Dyled a Datblygu



A oes rhaid i ni newynu ein pobl hyd angau er mwyn ad‑dalu dyledion?
Julius Nyerere, Cyn‑Arlywydd Tanzania.

Y mae pobl ledled Affrica, Asia a De America yn gofyn yr un cwestiwn: paham mae’n rhaid iddynt newynu er mwyn ad‑dalu dyledion eu gwledydd?
Gwelant y tir gorau’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau allforio fel tybaco, cotwm, soïa a chansen siwgwr tra na roddir cefnogaeth i gnydau fel ffa, casafa ac eraill, sy’n brif ymborth y bobl. Paham? Y mae allforion yn ennill y doleri y mae eu hangen i ad‑dalu dyledion. Un o’r pethau cyntaf y ceir gwared ag ef pan orfodir i lywodraeth sydd mewn dyled arbed arian yw cymorthdaliadau bwyd. Bydd prisiau’n saethu i fyny a’r bobl yn bwyta llai. Cynydda camfaeth, yn enwedig ymhlith y plant.
Mae gwledydd datblygol yn suddo dan faich dyled gynyddol. Tala gwledydd tlawd $542 miliwn y dydd i wledydd diwydiannol, i fanciau, i’r Gronfa Arian Gydwladol ac i Fanc y Byd. Yn ogystal â dihysbyddu adnoddau’r gwledydd datblygol er mwyn ad‑dalu dyledion iddynt hwy eu hunain, y mae’r Gronfa Arian Gydwladol a Banc y Byd yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau y parha gwledydd datblygol i ad‑dalu eu holl ddyledion.
Dyled y ‘Trydydd Byd’ ydyw un o brif anghyfiawnderau’r byd heddiw.
Y mae llawer o rwpiau datblygu, cenhadu a chefnogi Gwyddelig sydd yn gweithio mewn gwledydd datblygu wedi gweld iddynt hwy eu hunain y tlodi cynyddol sydd yn deillio o’r ymdrechion i ad-dalu dyledion. Ymunasant ’i gilydd i ffurfio Cyngrair Iwerddon Dyled a Datblygu i weithio am ddatrysiad cyfiawn a pharhaol i broblem dyled. Gan fod Iwerddon yn aelod o’r Gronfa Arian Gydwladol a Banc y Byd, y mae’n rhaid i ni rannu cyfrifoldeb am effaith ddinistrwyol eu polisiau.
Galwn ar i Lywodraeth Iwerddon ddefnyddio ei holl ddylanwad yn y Gronfa Arian Gydwladol a Banc y Byd i gyflawni’r newidiadau anghenreidiol canlynol ar frys:

a)Dileu’r dyledion sydd ar y gwledydd tlotaf iddynt.
b)Pwysleisio cael gwared â newyn a thlodi yn hytrach nag ad‑dalu dyledion.

Cynghrair Iwerddon Dyled a Datblygu (‘Debt and Development Coalition’), Dalgan Park, Navan, County Meath. Ffôn 00 353 46 21525.



Cyfiethiad ©: Muiris Mag Ualghairg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Caerdydd.

Y Ddraig Werdd, Rhifyn 1, Gaeaf, 1996.

Adref/Home