Seremoni Goffa a Myfyrdod, Dydd Gŵyl Padrig Sant, 17 Mawrth 2005



Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
Mynwent Cathays , Caerdydd
(MAP)

Dydd Iau 17 Mawrth, 2005: Dydd Gŵyl Padrig Sant
Am 11.00 o’r gloch yn y bore.

****************

Cyn y seremoni hon dethlir Offeren arbennig am 9.15 o’r gloch yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Heol Seland Newydd, Cathays, tros Ŵyl Padrig, tros bobl a ddadleoliwyd, tros ffoadurwyr, tros ymfudwyr, tros alltudion ym mhob man a thros heddwch gyda chyfiawnder ar ein daear ni.

****************

Yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon (1845—1850) gorfodiwyd i oddeutu dwy miliwn a hanner o bobl ymfudo “i’r nefoedd ynteu tramor...”
Bydd ein meddyliau heddiw gydag ymfudwyr, alltudion, ffoadurwyr, ceisiwyr am loches a chyda’r sawl a orfodiwyd gan ryfel, newyn ac anghyfiawnder i adael eu mamwlad neu a ddewisiodd i wneud hynny er mwyn cael bywyd gwell amdanyn nhw eu hunain neu am eu plant.

Rhaglen


(Meistr y Seremonïau drwyddi draw fydd Mr. Colin Sangster, Plwyf Catholig Ioseff Sant, Cathays).


1. John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn: Anerchiad Croeso.

2. Colin Sangster: y Ffoi i’r Aifft a Lladd y Plant o’r Testament Newydd:
Mathew 2. 13 ‒ 18.

3. Côr Cochion Caerdydd: Nkosi Sikelel’ iAfrika.
Dyma Anthem Genedlaethol fawreddog De Affrica. Bu yn emyn Cristnogol i ddechrau ond bellach mae’n canu tros pobl dlawd a thros pobl ddisodledig ledled y byd.

4. Sylwadau byr:
a) Cynghorydd Jacqui Gasson, Arglwydd Faer Caerdydd.
b) Colm McGrady, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru.
c) Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
d) Y Tra Parchedig Peter Smith, Archesgob Catholig Caerdydd.

5. Myfyrdod. Y Parchedig Aled Edwards, Cadeirydd, Pobl Ddisodledig ar Waith a Swyddog Cyswllt yr Eglwysi, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6. Gweddau dros Heddwch:

a) FFYDD:

It was their faith and commitment to the Church which bound our ancestors together when life for them was at its lowest ebb. Let us pray for a rekindling and strengthening of our own faith so that we too may leave our children, and our childrens children, a lasting legacy.

Lord hear us!
(ymateb): Lord graciously hear us
.

Côr Cochion Caerdydd:
Dona Nobis Pacem (’Rho i ni Heddwch’).
Emyn Lladin or traddodiad a gynnwys dri gair yn unig a genir yn aml tros heddwch.

b) GOBAITH:

It was hope for a better life that made them leave their famine‒torn land to live among strangers. They were scorned, rejected and despised by many, but the number of their descendants here today are a witness to their strength and determinatrion to survive. Let us be mindful of all asylum seekers and refugees throughout the world and let us pray that they will find solace in the arms of caring countries. Lord hear us!
(ymateb): Lord graciously hear us
.

Côr Cochion Caerdydd:
Dona Nobis Pacem (’Rho i ni Heddwch’).

c) CARIAD:

It was the charity of neighbours that helped feed many Irish families and saw them through desperate times. Let us remind ourselves that these are still desperate times for people living in many countries in todays tragically divided world. and that every day thousands are dying of starvation through poverty and injustice. Let us be generous in coming to their aid. Lord hear us!
(ymateb): Lord graciously hear us
.

Côr Cochion Caerdydd:
Dona Nobis Pacem (’Rho i ni Heddwch’).

DOETHINEB:

The tragic events in Indonesia, Sri Lanka, Thailand, India, the Maldives, Iraq, in the Holy Land and other places remind us that disaster can strike without warning at any time, that when good people do nothing evil flourishes and that the good life most people in our part of the world enjoy today can never be secure as long as we remain indifferent to the injustice, oppression and inequality that so many of our fellow human beings have to endure elsewhere. Let us have the wisdom to work for fair play all over the world — the lives we may then help to save might even be our own. Lord hear us!
(ymateb): Lord graciously hear us
.

Côr Cochion Caerdydd:
Dona Nobis Pacem (’Rho i ni Heddwch’).

TANGNEFEDD:

Rho inni’r hedd sy’n ein galluogi i gymodi gyda’n cymdogion ym mhob man, yr hedd sy’n cael ei feithrin gan gyfiawnder, nes troi yn dangnefedd mewnol. Arglwydd, clyw ein llef!
(ymateb): Arglwydd, gwrando ein gweddi
.

Côr Cochon Caerdydd:
Dona Nobis Pacem (’Rho i ni Heddwch’).

7. Munud o Ddistawrwydd.

8. Gosodir torchau wrth waelod y Gofeb:
a) Gan yr Arglwydd Faer ar ran Cyngor Dinas a Sir Caerdydd.
b) Gan yr Arglwydd Dafydd Elis‒Thomas a’r Bonheddwr Colm McGrady ar y cyd tros bobloedd Cymru ac Iwerddon.

9. Gosodir pwysiau / tuswau / blodau unigol / testunau ayyb wrth waelod y Gofeb gan ddisgyblion o’r ysgolion canlynol yn ardal Cathays:
a) Ysgol Gynradd Allensbank;
b) Ysgol Gynradd Gladstone;
c) Ysgol Gynradd Gatholig Ioseff Sant;
d) Ysgol Mynydd Bychan.

10. Côr Cochion Caerdydd: Sliabh Geal gCua.
Cyfansoddiwyd y gân hon yn y Wyddeleg gan yr alltud o Swydd Waterford, Pádraig Ó Miléadha (1877 – 1947), a ymsedydlodd yng Nghlydach am oddeutu ugain mlynedd cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y côr yn cychwyn gydag un pennill yn y Wyddeleg cyn mynd ymlaen yn y Gymraeg.
Mae’r gân Wyddelig hon o Gymru yn canu tros y bobl sydd yn byw ymhell ou cartref ac o’u hiaith frodorol.

11. Dave Burns:
The Country I’m Leaving Behind
Daw y gân hyfryd hon am alltudiaeth o Newtown, yr hen dreflan Wyddelig yng Nghaerdydd.
Cafodd Dave Burns ei syfrdanu wrth ddarganfod nad oedd neb yn adnabod y gân pan ymwelodd â gwlad ei hynafiaid yn y chwedegau hwyr.
Er i’r alaw, arddull a geiriau ddangos yn glir ei bod wedi cael ei hysgrifennu hwyrach yng Nghymru — gan rhywun o Iwerddon, cân yw hon sydd yn canu tros yr ymfudwyr i gyd waeth pa wlad bynnag y maen nhw wedi ei gadael.

12. Côr Cochion Caerdydd:
a) ‘Amhrán na bhFiann’: Anthem Genedlaethol Iwerddon

b) ‘Hen Wlad fy Nhadau’: Anthem Genedlaethol Cymru.

****************

Ar ôl y seremoni estynnir Fáilte / Croeso / Welcome i chi o 12.00 o’r gloch ymlaen yng Nghlwb Catholig (Cymdeithasol) Ioseff Sant, Heol yr Eglwys Wen. Darperir bwffê.

****************

Trefnir gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf Ioseff Sant a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd.

****************

ENGLISH

****************

Gorgysylltiadau’r ŵyl
Erthyglau amrywiol yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar y wefan hon sydd yn adlewyrchu’r wyl a thema’r seremoni, ac a fydd, hwyrach, yn achosi ambell i wn, i ddeigryn ac i elfen o ymffrostio.

****************

Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr

The Wales National Great Famine Memorial

Abhaile / Home / Adref.