Y Meirw Di‒Enw



Erbyn dechrau 1847 roedd mwy na 10,000 o bobl wedi’u claddu ym mynwent Sant Joseff, Ballyphehane (ardal yn Ninas Corc–Gol.). Caewyd mynwent tlodion a neilltuwyd gan Tad Mathew (nawddsant answyddogol y bobl, y mae ei gerflun mawreddog yn Stryd Sant Padrig yn nodi canol y ddinas–Gol.) a chymerwyd safle Carr’s Hill ar lÍs gan y tloty. Ymgymerodd masnachwr lleol â’r gwaith symud y cyrff o’r tloty a’u claddu am dâl o dau swllt a chwe cheiniog yr un. Felly Mynwent yr Holl Saint fel y cafodd ei henwi yn y 1930au a fu’n orffwysfa derfynol i dros 10,000 o feirw’r Newyn ac yn wir fe aed ymlaen i gladdu tlodion yno hyd y 1950au.

Heddiw, wrth sefyll ymysg y beddau, gellir ymdeimlo â’r tristwch sydd yn gorchuddio’r tir a chof y llawer a orwedd yn y pridd wedi'i dorri â gwreiddiau’r coed hynafol. Hyd yn oed yng nghanol y fath drallod ac angau y mae natur yn dal i ffynnu yn ddiymwybod.

Yn y fath unigedd daw geiriau Longfellow i gof:

“Here, where complaint is still
And they no longer feel,
Here, where all gladness flies!
And, by the cypresses,
Softly overshadowed,
Until the Angel calls them,
They slumber!”

Ni chofia Mynwent yr Holl Saint yr un o’i meirw ac ni cheir anrhydedd yma. Ni chofia ond anobaith a dioddefaint pobl a dorrwyd gan newyn. Os bydd eu marwolaethau di‒enw yn gwasanaethu ond i’n hatgoffa ni ein bod ninnau hefyd yn archolladwy, efallai y maent wedi cael tangnefedd.

Roedd Olaf Sorenson (Gyrrwr tacsi yn y ddinas, a wnaeth y groes ag ei ddwylo ei hun ‒ Gol.) am gofio’r meirw di‒enw ac, yn ôl ei ddymuniad, fe gododd groes fawr o ddur yn y 1950au. Saif o hyd wrth droed y fynwent.



©: Fiona Crean.

Cyhoeddwyd y ddarn uchod yn y ‘Cork Holly Bough’, Rhifyn y Nadolig, 1995. Yr ydym yn wir ddiolchgar i’w gyhoeddwyr ac i’r awdures am ganiatâd i’w chyfiethu a chyhoeddi. Cyfiethiwyd gan Julia Burns.

Y Ddraig Werdd Rhif 1

Leathanach Baile / Hafan / Home Page