cymro Cymraeg o Fachynlleth, a fu farw ar drothwy’r Nadolig yn yr un flwyddyn; Ruaidhrí Ó Broin, celfyddwr o Loegr yr oedd ei rieni o Iwerddon; Farouk Daruwalla o India a fu farw ym gynnar yn 1997; Patrick Egan a oedd wrth y llyw; John Evans, athro iethoedd mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd y daeth ei fam o Swydd Ciarraí (Kerry) i Gymru yn dair blwydd oed – mae ganddo Gymraeg rhugl; Hywel Merfyn Jones, Cymro Cymraeg a swyddog yn y Swyddfa Gymreig; Tim Saunders o Gernyw y mae'r Gymraeg a'r Gernyweg ganddo ac y mae un o'i ddwy ferch yn aelod y rheng ddawnsio gyda ‘Lord of the Dance’ bellach; a Stephen Yates, Sais a cherddwr roc a rôl na ddysgodd ail iaith erioed ac eithrio'r Wyddeleg!

Yn absennol y noson honno ond o blaid y fentr oedd :

Risteárd Ó Fuaráin, myfyrwr o Swydd Ciarraí ym Mhrifysgol Morgannwg, Trefforest ar y pryd; Richard Lewis, Cymro Cymraeg ar staff yr Uned Dysgu Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a Miranda Morton, a ddysgodd y Gymraeg cyn iddi fentro i fyd y Wyddeleg.

Etholwyd Barry Tobin yn Gadeirydd, Patrick Egan yn Ysgrifennydd a Hywel Merfyn Jones yn Drysorydd.

Glacadh leis an rún go bhfoilseofaí iris faoin teideal, ‘An Briathar Saor’ dhá uair in aghaidh na bliana, i rith an tsamhraidh agus i rith an gheimhridh agus toghadh Patrick Egan ina Eagarthóir. Derbynwyd cynnig y dylid cyhoeddi cylchgrawn yn y Wyddeleg gyda’r teitl, An Briathar Saor ddwywaith y flwyddyn, yn yr haf ac yn y gaeaf ac etholwyd Patrick Egan yn Olygydd.

Mi fyddai’r cylchgrawn newydd yn cynnwys 12 tudalen maint A4 ac yn ôl y cynllun golygyddol a luniodd Patrick Egan ac a dderbynwyd gan bawb byddai’n cynnwys erthyglau, straeon byrion, cartwniau a cherddi. Roeddem yn gobeithio cael ‘gohebyddion’ ym mhob man ym Mhrydain Fawr y ceir Gwyddelod Gwyddeleg eu hiaith yn casglu a fyddai’n danfon adroddiadau am eu cymunedau eu hunain atom ni. Ein gobaith hefyd oedd cael danfon y cylchgrawn drwy’r post am danysgrifiad o £2-00 y flwyddyn.

Wedi bwrw misoedd wrth gyhoeddusrwydd, wrth ysgrifennu ac wrth ddysgu crefft newydd cyhoeddiwyd 500 copïau o’r argraffiad cyntaf a mi lansiwyd y cylchgrawn newydd, y cyntaf yn yr iaith Wyddeleg a fu erioed yng Nghymru, yng nghanol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandeilo a’r Cylch, Awst, 1994. Seán Mac Réamoinn o Ddulyn a Harri Pritchard‒Jones o Gaerdydd a wnaeth yr orchwyl trostom ni, gyda Seán yn llefaru yn y Gymraeg a Harri yn y Wyddeleg!

Cafwyd seremoni lansio arall yn yr hen dafarn Wyddelig, y ‘Royal Oak’, Broadway, Caerdydd. Y Tafarnwr ydy Meic Flynn, brodor o Dún Garbhán (Dungarvan) Swydd Port Láirge (Waterford) a mi roes ganiatad i ni drefnu'r seremoni yng nghanol y Cylch Bocsio lan lofft. Cylch arbennig, wrth gwrs, lle a fu’r hen Jim Driscoll yn ymarfer ynddo cyn ei frwydrau enwog yn yr oes o’r blaen.

Waeth i ni grybwyll yma fel y bu i ni drafod cofio Newyn Mawr Iwerddon (1845-1849) mewn cyfarfod ar 30 Medi, 1994. Chafwyd dim penderfyniad pendant bryd hynny ond wedi ystyried y fater am wythnosau penderfynwyd dod â’r fater gerbron y cyhoedd. Felly, a chyda caniatad caredig y Tad (bellach y Canon) John Maguire, Offeiriad y Plwyf, a ddaw o Swydd an Chabháin (Cavan), mi drefnon ni gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Llanfair, Stryd Talbot, Treganna, Caerdydd ar 12 Tachwedd. Harri Pritchard-Jones a oedd yn y Gadair. Daeth tua 25 o bobl i’r cyfarfod a chytuniwyd y dylid gwneud rhywbeth a sefydlwyd Pwyllgor Llwyo. Yn y pen draw, yn ystod cyfarfod arall ar 25 Chwefror, 1995, lansiwyd Fforwm Cymru y Newyn yn gymdeithas annibynol. Etholwyd Barry Tobin yn Ysgrifennydd y Fforwm. Mae ’na rywbeth a wnelo â’r etholiad hwn ac ag ei etholiad yn 1996 yn Olygydd Y Ddraig Werdd a The Green Dragon

Cyhoeddiadau a ddaeth yn sgïl dirywiad Comhluadar Caerdydd a darfod An Briathar Saor o 1997 ymlaen.

Do, mi ddaeth y tri argraffiad cyntaf allan o dan olygyddiaeth Patrick Egan. Ond yn yr hydref, 1996, mi aeth Patrick yn ôl i’w gynefin yn Iwerddon a mi ddaeth Barry Tobin yn ei le fel Ysgrifennydd a Golygydd. Mi lwyddodd ynte i ddod â'r An Briathar Saor Rhifyn 4 allan yn y gwanwyn, 1997, ond ni lwyddodd gyhoeddi yr un argraffiad arall.

Mae ysgerbwd Rhifyn 5 ar y gweill ers tair blynnedd bellach ond does dim arwydd o'i gyhoeddi. Diffyg arwerthiannau a diffyg ysgrifau a phrinder amser sydd wrth wraidd y pall. Os y daw ysgrifau wrth law credwn y byddai modd unioni'n problemau a chyhoeddi rhifyn arall ar y rhwngrwyd!

Gaeilge / Gwyddeleg

Saesneg / English

An Chéad Eagrán

The First Edition

Yr Argraffiad Cyntaf

An Dara hEagrán

The Second Edition

Yr Ail Argraffiad

An Tríú hEagrán

The Third Edition

Yr Trydydd Argraffiad

An Ceathrú hEagrán

The Fourth Edition

Yr Pedwerydd Argraffiad


Magazines of Irish / Welsh interest

Leathanach Baile / Hafan / Home Page