Lloegr



“Darpara’r penblwydd pwysig hwn gyfle i ymestyn ar draws y canrifoedd a cheisio, yn enw meirw’r Newyn, wella gloesau hanes a chlwyfau parhaus ein dyddiau ni.” (Aengus Finucane, Prif Weithredwr, Concern Worldwide, Dulyn).

Yn wyneb yr argyfwng yn y broses heddwch yn Iwerddon mae’n bwysicach byth gydnabod cyfraniadau pobl Lloegr tuag at liniaru dioddefaint y Gwyddelod yn ystod y Newyn.

Mae haelioni cyrff crefyddol Lloegr megis Cymdeithas y Cyfeillion a’r British Relief Association wedi’i gydnabod gan haneswyr y Newyn, ond mae cyfraniadau unigolion yn llai hysbyss. Ni wyddys fawr ddim, er enghraifft, am effaith cyhoeddi “Llythyr y Frenhines” ym 1847; llythyr a apeliodd am gyfraniadau dros Iwerddon ac a gododd 220,000 (oddeutu 5m heddiw). Gwnaeth y Frenhines Victoria gyfraniad personol o 2,000 (50,000 heddiw).

Wrth i ni gydnabod rhan y llu o unigolion yn Lloegr a estynodd gydymdeimlad a haelioni tuag at y Gwyddyl yn eu helbul, nid yn unig y talwn deyrnged i’w cefnogaeth nas cydnabyddir, ond dyneswn hefyd at iacháu “gloesau hanes a chlwyfau parhaus ein dyddiau ni” y’u crybyllwir mor aml.



Cafwyd y ddarn uchod gan yr elusen Wyddelig, ‘Concern Worldwide’ gyda chaniatâd i’w chyfiethu a’i chyhoeddi.
Cyfiethiad ©: Julia Burns.

Y Ddraig Werdd, Rhifyn 2, Gwanwyn, 1997.

Hafan