Newyn 150: Ffeithiau’r Newyn

Yn y pum mlynedd rhwng 1845 a 1850 bu farw dros filiwn o bobl oherwydd y Newyn a bu’n rhaid i filiwn arall ymfudo: “gadawodd bron i chwarter y boblogaeth naill ai am y Byd Newydd neu’r byd nesaf o fewn cryn bum mlynedd.”
Yn yr hanner canrif cyn y Newyn roedd poblogaeth Iwerddon wedi dyblu i dros wyth miliwn.
Yn y 1840au roedd incwm y pen yn yr Iwerddon yn llai na hanner hwnnw ym Mhrydain.
Gellir prinder o ryw 10% yn y cyflenwad bwyd achosi newyn. Ym 1845 roedd cyflenwad bwyd yn Iwerddon i lawr o 10% ac ym 1846, 1847 a 1848 gwelwyd gostyngiad pellach eto o 25% i 30%.
Ym 1841 roedd hanner teuluoedd cefn gwlad yr Iwerddon yn byw mewn pentai llaid un ystafell. Yng Ngorllewin Corc ym 1841 trigai mwy na 80% y boblogaeth yn y fath gytiau. Cafodd hyd at 70% o’r cytiau hyn eu dymchwel neu’u cau rhwng 1841 a 1851, yn bennaf o ganlyniad i’r Newyn.
Amaethyddiaeth a gynhaliai ddwy ran o dair y gweithlu – dim ond un o bob saith a drigai yn y trefi a’r dinasoedd.
Rhwng 1846 a 1855 ymfudodd tua dwy filiwn o bobl a gwelodd yr hanner canrif nesaf ymadael pellach o ryw 2.5 i 3 miliwn o Wyddelod. Ymfudodd cyfanswm o ryw 4.5 i 5 miliwn o bobl yn y cyfnod o 1846 hyd 1915.
Yn yr 1840au roedd dros 600,000 o lafurwyr heb dir yn cystadlu am ‘conacre’ (gosod) gyda rhent 4 i 8 yr erw lle gallent dyfu cnwd o datws i gynnal eu teuluoedd.
Tyfid dros 6 miliwn erw o gnydau yn y cyfnod hwnnw o’i gymharu ag ychydig dros un filiwn heddiw.
Cynhyrchid tua 15 miliwn tunnell o datws i’w bwyta bob blwyddyn yn Iwerddon yr 1840au – mwy nag ugain gwaith yr hyn a gynhyrchir heddiw. Heddiw bwytir ychydig o dan 0.8 miliwn tunnell o datws yn Iwerddon bob blwyddyn.
Er nad oedd technoleg heddiw ar gael roedd y cnydau tatws cyn y Newyn yn eithaf da – dim ond yn yr hanner canrif ddiwethaf mae’r cnydau modern wedi bod yn fwy cynhyrchiol na rheiny o’r cyfnod cyn y Newyn.
Bu pedwar math o daten yn gyffredin o’r 1730au hyd at ddyfodiad clwy’r tatws: y Ddu, yr Afal, y Gwpan a’r ‘Lumper’. Yn ystod y cyfnod hwnnw disodlwyd yr Afal ardderchog gan y Gwpan a gynhyrchai 10% i 15% yn fwy er nad oedd cystal ei hansawdd. Yn ei thro disodlwyd y Gwpan hithau gan y ‘Lumper’ a gynhyrchodd tua 10% i 15% yn fwy eto er yn llawer llai derbyniol ei hansawdd. Gyda’r trawsnewidiad hwn aeth y cynnyrch i fyny 20% i 30% a sefydlwyd y ‘Lumper’ fel prif daten y tlodion. Trwy’r newid tyngedfennol hwn aeth y boblogaeth yn llwyr ddibynnol ar fath o daten a oedd yn debygol iawn o ddioddef clwy’r tatws. Yn y cyfnod cyn y Newyn arferai’r Gwyddel fwyta 14 pwys o datws yn feunyddiol pan fyddai digonedd ar gael. Hyd yn oed o gofio y bwytid tatws ymhob un o’r tri phryd beunyddiol, mae’n anodd dychmygu sut y gallai dyn iach fwyta dyweder 70 taten bob dydd a dynes dim ond ychydig yn llai – rhyw 55 taten ar gyfartaledd.
Yn 1846 roedd clwy’r tatws yn rhemp a’r cynnyrch tua un rhan o ddeg o’r cnwd arferol – digon i fwydo’r boblogaeth am un mis yn unig. Byddai angen mwy na 3 miliwn tunnell o rawnfwyd i wneud iawn am y prinder o 13 miliwn tunnell yn y cnwd tatws.
Cynyddodd nifer y bobl yn y tlotai yn gyflym yn ystod y Newyn i uchafswm o 217,000 ym 1851.
Cafodd bron i 80,000 o deuluoedd eu troi allan o’u cartrefi rhwng 1846 a 1851. Erbyn Chwefror 1846 derbyniai 450,000 o bobl gymorth allanol ac roedd y ffigwr bron dyblu (830,00) erbyn Mehefin yr un flwyddyn.
Ym mis Gorffennaf 1847 casglwyd dognau o’r ceginau cawl bob dydd gan dros 3 miliwn o bobl.
Cafodd bron i 80,000 o deuluoedd eu troi allan o’u cartrefi rhwng 1846 a 1851. Ym mis Gorffennaf 1847 casglwyd dognau o’r ceginau cawl bob dydd gan dros 3 miliwn o bobl.
Gwariwyd bron i 5,000,000 ar gymorth i’r tlodion yn hydref a gaeaf 1846/47. Disgynnodd nifer y llafurwyr o fwy na hanner rhwng 1845 (700,000) a 1910 (300,00).
Darganfuwyd cemegyn i atal clwy’r tatws ym 1882 pan sylwodd M. Millardet o Ffrainc fod y grawnwin wrth ochr y ffordd a gafodd eu gwlychu chymysgedd o Swlffad Copr (y Garreg Las) a Chalch Hydradol wedi aros yn rhydd o’r llwydni blewog. Erbyn 1885 roedd M. Millardet wedi dangos effeithiolrwydd y driniaeth hon wrth atal clwy’r tatws mewn arbrofion maes.
Heddiw mae Iwerddon yn dal i fwyta mwy o datws na’r un wlad arall. Yn Ewrop mae pob person yn bwyta rhwng 50 a 100 Kilo ar gyfartaledd bob blwyddyn tra yn yr Iwerddon mae pob un yn bwyta’n agos i 139 Kilo.

Cyfiethiwyd yr erthygl hon gan Julia Burns o daflen a gyhoeddwyd yn Saesneg gan TEAGASC (Awdurdod Datblygu Amaethydiaeth a Bwyd), 19 Sandymount Avenue, Dulyn 4. Ffn : 00 353 / 1 / 668 8188. (‘Teagasc’ = hyfforddiant).

English

Y Ddraig Werdd Rhif 1

Leathanach Baile / Hafan / Home Page