Seremoni Goffa a Myfyrdod, Dydd Gŵyl Padrig Sant 2003



Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
Mynwent Cathays , Caerdydd
Dydd Llun 17 Mawrth, 2003: Dydd Gŵyl Padrig Sant
Am 11.00 o’r gloch yn y bore.

Cyn y seremoniau hyn dathlwyd Offeren arbennig yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Heol Seland Newydd, tros Ŵyl Padrig, tros y sawl sydd yn dioddef cyni a newyn yn y Trydydd Byd a thros heddwch ar y ddaear. Cymerodd plant Ysgol Gatholig Ioseff Sant ran.

Rhaglen

1. Anerchiad Croeso gan Mary Newman, Cadeiryddes Dros Dro, Fforwm Cymru y Newyn.

O hyn ymlaen cyflwynodd Colin Sangster, aelod yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, bob eitem ar y rhaglen. Rydym ni’n dra ddiolchgar iddo am ei gwmwynas hael i ni.

2. Canodd Côr Cochion Caerdydd y gân, Tomos John Williams.

3. Darllenwyd y gerdd, Biaffra, gan y diweddar Dafydd Rowlands (1931 – 2002):

a) Yn y Wyddeleg gan y Bonheddwr James Carroll, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru.

b) Yn Saesneg gan blant Ysgol Gynradd Gatholig Ioseff Sant a gyflwyniwyd gan y Cynghorydd Christine Priday, cynrychiolydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd.
Dathlodd yr ysgol honno 75 o flynyddoedd ar Ddydd Mercher 19 Marth, Gŵyl Ioseff Sant.

c) Yn y Gymraeg wreiddiol gan blant Ysgol Mynydd Bychan, ysgol gynradd Gymraeg yr ardal, a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, Llywydd, Cynulliad Cenedlathol Cymru.
Lleolir ‘Ysgol Mynydd Bychan’ yn yr hen ‘Ysgol Gatholig Ioseff Sant’ yn Heol yr Eglwys Newydd. Mae ’na ddolen hanesyddol rhwng y ddwy ysgol, felly, dolen a gyfnerthwyd gan eu cyfran ar y cyd yn ystod y seremonïau hyn.

4) Darllenwyd Neges Gŵyl Padrig y Llywydd Mary McAleese gan y Bonheddwr James Carroll.

5. Darllenodd y Tad J. Breidenback, IC, Offeiriad y Plwyf, Eglwys Gatholig Joseff Sant, Cathays: Mathew 11, 25‒30.

6. Darllenodd Canon Robert Reardon, Ficer Cyffredinol Archesgobaeth Caerdydd, ran o’r neges am y Grawys a gyhoeddiwyd yn ddiweddar gan yr Archesgob Peter Smith.

7. Siaradodd y Parchedig Matthew Hill, cynrychiolydd y Gwir Barchedig Barry Morgan, Esgob Llandaf, ar ran yr Esgob.

8. Cafwyd myfyrdod am y cyni argyfyngus yn y Trydydd Byd gan y Parchedig Jeff Williams, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol Cymru.

9. Munud o Ddistawrwydd.

10. Gosodwyd torchau wrth waelod y Gofeb:
a) Gan y Cynghorydd Christine Priday ar ran Cyngor Dinas a Sir Caerdydd.
b) Gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas a’r Bonheddwr James Carroll ar y cyd.
c) Gan Mary Newman, Cadeiryddes Dros Dro, Fforwm Cymru y Newyn, ar ran y Fforwm.

10. Canodd plant Ysgol Mynydd Bychan Mawl i’r Ior am Wledydd y Byd.

11. Canodd Côr Cochion Caerdydd ‘Mynydd Cŵa Disglair’, sef trosiad i’r Gymraeg o’r gân,Sliabh Geal gCua, gan Pádraig Ó Miléadha (1877-1947).

12. Gweddiau tros heddwch: a) Gan Tom McGarry, Llywydd, UCMC (Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru).
Yna, canodd Côr Cochion Caerdydd y geiriau Lladin ‘Dona Nobis Pacem’ (‘Rho i ni Heddwch’).
Wedyn, bu pawb yn ysgwyd dwylo fel arwydd heddwch.

b) Gan Sue Scanlon, Cyfarwydwraig, CAFOD Cymru.
Yna, canodd Côr Cochion Caerdydd Dona Nobis Pacem.

c) Gan Mary Sullivan, Cadair, Cymdeithas Newtown.
Yna, canodd Côr Cochion Caerdydd ‘Dona Nobis Pacem’.

13. Canodd Dave Burns o Newtown, ‘Iwerddon Fach’ Caerdydd, The Country I’m leaving Behind.
Mae Dave Burns wedi bod yn canu gyda 'Yr Hennessy ac ‘Ar Log’ ers tua thrideg o flynyddoedd. Dysgodd y gân fawreddog hon gan ei fam tra’n tyfu lan yn Newtown, y dreflan Wyddelig chwe stryd yn ardal Tyndall Street, Caerdydd a chwalwyd tua diwedd y chwedegau er mwyn ‘datblygu’.
Er syndod mawr iddo doedd neb yn adnabod y gân wrth iddo ei chanu yn Iwerddon. Mae ’na ddamcaniaeth bellach fod y gān yn enghraifft hyfryd o gân Wyddelig y mae ei tharddiad yng Nghymru.

14. Canodd Côr Cochion Caerdydd Anthem Genedlaethol Iwerddon gan roddi terfyn priodol i’r seremonïau.

Trefnwyd gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf Ioseff Sant a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd.

Hoffem ddatgan ein diolchgarwch arbennig i bob un a ymddengys yn y rhaglen, i bob un a ddaeth i’r achlysur ac i bob un a roes gymorth o’r un fath i ni cyn ac yn ystod y dydd.

Gobeithiwn y cawn drefnu seremoni gyffelyb arall ar Ddydd Gŵyl Padrig, 17 Mawrth 2004.



ENGLISH

Abhaile/ Home / Adref.