Cofio’r Newyn Mawr

Y Newyn Mawr a ddigwyddodd yn Iwerddon rhwng 1845 a 1850 yw’r erchylltra mwyaf ei hanes diweddar. Rhyfeddod mwyaf y digwyddiadau yn y blynyddoedd hyn yw’r ffaith bod y wlad bryd hynny yn rhan o’r Deyrnas Unedig, y wlad a brofodd y Chwyldro Diwydiannol cyntaf a’r wlad gyfoethocaf yn y byd. Mae’r dadleuon am fethiant neu anallu (yn ôl eich safbwynt) y llywodraeth i ymyrryd ac achub rhagor o eneidiau rhag llwgu wedi atseinio ar hyd y blynyddoedd. Ond beth oedd natur dynol yr argyfwng erchyll hon? Mae’r ystadegau moel yn frawychus. Bu farw tua miliwn o ddynion, menywod a phlant o ddiffyg bwyd, tra ymfudodd miliwn yn rhagor. Yn ogystal, ni wyddys faint a fu farw ar y mordeithiau hir ac anghysurus i Brydain neu’r ‘Byd Newydd’ ar draws yr Iwerydd. Cafodd teuluoedd ac hyd yn oed pentrefi cyfan eu difetha’n llwyr. Mewn mannau tynnodd yr aelod olaf o’r teulu i oroesi y bwthyn to gwellt i lawr arnynt i ffurfio bedd teuluol amrwd cyn iddynt hwy drengi yn eu tro. Ar adegau darganfuwyd y meirwon gyda glaswellt rhwng eu dannedd, tystiolaeth ddychrynllyd o’u horiau ingol olaf na ellid yn awr ond eu dychmygu’n annigonol. Daeth pentref Skibbereen yn Swydd Corc yn arwyddair am y dioddefaint enbytaf, a bron na ellid dweud bod y pentref heb oresgyn dwyster y profiad yn seicolegol hyd heddiw.

Yn yr amgylchiadau gofidus hyn, ffynnodd afiechydon marwol o bob math, fel teiffws ym 1847 a’r cholera ym 1848. Dyma’r rheswm pennaf am yr ofn o’r ymfudwyr a welwyd ymhlith trigolion porthladdoedd Prydain fel Lerpwl a Chasnewydd. Mynygwyd hyn yn glir gan un sylwedydd yng Nghaerdydd pan ddywedodd y daeth y ffoaduriaid o’r newyn i’r dref gyda dim ond “newyn yn eu boliau a phla ar eu cefnau.”.

Bu’r clwy a ddifethodd y cnwd tatws mor farwol oherwydd dibyniaeth cynifer o Wyddelod ar y daten yn unig am eu cynhaliaeth – tua thair miliwn ohonynt erbyn 1845. Ac roedd y daten yn elfen allweddol yn neiet miliynau yn rhagor. Dagrau pethau oedd methiant y cnwd un flwyddyn ar ôl y llall, a’r argyfwng yn cyrraedd ei anterth yng ‘Ngaeaf Du’ 1847 gyda’r sgîl‑effeithiau yn parhau i fewn i’r 1850au.

Mae dod i delerau â digwyddiadau o’r math yn boenus, hyd yn oed ar ôl 150 o flynyddoedd. I’r sawl ohonom sy’n ddisgynyddion y ffoaduriaid truenus hynny, dyma’r amser i fyfyrio’n ddwys uwchben y profiad. A dangosodd Arlywydd Iwerddon, Mary Robinson, y gall y cofio arwain at gymodi:


“Er na fedrwn droi’r cloc yn ocirc;l a newid y marwolaethau a ddigwyddodd,” meddai, “o leiaf yr ydym yn wynebu realiti’r bobl a fu farw drwy gymryd ystyr eu dioddefaint a’i gysylltu â’r hyn sydd yn herio ein tosturi a’n hymroddiad yn yr oes sydd ohoni yn awr.”


: Dr.Paul O’Leary, darlithydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.


Y Ddraig Werdd Rhif 1


Leathanach Baile / Hafan / Home Page