Geiriau’r Bonheddwr Conor O’Riordan,
Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru
ym Mhabell y Cymdeithasau, Llanelli, 7 Awst 2000.

O, pob bendith i dy froydd, dy gaeau a dy ddolydd
Mae calon frudd yr alltud yn torri dan ei fron;
Ond am i Dduw fy nhywys ymhell o fro fy mwclis,
Canaf i’n iach i Fynydd Cŵa â chariad hawdd a llon.

Gyda’r geiriau hyn y daeth Sliabh Geal gCua, y gerdd fwyaf a luniodd Pádraig Ó Miléadha (1877 – 1947) erioed, i ben.
Y mae hi’n dra diddorol iddo gyfansoddi’r gerdd honno rhwng 1902 a 1922 pryd a drigai yng Nghlydach, pentref bach oddeutu un filltir ar bymtheg o’r fan hon.
Teg iawn i ddweud, ynte, i’r sawl sydd yn hyddysg yn y pethau hyn i gyd, fod bro’r Eisteddfod yn fraith gyda chofion ein gwerin Wyddelig. Mae’r hanes a’r chwedlau yn cytuno mor bell yn ôl fel ei fod hi’n bosibl i ddweud i Wyddyl ac i Wyddeligrwydd o rywfath fodoli yn yr ardal hon erstua dwy fil o flynyddoedd, bron iawn.
Nid y fi yw’r darlithydd heddiw, ysywaeth, ac rwf i’n cael ar ddeall y bydd trafodaeth am y materion hyn ar Ddydd Gwener pryd a fydd y Bonheddwr Roger Price yn siarad am Wyddyl Abertawe.
Rwyf i’n fodlon iawn i fod yma heddiw fel cynrychiolydd swyddogol Llywodraeth iwerddon er mwyn lansio’r gyfres hon o ddarlithoedd am y Gwyddyl mewn trefi amrywiol yng Nghymru. Hoffwn yn y lle cyntaf ddatgan fy niolchgarwch i’r darlithwyr i gyd ac hefyd i’r cadeiryddion i gyd ond, yn y lle cyntaf, dymunwn ddatgan fy niolchgarwch i’r darlithydd heddiw, Martin Culliford, ac i’n Cadeirydd heddiw, Paul Flynn. Deallaf mai Sais yw Martin a ddysgodd iaith y nefoedd a sydd am y hanesyddion mwyaf blaengar yng Nghasnewydd gan gymryd diddordeb arbennig yn hanes y Gwyddyl yn y dref honno.
Wrth sôn am Paul Flynn, Aelod Seneddol Casnewydd Gorllewin, does ’na ddim sen ar yr un ohonoch chi ddatgan fy mod i’n arbennig o falch mai rhywun o dras Gwyddelig yw ef, gŵr y daeth ei hynafiaid o Swydd Corc yng nghanol y pedwaredd canrif ar bymtheg wrth i’r newyn chwalu Skibbereen a’r ardal o’i chwmpas.
Ac y nawr y gair olaf gennyf i. Croeso cynnes iawn i chi i gyd i’r babell hon, i’r ddarlith hon ac i’r darlithoedd eraill yn y gyfres hon fel ei gilydd. Dymunaf bob lwc i bobl Cymru, i’r Eisteddfod hon yn Llanelli ac i bob un ohonoch chi.
Céad míle fáilte agus go raibh míle maith agaibh go léir!

Can mil o groeso a bydded daioni gennych chi i gyd fil o weithiau!

(Fersiwn yn y Gymraeg o eirau gwreiddiol y Prifgonswl yn y Wyddeleg)

Eisteddfod 2000

The Leek and the Shamrock

Y Genhinen a’r Siamrog

Home / Hafan