Dysgu Hanes

Chefais i erioed ddysgu hanes Iwerddon yn yr ysgol, bu’n rhaid i mi ganfod y ffeithiau fy hun. Ond un o’r pethau y clywais gyfeiriad sydyn ato tra’n dysgu hanes Prydain oedd ‘The Irish Potato Famine’. Ym 1846, roedd y cnwd tatws wedi ei ddifetha yn Iwerddon a bu newyn o ganlyniad. Aeth cryn dipyn o flynyddoedd heibio cyn i mi sylweddoli mor gyfeiliornus ac anghyflawn oedd y syniad hwn. Eto, dyma’r syniad sydd gan fwyafrif y bobl sydd wedi mynd drwy ‘r gyfundrefn addysg Brydeinig. Anlwc oedd y pla ac roedd yn hynod anffoddus fod y Gwyddelod mor hoff o datws. ‘Caricatures’ hiliol fel hyn sy’n peri fod hanes mor ddiystyr inni.

Nid oedd y Gwyddelod yn fwy hoff o datws na’r un genedl arall — digwydd bod mai dyma oedd y bwyd oedd ar gael iddynt. Fel yr arweiniodd dibyniaeth lwyr y Cymry ar lo at ganlyniadau trychinebus, felly yr arweiniodd dibyniaeth lwyr y Gwyddelod ar datws at newyn erchyll. Mae unrhyw ormes o raid yn cyfyngu ar ddewis y gorthrymedig. Mewn gwlad rydd, gallai trychineb fod wedi ei osgoi drwy ganolbwyntio ar gynnyrch arall, ac er mor fawr oedd graddfa’r newyn, gall rhaglen gynllunio synhwyrol fod wedi achub miloedd. I ddeall gwir drychineb y newyn, rhaid sylweddoli cyn lleied o reolaeth oedd gan y Gwyddelod ar eu tir eu hunain. Landlordiaid oedd yn byw ymhell o Iwerddon oedd pia’r tir., a gai ei reoli gan feistri dros dro. Pan fethodd y cnwd tatws, chafwyd fawr o gydymdeimlad o du’r landlordiaid. Ni ystyriwyd y Gwyddelod yn bethau fawr gwell nac anifeiliaid.

Yn ychwanegol at y marwolaethau a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i’r newyn, cafwyd aniddigrwyd cymdeithasol ar raddfa eang. Pan fethai’r tenantiaid â thalu’r ddyled, caent eu hel o’u cartrefi gan y Fyddin. Yn ystod y pum mlynedd wedi 1845, lluchiwyd 80 mil o deuluoedd o’u cartrefi. Os nad oeddynt am gael eu gwahanu yn y Tloty, yr unig ddewis oedd ganddynt oedd byw’n wyllt mewn ogofau ac ar ffo ar y ffyrdd. Aeth y sefyllfa cynddrwg fel ei bod yn rhatach i roi taith am ddim i’r rhain i fynd i’r Amerig nad ydoedd i roi cymorthdal iddynt. Dyna i mi y rhan fwyaf cherw o’r stori. Gorfodwyd pobl nad oedd wedi bod mewn cwch yn eu bywydau i wneud y daith beryglus o Iwerddon i America. Bu farw miloedd wrth groesi. Wn i ddim ai lwcus oedd y rhai a oroesodd. Wei iddynt gyrraedd America a Chanada, doedd yna ddim ar eu cyfer, dim ond llafur caled.

Cyrhaeddodd rhai Gymru, a gwyddom am y rhagfarn sydd wedi bod tuag at Wyddelod yma yn ein gwlad ni, er mawr cywilydd inni. Roedd amodau byw Gwyddelod alltud yng Nghaerdydd yn enbyd. Dyma oedd hanes y Gwyddelod pa le bynnag yr aent.

Beth ddylai ein hymateb ni fod heddiw, ganrif a hanner wedi’r newyn? Yn syml iawn, gallwn addysgu ein hunain a chanfod y gwir ffeithiau am sefyllfa 1845. Gwers syml iawn ydyw — pa mor enbyd y gall dioddefaint pobl fod pan nad oes ganddynt y modd o reoli eu tir, eu cynnyrch a’u llafur eu hunain. Peidiwn chreu rhyw bictiwr rhamantus‑drist o Wyddelod truenus yn newynu neu’n ffarwelio ’u teuluoedd ar gei. Yn hytrach, talwn deyrnged i’w hysbryd rhyfeddol yn ystod y blynyddoedd hyn. Atgoffwn ein hunain o un ffaith syml — o ganlyniad i’r Newyn, bu farw miliwn o bobl a phlant, sef un allan o bob wyth ym mhoblogaeth Iwerddon ar y pryd. O ganlyniad i’r polisi ymfudo, gadawodd miliwn arall Iwerddon i gartrefu mewn gwlad newydd. Diflannodd chwarter poblogaeth Iwerddon mewn pum mlynedd. Gormes a barodd hyn, gormes a arweiniodd at ddioddefaint na ddylem byth ei anghofio. Dyw canrif a hanner ddim yn amser mor hir â hynny.

©: Angharad Tomos.

Y Ddraig Werdd Rhif 2, Gwanwyn 1997

Gaeilge / Gwyddeleg

Hafan