Taith Gerdded Doolough y Newyn Mawr, 1849 – 1999

Ym mis Mai, 1998, cymerodd grŵp o bobl ran yn yr 11eg taith gerddedd flynyddol Louisburgh / Doolough.

Pwy? Beth? Ble?

Gadewch i ni gychwyn eto. Awn yn ôl i Louisburgh, pentref yn Swydd Mayo, Iwerddon. Mae mis Mawrth, 1849, yn dod i ben. Mae hi'n wlyb, yn wyntog ac yn oer ac mae'r ychydig plant a hen bobl a erys yn y hofelau digysur yn syllu dan anobaith i dywyllwch y storom. Gadewodd eu pobl, cannoedd ohonynt, y pentref yn y bore ar antur gorffwyll a diobaith. Ers tair blynedd pydrodd eu tatws yn y caeau; aeth llwgu a thwymyn ag aml i wr, i ddynes ac i blentyn i'r bedd; pwysodd y landlord ar y bobl anffoddus am ei rent; digwyddiadau cyffredinol oedd dadfeddiannau a chwalu tai. Bellach, gyda dim bwyd ar gael, gyda dim tatws had er gyfer plannu'r gwanwyn a chyda dim hunanbarch ar ôl, aeth y bobl yr oedd y nerth ganddyn nhw i ffwrdd yn y bore a cherdded chwech milltir ar hyd llwybr y mynydd i'r plas yn Doolough ('Y Llyn Du') lle'r oedd Bwrdd Gwarcheidwaid y wyrcws lleol yn cyfarfod. Aethon nhw er mwyn ymbil ar eu meistri, yn enw Duw, am fwyd ac am dystysgrifau amddifadrwydd fel y cawn fynediad i'r wyrcws hwnnw.
Troes eu profedigaeth yn chwedl ‘Gorymdaith Farwolaeth Doolough’. Do, mi gyrhaeddon nhw’r plas cyfforddus tu hwnt i'r Llyn Du a mi bledion nhw eu hachos y gorau a allent. Ond ofer oedd eu holl ddagrau. Fe’u gwrthodwyd nhw heb na bwyd na thystysgrifau amddifadrwydd.

Daeth tro gwael ar y tywydd gyda storom a glaw a mi wynebodd y bobl drist eu ffordd yn ôl mewn oerni a thywyllwch. Bu farw o leiaf 20 ac o bosibl 100 yn yr oerfel.

(Os am geisio dychmygu profedigaeth y Gwyddelod 150 o flynyddoedd yn ôl edrychwch ar bobl drychinebus Kosovo ar ffoi…)

Yn 1984 clywodd aelodau mudiad Gwyddelig dros hawliau dynol yr Archesgob Tutu yn adrodd stori am ferch yn un o dreflannau De Affrica. Mi ddywedodd y ferch fod ei theulu, pan nad oedd dim byd yn y bwthan, yn “benthyca bwyd” gan eu cymdogion. “Ond beth a wnewch chi pan nad oes dim bwyd i’w fenthyca?” “Yfwn ddwr i lenwi ein bolau.” Corddodd y stori honno feddyliau’r Gwyddelod nes iddyn nhw gofio eu hanes eu hunain a lansio’r ‘Cynllun y Newyn Mawr’. Un o elfenau'r cynllun hwnnw oedd dechrau, yn 1988, gorymdaith flynyddol o dan y teitl, ‘Taith Gerdded Doolough y Newyn Mawr’, er mwyn cofio’r daith orffwyll ym mis Marth, 1849. Ond dangosodd y trefnwyr cyfoes ddoethineb cymeradwy drwy olrhain hynt y daith ddagreuol wreiddiol ym mis mwynach Mai. Un o nodweddau pwysicaf y teithiau cerdded hyn i gyd oedd cael cynrychiolwyr gan rhai o'r cymunebau a grwpiau mwyf ar y cyrion yn y byd fel ‘Arweinwyr y Gerdded’. Bu Archesgob Tutu ei hun yn un o’r rhain yn 1991.

Ym mis Mai, 1997, un o’r ‘Arweinwyr y Gerdded’ hynny oedd y Tad Brendan Forde OFM a dreuliodd flynyddoedd lawer yn yr Amerig Lladin. Mewn erthygl a ysgrifennodd yn nes ymlaen mi ddywedodd: “Gadawson nhw i filiwn o bobl drigo yn Iwerddon bryd hynny ac heddiw mi fydd yr un peth yn digwydd o gwmpas y byd. Ar ein llwybr, felly, we remember them. Ond nid peth un ffordd mohono fe – they ‘re‑member’ us also. Mi ddôn nhw â ni yn ôl gyda’n gilydd, mi fyddan nhw’n ein hatgoffa o’r ffaith ein bod ni’n ‘members’ o’r un teulu, ein bod ni i gyd yn chwiorydd ac yn frodyr ac mi fyddan nhw'n ein hysbrydoli i ymestyn allan tuag at y bobl sydd yn dioddef heddiw.”

Mae hi’n 150 o flynyddoedd ers i gymuneb Wyddelig newynog fentro ar eu taith anobeithiol. Mae hi hefyd yn 150 o flynyddoedd ers y flwyddyn a gydnabyddir fel yr un olaf yn ‘Y Llwgfa Fawr’. Eleni trefnwyd y daith gerdded Louisburgh‒Doolough am y tro olaf yn ein cyfnod ni ar Ddydd Sadwrn 15 Mai. Kim Phuc a dewiswyd fel ‘Arweinwyr y Gerdded’ eleni. Mi ymddangosodd gerbron y dorf o gerddwyr fel dynes ddymunol a hoffus a oedd yn siarad yn glir ac yn fachog am ei phrofedigaeth erchyll. Cafwyd ias o ddychryn wrth iddi godi ei llawes er mwyn dangos y creithiau parhaol ar groen ei braich, creithiau sydd yn sicrhau na fydd hi byth yn anghofio beth a allai bomio wneud i gorff plentyn.

Wrth iddi droi ei sylw at y bomio yn Serbia apeliodd, gyda dagrau, at wledydd NATO beidio â bomio fel y cai'r Cenhedloedd Unedig gyfle i unioni problemau dyrys Kosovo a Iwgoslfia.

Ymysg y rhai yn bresennol oedd y diweddar Kate Baillie ac Andrew Jinks, cynrychiolwyr Chwith Democrataidd Cymru a Barry Tobin o Fforwm Cymru y Newyn.

©: Kate Baillie, 1999.

Erthygl fer arall

Gaeilge
English.

Adref/Home