Cyfieithiadau: Cymru ac Iwerddon

Gosododd yr achlysur undydd hwn yn Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd ar Ddydd Sadwrn 3 Tachwedd 2001 lenorion ac ysgolheigion o Gymru ac Iwerddon ochr yn ochr wrth drafod un o’r pynciau mwyaf llosg sydd yn herio’r ddau ddiwylliant: cyfieithu. Ydy cyfieithu gweithiau Cymraeg a Gwyddeleg yn arwydd o ildio i rym byd–eang y Saesneg. Neu ydy hi'n bosib deall cyfieithu fel rhywbeth sydd yn addo patrwm mwyaf gobeithiol er mwyn cyfnewid diwylliant? Mae cyfieithu’n cynnig testun arbennig o ffrwythlon er gyfer cyfarfod beirdd, cyfieithwyr, darlledwyr ac academwyr o Gymru ac Iwerddon gyda phobl o unrhyw gefndir ieithol, diddordeb neu darddiad ethnig.

Cyflwynodd pob siaradwr/–aig ei f(b)arnau ei hunain am ddamcaniaeth ac ymarfer cyfieithu dan fyfyrio ynghylch rôl Saesneg mewn trosglwyddo llên yn y Gymraeg a’r Wyddeleg i’r byd. Mae Joseph Clancy, a enillodd barch fel cyfieithydd a llenor, wedi disgrifio cyfieithu fel celfydydd yr amhosibl a mi gynnigodd ddadansoddiad am ddyfodol cyfieithu llenyddol yng Nghymru. Darllenodd y bardd enwog, y Gymraes Menna Elfyn, o’i gwaith diweddar dan drafod y trawsffurfio a ddigwydd wrth i gerddi symud o’r un iaith i’r llall.
Mae llwyddiant byd eang llenydda mewn Saesneg yn Iwerddon wedi golygu fod gofynion a phwysau amgenach wrth gyfieithu yn y wlad honno. Mae cerddi Nuala Ní Dhomhnaill, a ysgrifennwyd yng Ngwyddeleg neilltuol Swydd Kerry, wedi ennill bri ledled y byd. Darllenodd hithau o’i gwaith dan wyntyllu’r oblegiadau. Synfyfyriodd y beirniad Declan Kiberd ynghylch y broses ddistaw o gyfieithu a ddigwydd wrth i lenorion Gwyddelig Saesneg eu hiaith fenthyca (ynteu lladrata?) o’r Wyddeleg.

Roedd y rhaglen fel a ganlyn:

10.00 hyd 11.30 yb: Joseph Clancy, Cyfieithu: Celfydd yr amhosibl? Cadair: Claire Connolly.
12.00 hyd 1.30 yp: Nuala Ní Dhomhnaill, Yn Cyfieithu Ieithoedd Cenedledig. Cadair: Angharad Price.
2.30 hyd 4.00 yp: Menna Elfyn, Llenydda yn y Gymraeg ar Lwyfan Rhyngwladol. Cadair: Stephen Knight.
4.30 hyd 5.30 yh: Declan Kiberd, Traddodiad a Gwrthsefyll: Dylanwad yr Iaith Wyddeleg ar Ffuglen John McGahern. Cadair: Catherine Belsey.

5.00 hyd 7.30 yh: Derbyniad a noddiwyd gan y Bonheddwr Jim Carroll, Prif Gonswlad Iwerddon yng Nghymru.

Trefnwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Fforwm Cymru y Newyn gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd, yr Academi Gymraeg, Pwyllgor Iwerddon Cysylltiadau Diwylliannol a Comhluadar Caerdydd.

English

Hafan / Abhaile / Home