Euog? Fi?



Fe awgrymwyd yn ddiweddar fod y llythrennau BSE yn sefyll dros ‘Blame Someone Else’. Mae ‘na duedd gymhleth felly ynom i gyd. Ond mae ‘na un arall hefyd, tuedd i deimlo’n euog am rywbeth na fuom mewn gwirionedd yn gyfrifol amdano. Weithiau mae’r rhai a ddioddefodd y drychineb ac sy’n ei goroesi yn teimlo’n euog fel petai am eu bod wedi goroesi. Teimlo’n annifyr y byddan nhw, er bod rheswm ystyriol yn dweud nad nhw oedd yn gyfrifol am y drychineb, oblegid mai dod arnyn nhw a wnaeth. Fe fydd grym y teimlad mor gryf fel na wnân nhw dderbyn rhesymau yn ei erbyn, ond yn hytrach hel rhesymau pam y maen nhw wedi’r cwbl yn rhannol gyfrifol o leiaf. ‘Mi allwn fod wedi gweithredu, methu a wneuthum.’ Ar y llaw arall, ceir fod y rhai a fu’n gyfrifol am y drychineb , pa un ai o led fwriad neu o leiaf ‘trwy ofer esgeulustod’, yn bur barod i briodoli’r cwbl i achosion y tu hwnt i reolaeth ddynol, neu hyd yn oed i’r dioddefwyr. Ni theimlant yn euog o gwbl. Oedd; yr oedd ‘gwylwyr yn y tir’ yn Iwerddon ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ar bymtheg, ac yr oedd nifer ohonynt wedi rhybuddio’n eglur a thaer fod newyn ar ddod, ac wedi dod. Ac yr oedd ‘gwylwyr’ eraill (o ran enw a swydd a chyfrifoldeb) yr adeg honno yn Nulyn a Llundain, rhai oedd yn gwrthod coelio’r rhybudd, gan ddweud fod yn rhaid aros i gael barn gwyddonwyr ar y mater. (Gweler y dystiolaeth gyfoes a gasglwyd gan John O’Rourke, The History of the Great Irish Famine of 1847, Dulyn 1874.) Onid oes yma ddameg i’n oes a’n byd ni?



©: John of the Cross FitzGerald, O.Carm., Aberystwyth.

Y Ddraig Werdd Rhif 2

Yn y Wyddeleg

Hafan