Grosse Île, Quebec: Araith yr Arylwydd Mary Robinson

Ar 21 Awst, 1994, ymwelodd Mary Robinson, Arlywydd Iwerddon, ag ynys Grosse Île, Quebec, lle bu farw pymtheg mil o Wyddyl, yn wyr, yn wragedd ac yn blant, o ‘Dwymyn y Newyn’. Ceisiasent loches rhag y Newyn Mawr yng Nghanada. Dyma destun ei haraith:

“Mae gan ynysoedd eu harddwch arbennig eu hunain ac nid eithriad yw Grosse Île. Ond y mae Grosse Île – Oileán na nGael – L’île des Irlandais – Ynys Y Gwyddyl – yn neilltuol. Credaf y byddai hyd yn oed y sawl a ddaw i’r ynys hardd hon, heb ymwybod o’r drychineb a ddigwyddodd yma, yn synhwyro ei gwahaniaeth. Yr wyf yn sicr na fedr neb a wyr am y stori fod yn ddi–hid.

Llecyn cysegredig yw hwn.

Yr ydym yma nid er mwyn anrhydeddu ynys, waeth pa mor hardd, eithr i alw i gof drychineb ddynol ar raddfa ddychrynllyd. Y mae creiriau’r drychineb hon ond yn rhy weladwy. Ymddengys fod anhysbysedd amlwg y beddau torfol a nodi’r gyda’u croesau gwynion bychain yn ychwanegu at eu llymder. Gwyddom er hynny fod pob un yn cynrychioli nid yn unig angau anamserol ond cwymp breuddwydion llawer o bobl.

Mae’n iawn meddwl am yr hyn a ysbrydolodd neu a yrrodd y dynion a’r merched cyffredin hynny, y rhan fwyaf ohonynt yn brin eu hadnoddau, llawer ohonynt ar fin eu dinistrio, i adael eu gwlad a chychwyn, llawer ohonynt gyda phlant ifainc, ar daith beryglus. I ormod ohonynt eu dewis oedd rhwng llwgu i farwolaeth, mynd i mewn i’r tloty lle rhennid teuluoedd, neu fôrdaith, wedi’i noddi gan y Landlord, i’r Byd Newydd. Pa un bynnag, câi’r bwthyn ei ddi–doi a’r denantiaeth ei hildio. Dewis gwael ydoedd.

Nid oes rheswm unigol i esbonio trychineb y Newyn Mawr a’r Gwasgaru y cyfrannodd gymaint iddo. Trychineb naturiol oedd methiant y tatws a effeithiodd ar wledydd eraill yn Ewrop ar y pryd. Eithr yn Iwerddon digwyddodd mewn fframwaith gwleiddydol, economaidd a chymdeithasol anghyfiawn. Bu’r canlyniadau yn drychinebus yn Iwerddon ei hun ond, tramor, esgorasant ar greu, neu ar gyfnerthu, cymunedau Gwyddelig mewn llawer o wledydd gan gynnwys Canada.”

(Dechreuodd siarad yn yr Wyddeleg yma):

“Teimlir urddas yn y fan hon er mai urddas y galar ei hun ydyw. Mae hi’n gywir ac yn deg i ni ddathlu ein pobl ein hunain sydd o dan y dywarchen hon. Mae rhaid i ni ddwyn i gof yr amgylchiadau erchyll a drechodd eu perthnasau a’u ffrindiau yma. Goresgynasant bob rhwystr. Brwydrasant â bywyd, tyfasant a datblygasant. Mae plant eu plant yn blodeuo yng Nghanada. Rhan o ystof ac anwe cymdeithas Canada yw’r bobl a ddeilliodd o Iwerddon. Gadawasant ôl sylweddol ar bob agwedd o fywyd. Pan gofiwn anfanteision eu cyfnod cawn amgyffred eu camp. Mewn gwirionedd mae gennym reswm dros y balchder cenedl a deimlwn.”

(Dechreuodd siarad yn Ffrangeg yma):

“Sylwyddolir gwirionedd yr arysgrif Ffrangeg ar y groes Geltaidd: ‘Ceux qui sèment dans les larmes moissonneront dans la joie.’ (‘Y rhai sydd yn hau mewn dagrau a fedant mewn gorfoledd’.). Mae hi’n weddus myfyrio ar y gorffennol, waeth pa mor chwerw a fo. Mae’n weddus wylo am y drychineb ddynol a ddigwyddodd yma. Ond nid yw hynny yn ddigon. Mae hi yr un mor angenrheidiol i ddysgu gwersi ganddi. Ceir ffeithiau poenus o’r cyfnod, y dadfeddiannu, y tristwch, y clefydau, y nacâu cyfiawnder, yr esgeulustod, a hyd yn oed cyfrifoldeb y pwerau gwleidyddol a ddengys yr ochr ddu o fywyd, ond hefyd ceir rhywbeth i godi’n calonnau.
Oherwydd yr anawsterau a pheryglon sylweddol a beryglai’u bywydau roedd gweithredoedd dynion a merched Canada yn wych. Fodd bynnag, ar y cyfandir, caewyd y porthladdoedd wrth i’r Gwyddyl gyrraedd. Yng Nghanada dangosodd y bobl, a phobl Quebec yn arbennig, drugaredd anghyffredin tuag at y Gwyddyl,yn wyr ac yn gwragedd, yr anghenus a’r claf.
Daeth y clerigwyr, boed yn Brotestanaidd neu yn Gatholig, â chysur i’r cleifion a gofal i’r goroeswyr. Ymysg yr offeiriaid hyn cafwyd Elzéar Alexandre Tascherau, a oedd i ddod yn Gardinal – Archesgob Canada.
Ym Montréal gofalodd y Lleianod Llwydion (‘Les Soeurs Grises’) am y cleifion yn yr ‘Hospital Sheds’ / ‘Les Abris de Secours’ / ‘Y Llochesau Cynorthwyo’) a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y mewnfudwyr o Iwerddon. A phan yn eu tro glafychodd y Lleianod Llwydion hwytha daeth y Lleianod Cariad (‘Les Soeurs de la Charité’) yn eu lle. Mae rhaid cofio hefyd am Mr. John Mill, Maer Montréal, a gollodd ei fywyd yntau wrth iddo ofalu am y cleifion.”

(Ailddechreuodd siarad Saesneg):

“Y mae arnom ddyled o ddiolchgarwch i bob un o’r bobl ddewr a thosturiol hynny, lleygwr unigol a chlerigwr, Protestant a Chatholig, y siaradwr Saesneg a’r siaradwr Ffrangeg, yn Quebec ac yn rhannau eraill o Ganada, a roes gymorth i, ac a ofalodd am, y Gwyddyl claf ac anghenus mewn perygl mawr personol, ac a roes gartrefi i’r plant a amddifadwyd. Talaf deyrnged i’w cof ar fy rhan i ac ar ran pobl Iwerddon. Yng ngeiriau Máirtín Ó Direáin, bardd o ynys hardd arall:

‘Maireann a gcuimhne fós i m’aigne
Is mairfidh cinnte go dté m7eacute; i dtalamh.’

(Erys eu coffadwriaeth o hyd yn fy meddwl
Ac erys yn sicr nes i mi fynd i’r pridd.)

Yn y fangre hon o goffadwriaeth ac o edifeirwch credaf fod gennym gyfle i edrych yn ôl ar ein perthynas â’n gorffennol. Bu’r gwyr a gwragedd a ddaeth yma yn yr 1840au yn ddiymadferth o flaen trychineb hanesyddol enfawr. Gall eu diymadferthwch ein camarwain i gredu ein bod ninnau hefyd yn ddiymadferth yn ein hagwedd tuag at orffennol na fedrwn ei reoli na’i newid byth. Ond nid ydym. Mae gennym y cyfle i ddewis heddiw rhwng bod yn gynulleidfa neu’n actorion yn theatr anferth y dioddefaint dynol sydd yn datblygu trwy gydol hanes dynol.

Os yn gynulleidfa yr ydym, yna dewiswn yr agwedd ei bod hi’n anochel cael mewn hanes oroeswyr a dioddefwyr ill dau. Ac o’r agwedd honno, tybiaf, daw ymbellhau sydd yn annerbyniol ac yn anfoesol. Os yn actorion yr ydym yna syweddolwn nad oes dioddefwyr anochel. Gwrthodwn y temtasiwn i ymbellhau rhag y dioddefaint o’n cwmpas – pa un ai drwy lyfrau hanes ynteu drwy luniau cyfoesol teledu a ddaw. Ac yna, er na fedrwn droi’r cloc yn ôl a newid y marwolaethau a ddigwyddodd, o leiaf yr ydym yn wynebu realiti’r bobl a fu farw drwy gymryd ystyr eu dioddefaint a’i gysylltu â’r hyn sydd yn herio ein tosturi a’n hymroddiad yn yr oes sydd ohoni yn awr.

Yn gynharaf eleni agorais Amgueddfa’r Newyn yn Nhy Strokestown, Swydd Roscommon. Yna, hefyd, roedd delweddau dioddefaint a diffeithwch. Yna, hefyd, temtiwyd ein synnwyr o arswyd tuag at ffataliaeth. Yn eironig, hwyliodd nifer helaeth o bobl o Roscommon i Ganada. Ymhob achos yr un yw’r stori. Yr hyn sydd yn amrywio yw ein penderfyniad i anrhydeddu’r digwyddiadau hynny drwy berthynas effro â hwy. Ac felly, fel Arlywydd Iwerddon, ac er cof am gymaint a fu farw yma, credaf y caf ddweud nad cenedl y bobl a fu farw yma yw’r unig beth sydd yn arbennig o Wyddelig am yr achlysur hwn.

Y mae hefyd ein teimlad, fel pobl a ddioddefodd ac a oroesodd, na rydd ein hanes i ni yr hawl i gatalog preifat yn unig o gofion. Eithr heria ni i ystyried, nid yn unig Ellen Keane fach, y plentyn pedair blwydd oed a oedd y gyntaf i farw yma ym 1847, ond y gwir, sef mai plant fel arfer sy’n dioddef gyntaf mewn newyn a dadleoli. Heria ni, yn ei henw hi, i ystyried â thrugaredd a dicter y plant eraill hynny na allwn eu henwi sydd yn marw heddiw yn Rwanda ac a welais yn y gwersylloedd yn Somalia.

Mae’r flwyddyn nesaf yn coffáu y 150fed penblwydd ers y newyn a ddifaodd Iwerddon. Ni fedrai neb, bryd hynny, ragweld neu hyd yn oed obeithio y delai gwladwriaeth fodern Ewropeaidd allan a chanddi hunaniaeth rymus a dywylliant hyderus. Mae hi’n bwysig iawn i mi bod y meirw mud amddifad mewn lleoedd fel Grosse Ile yn cael eu cofio a’u hanrhydeddu y tu mewn i’r diwylliant hwnnw. Y mae arnom i’w darostyngiad yn nwylo tynged yr un dyled o gariad ac o barch ag a roddir i unrhyw weithred ddewr neu allweddol a newidiodd gwrs hanes er ein budd ni. Ond mae hi’n bwysig hefyd y cymerom y blaen, fel cenedl a welodd dywyllwch a goleuni ffawd, nid yn unig wrth weithio’n drugareddol dros y bobl sydd yn gaeth yn awr i newyn ac i afiechyd, fel y buom ninnau unwaith, ond hefyd wrth ailddiffinio’r agwedd gyfoes tuag at y fath ddioddefaint.

Yr ydym, wrth i mi siarad, yng ngwydd eironi dirfawr hanes. O ganlyniad i hwylustod ac ymlediad cyfathrebu fe’n hynyswyd ni o’n gilydd ymhellach byth. Mae presenoldeb angau yn ein stafelloedd byw, a delweddau dechryn, yn ein gwahodd i deimlo’n ddiymadferth a thyngediaethol. Dichon mai’r gwir gyfiawnder y cawn ei wneud dros y bobl hyn a thros y sawl a fu farw drwy gydol ein newyn – efallai’r ffordd orau i’w goffáu – yw meddwl yn bendant ac yn greadigol am gyflenwi a dosbarthu nwyddau cyffredinol fel bwyd a dŵr.

Efallai’i fod hi’n llai deniadol na sefyll mewn ystum galar ac edifeirwch. Ond y mae astudiaeth ofalus a dadansoddol ynghylch cynlleied a wnaed i ddosbarthu dwr glân i ardaloedd mawr o slymiau neu i wersylloedd ffoaduriaid yn hanfodol ac yn hir–ddisgwyliedig. Ac os yr ymddengys hwn yn fanylyn rhy gyffredin, tybiaf y dylem gofio mai oherwydd manylyn methiant un cnwd y trengodd y miloedd a fu farw yma, y miloedd y diffoddwyd eu breuddwydion, y miloedd y collwyd eu dyfodol ar yr ynys hon. Y mae manylion o’r un fath o gwmpas y byd ar hyn o bryd, yn enwedig yn Affrica, sydd ag eisiau ein sylw ar frys.

Nid lle i goffáu’r gorffennol ac i anrhydeddu y sawl a gladdwyd yma yn unig yw Grosse Île. Yn ei hanfod adnodd ydyw i’n cysylltu â gwirioneddau erchyll ein byd presennol. Mae’n herio ni i wrthod y syniad o ddioddefwyr anochel, ac, wedi gwneud felly, i wynebu oblegiadau’r gwrthod hwnnw.”

Cyfiethiad ©: Julia Burns, Caerdydd.

Y Ddraig Werdd, Rhifyn 1

English

Adref / Home