Newyn Mawr Iwerddon: Cofiwn Atgoffa

Trefnir rhaglen o ddigwyddiadau arbennig i nodi 150 mlwyddiant y Newyn yn Iwerddon (1845 – 1849) a fu’n achos i filoedd o bobl ymfudo o’u gwlad enedigol.

Glaniodd llawer o’r ffoaduriaid yng Nghymru ac fe ymgartrefodd llawer ohonynt yma mewn amgylchiadau nad oedd fawr gwell na’r wlad druenus a adawasant.

Methiant y cnwd tatws yn Iwerddon o 1845 tan 1849 a wnaeth ddifa gwŷr, gwragedd a phlant neu’u gorfodi i ymfudo i Awstralia, America a Phrydain.

Roedd pobl yn rhatach i’w cario dros y môr na cherrig balast ac yn haws i’w llwytho. Am hynny daethpwyd â lluoedd o Wyddelod newynog i dde Cymru yn falast byw.

Cyd‑ddigwyddodd y Newyn yn Iwerddon â dechreuad y Chwyldro Diwydiannol yn ne Cymru. Rhoes y diwydianwyr a’r gwŷr busnes groeso felly i’r llafur rhad a lifai i mewn i adeiladu’r dociau a’r rheilffyrdd ac i lafuro yn y gweithfeydd glo a dur. Aeth ail Ardalydd Bute i weddïo yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd, i erfyn maddeuant Duw am “ddod â’r Pabyddion Gwyddelig i Gymru”.

Yn frysiog iawn adeiladwyd tai heb fod yn well na slymiau i gymryd y trueiniaid o Iwerddon yn eu tlodi eithafol. Ychydig iawn oedd eu heiddo ond mawr oedd eu ffydd Gatholig. Mewn un tŷ pedair ystafell, di‑ffenestr, yn Stryd Mary Anne, lle saif Arena Rhyngwladol Caerdydd heddiw, trigai hyd at 57 person. Gosodid blychau orennau dros fabanod i’w hamddiffyn rhag cael eu gwasgu i farwolaeth tra chysgai gweddill y teulu ar loriau carreg gyda’r anffodusaf oll yn pwyso’i ben ar ‘brifi’ agored yn lle gobennydd.

Yn y fath amodau roedd y geri marwol neu “dwymyn y Gwyddel”, ys dywedid, yn anochel. Roedd y Newyn, felly, yn gyfrifol am farwolaethau niferus yma yng Nghymru yn ogystal â’r lluoedd a lygodd yn Iwerddon.

Cyd‑ddigwyddodd can mlwyddiant y Newyn â diwedd yr Ail Ryfel Byd ac felly fe aeth heibio’n ddi‑sylw. Am rai blynyddoedd fodd bynnag mae nifer o bobl wedi ymgynull yn Iwerddon i orymdeithio i safleoedd lle claddwyd nifer o bobl a fu farw o ganlyniad i’r Newyn. Erbyn y 150 mlwyddiant felly, mae’n addas iawn i gofio a nodi digwyddiadau trychinebus y Newyn a barhaodd drwy bedair blynedd hir a thrist ac a newidiodd gwrs hanes Iwerddon a Chymru ymysg llawer i wlad arall.

Eisoes, ym 1995, cafwyd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, ysgol undydd, arddangosfa, nosweithiau diwylliannol ac Offeren Goffa yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Cyd‑drefnir y digwyddiadau gan Fforwm Cymru y Newyn a ffurfiwyd ym mis Chwefror 1995 yn sgîl cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Comhluadar Caerdydd (Cymdeithas Wyddeleg Caerdydd) ym mis Tachwedd 1994. Un o amcanion y Fforwm yw canolbwyntio sylw pobl ar broblemau newyn sydd yn dal i fodoli ledled y byd heddiw.

Y mae llawer o deuluoedd yn ne Cymru heddiw sydd yn ddisgynyddion i ffoaduriaid y Newyn yn Iwerddon; newyn a achoswyd gan fethiant y daten, bwyd a gymerir yn hollol ganiataol erbyn heddiw. Trwy gyfrwng y teledu gwelsom wir ystyr newyn mewn gwledydd fel Ethiopia. Er nad oes dystiolaeth ffilm o’r Iwerddon nag o Gymru’r 1840au, ceir digonedd o hanesion am ddioddefaint y bobl a’u dewrder yn wyneb anobaith. Gobaith y Fforwm a’r ‘Ddraig Werdd’ yw creu cyfleoedd i unigolion ddatgan rhai o’r hanesion hyn er mwyn eu cofnodi fel rhan o hanes Cymru.


: John O’Sullivan, newyddiadurwr annibynol yng Nghaerdydd.


Addasiad a chyfiethiad : Julia Burns.


Y Ddraig Werdd Rhif 1


Hafan/Home