< HTML> Geiriau'r Bonheddwr Jim Carroll, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru, ym Mhabell y Cymdeithasau, Tŷ Dewi, 5 Awst 2002.

Geiriau'r Bonheddwr Jim Carroll, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru, ym Mhabell y Cymdeithasau, Tŷ Dewi, 5 Awst 2002.

Gyfeillion Iwerddon a Chymru, bendithion i chwi o Iwerddon a chroeso i'r seiat yma heddiw.
Er mwyn hwyluso ein gorchwyl, gwrandewch i'r ddarn hon o lythyr a ysgrifennodd y Bonheddwr R. Griffithe at y Cardinal Wolsey (1475 - 1530) :

"…sut gymaint o Wyddelod a gyrchodd yn ddiweddar tu fewn i'r dau fis ar ddeg a aeth heibio, i Sir Benfro, Argwlyddaeth Hwlffwrdd ac ar hyd yr arfordir at dref Tŷ Dewi…i fyny at 20,000 o bobl neu ragor…"

Mil o flynyddoedd yn gynharach pan y ganed Dewi ‒ oddeutu'r flwyddyn 520 ‒ roedd Gwyddyl, Déisí o'r ardal lle y ceir gorllewin Waterford a de ddwyrain Tipperary nawr, mor niferus hynny yn Sir Benfro fel y siaredir y Wyddeleg ar raddfa eang ochr yn ochr â'r Gymraeg.
Pan sefydlodd Dewi ei fynachlog yng Nglyn Rhosyn lle mae'r Gadeirlan heddiw dywedir ei fod yn gorfod clirio pennaeth Gwyddelig o'r enw Boia allan o'r fan cyn iddo gychwyn arni!
Ar ddiwedd ei bywyd wrth iddo farw ‒ oddeutu'r flwyddyn 589 ‒ dywed y bardd Saunders Lewis yn ei gerdd fawreddog, Pregeth olaf Dewi Sant:

“Ni bu mor ymerodrol un ymachlud haul
 gorymdeithio Dewi o senedd Frefi
I’w huno yn y wawr a’r glyn rhosynnau…
Taenwyd y gair drwy lannau Cymru a llannau
Iwerddon dirion. Bu cyrchu i Dŷ Ddewi,
Saint dwys ynys yn cynhebrwng eu sant;…”

Does 'na ddim amheuaeth i bri a chlod Dewi gyrraeddd "llannau Iwerddon dirion" achos, yn rhyfeddol iawn, mai yn llawysgrifau Gwyddelig y ceir y cyfeiriadau cynharaf at nawddsant y wlad hon.
Ceir yr esboniad mewn llyfryn pwysig yn y Gymraeg, Seintiau Cynnar Cymru, gan Daniel Mullins a ddaeth allan eleni. Cyn-esgob yr esgobaeth Gatholig, Mynyw, sydd yn ymestyn o Abertawe i Benfro ac i fyny hyd at Aberystwyth, ydy'r Gwyddel hwn a ddysgodd 'iaith y nefoedd' hyd nes iddo gael meistrolaeth ysgolhaig arni hi.
Fel hyn y mae'r Esgob Mullins yn esbonio'r hanes:

“Yn ddiddorol iawn, yn y Croniclau Gwyddelig y ceir y cyfeiriadau cynharaf at nawddsant Cymru. Islaw digwyddiadau’r flwyddyn 588 mae Tirechan yn crybwyll Dauid Cille Muine, gan gyfeirio at ei farwolaeth mae’n debyg. Yng nghroniclau Inisfallen, islaw’r flwyddyn 589, gwelir Quies Dauid Cille Muine.”

(Wrth gwrs, y peth a olyga Muine ydy Mynyw, enw a briodolir i fynachlog Dewi o'r cychwyn cyntaf, efallai.)

Rydym ni'n ffodus i fod yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf a fu erioed yn Nhŷ Dewi. Fel Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru derbyniaf fod yma gyda chwi heddiw tros lywodraeth a phobl Iwerddon er mwyn lansio'r gyfres o ddarlithoedd hon yn fraint arbennig iawn.
Pedair blynedd yn ôl, ychydig fisoedd cyn i Brifgonswl Iwerddon lanio yng Nghaerdydd, trefnodd Fforwm Cymru y Newyn gyfres o ddarlithoedd am y cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru. Ym Mhenybont-ar-Ogwr yr oedd yr Eisteddfod y flwyddyn honno, wrth gwrs. Trefnon nhw'r ail gyfres wrth i'r Eisteddfod fod yn Llanelli yn y flwyddyn 2000. Fyn nghyfaill Conor O'Riordan a lansiodd y gyfres o ddarlithoedd honno.
Datganaf fy niolchgarwch eithaf i'r Fforwm Cymru y Newyn am eu gwaith ac yn arbennig i'w hysgrifennydd penigamp, Barra Ó Tóibín.
Yn ystod yr wythnos hon byddwn ni'n gwrando i dair darlith. Byddwn ni'n clywed fel a newidodd ein cysylltiadau gyda'n gilydd o'r cyfnod cynnar pan mai'r cleddyf oedd y symbol a ddangosai am y gorau y 'perthynas' a fu rhyngom ni hyd ein dyddiau ni pan mai'r llaw yn ymestyn dros y môr er mwyn dangos cyfeillgarwch a chroeso i ni'n dau ydy'r symbol a ddengys am y gorau y ddolen agos sydd mewn bodolaeth heddiw.
Datganaf fy niolchgarwch arbennig i'n cadeirydd heddiw, Cynog Dafis, A.C., ac, wrth gwrs, i'r dau gadeirydd arall yn ystod y gyfres, y Tad John Fitzgerald, caplan yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth a fydd wrth y llyw yfory ac y Tad Pádraigh Ó Fiannachta, Offeiriad y Plwyf, An Daingean (Dingle), Swydd Kerry. ar Ddydd Mercher.
Datganaf fy niolchgarwch arbennig i'n siaradwr heddiw, y Dr. Diarmait Mac Giolla Chríost ac i'r dau siaradwr arall, y Bonheddwr Dewi Evans o Goleg y Brifysgol, Dulyn, yfory, ac i'r Gwir Barchedig J. Wyn Evans, Deon Tŷ Dewi, ar Ddydd Mercher.
Croeso a chant i chi i gyd!

(Trosiad i'r Gymraeg o eiriau gwreiddiol Jim Carroll yn y Wyddeleg sydd uchod).

Eisteddfod 2002 Tŷ Dewi.

The Leek and the Shamrock

Y Genhinen a'r Siamrog

Home / Hafan