Gwledydd Cyfoethog, Cenhedloedd Tlawd



“Plus ça change, plus c’est la même chose.”, meddent yn Ffrainc — “Mwya’r byd mae pethau’n newid, mwya’r byd mae’n aros r’un peth.”

Iwerddon, 1846. Gwlad gydag adnoddau cyfoethog ond gyda’i heconomi wedi’i darostwng a’i hystumio i wasanaethu anghenion gwlad arall. Gwlad amaethyddol ond gyda’i thir yn cynhyrchu nid anghenion y boblogaeth leol ond y mathau o gynnyrch oedd eu hangen gan y wlad ddiwydiannol arall honno oedd yn gymydog iddi. Gwlad gyda’r mwyafrif o’i phobl heb nag awdurdod na dylanwad dros eu hadnoddau, wedi’u gwthio i ochrau ymylol yr economi fasnachol, i ffermydd bychain ac i ddibynniant ar yr un cynnyrch oedd yn llwyddo o hyd, tan y 1840au, beth bynnag, sef y daten. Cenedl nid tlawd ond wedi’i thlodi.

Y Byd sy’n ‘Datblygu’—Affrica, dyweder —1996. Gwledydd amaethyddol unwaith eto ond gyda chanran cynyddol o’r tir yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cropiau i’w hallforio — coffi, siwgwr, coco, cotwm, baco, te, rwber, sisal, ffrwythau, olew palmwydd, etc. — yn hytrach nac i fwydo’r boblogaeth leol. Gwledydd lle mae pwysau mwy a mwy dinistriol ar y tir sy’n dal ar gael i gynhyrchu bwydfeydd i’r farchnad gartref. Gwledydd sydd a’u cynnyrch diwydiannol – olew a mwynau fel aliwminiwm, uraniwm, copr, etc. — hefyd yn cael eu hallforio, fel arfer yn eu cyflwr crai, i wasanaethu ac i gynnal cyfoeth, cwmnïau a sefydliadau yng ngwledydd y ‘Gogledd’. Gwledydd lle mae nifer bach yn elwa a’r mwyafrif mawr yn dioddef. Gwledydd, cyfoethog mewn adnoddau neu beidio, sydd mewn ‘dyled’, gyda’r ddyled honno yn cael ei harolygu a’i chynnal gan ‘heddlu masnachol’ cyfoethogion y byd, sef Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol ac eraill. Gwledydd gydag economïau mor anghyfiawn, weithiau, fel bod angen unbeniaethau gwleidyddol ffiaidd, yn aml yn cael eu cefnogi a’u cynnal gan nerth cyfoethogion y byd, i sicrhau parhad y statws quo.

A rhwng 1846 a 1996, beth sydd wedi newid tybed? Dim llawer. Mae perthnasau economaidd yn dal yn debyg iawn ac, os oes yna wahaniaethau, yn naearyddiaeth y patrwn yn bennaf y’u gwelir nhw. I bob ymddangos, y peth sydd wedi digwydd yw ein bod wedi lleddfu’r gwahaniaethau enfawr oedd yn bodoli tu fewn i Ewrop gan mlynedd a mwy yn ôl — yr agendor gymdeithasol rhwng rhannau datblygiedig a’r rhai cyntefig o’r cyfandir, yr agendor gymdeithasol rhwng y tlawd a’r cyfoethog — ac wedi’i hallforio a’i gosod i fyny ar raddfa byd¸ –eang. Y Gogledd cyfoethog a’r De tlawd. Yn wir, onid maeth o’r De sydd wedi’n galluogi i greu cymdeithasau mwy cyfiawn (oherwyd mwy cefnog) yn y Gogledd?

Yr un peth hefyd yw canlyniadau’r berthynas anghyfartal. Tlodi, gwasanaethau addysg ac iechyd nad ydynt yn cyrraedd y rhai mewn mwyaf o angen, cyfundrefnau cymdeithasol yn torri i lawr. Pwysau mwy a mwy ar dir prin — o gyfeiriad masnach heb na gweledigaeth na chydwybod, o gyfeiriad poblogaethau newynog na allant fforddio poeni am yr amgylchedd.

Ac un peth arall sydd heb newid, chwaith, yw ein cam¸–ddamcaniaeth ni, y rhai sy’n elwa o’r berthynas, o natur y sefyllfa a’i symptomau. Rhoddwn, yn aml yn hael, i geisio lleddfu’r dioddefaint mwyaf dramatig, ond prin yw ein dealltwriaeth o natur y newyn a’r tlodi. Credwn mai nerthoedd daearyddol amhersonol sy’n gyfrifol, neu gamlywodraethu, neu rhyw wendidau cynhenid yn y bobl eu hunain — rhai tebyg, hwyrach, i’r rhai oedd, yng ngolwg y Saeson, beth bynnag, yn cadw’r Cymry’n ‘gyntefig’ ddwy ganrif yn ôl, rhyw ‘fethiant mewn cymeriad’. Gwelwn fai ar bawb a phopeth ond nid arnom ein hunain nac ar ein harglwyddiaeth dros y byd a’i adnoddau.

O’r Ynys Werdd i’r Cyfandir Du — canrif a hanner mewn amser a miloedd o filltiroedd mewn pellter ond yr un fan a’r lle yr ydym ni. Ond cofiwch hyn: cofiwch beth mae anghyfiawnder a’r amharodrwydd i’w gydnabod wedi’i wneud yn Iwerddon yn y cyfnod dan sylw. Cofiwch, hefyd, nad un ‘Iwerddon’ yn unig yr ydym wedi’u creu y ganrif hon. Wedyn, dychmygwch fyd lle mae’r fath genhedloedd yn gwrthryfela yn erbyn eu tynged ac, hwyrach, yn cymeryd arfau yn ein herbyn. Dychmygwch a phryderwch. Neu, os yn ddoeth, pryderwch a gwnewch rywbeth. Wedi’r cwbwl, pris heddwch yw cyfiawnder.



©: Geraint O. Thomas, Ysgol y Dyniaethau, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam.

Ar ais go dtí / Back to / Yn ôl i:

Y Ddraig Werdd Rhif 1

Sa Ghaeilge / Yn y Wyddeleg

Leathanach Baile / Hafan / Home Page