Seremoni Goffa a Myfyrdod, Dydd Gŵyl Padrig Sant, 17 Mawrth 2006



Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
Mynwent Cathays , Caerdydd
Dydd Gwener 17 Mawrth, 2006: Dydd Gŵyl Padrig Sant
Am 11.00 o’r gloch yn y bore.

(MAP)

****************

Cyn y seremoni hon dethlir Offeren arbennig am 9.15 o’r gloch ar gyfer Dydd Gŵyl Padrig Sant yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Heol Seland Newydd, Cathays. (MAP)

****************

Yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon (1845—1850) gorfodiwyd i oddeutu dwy miliwn a hanner o bobl ymfudo “i’r nefoedd ynteu tramor...”
Bydd ein meddyliau heddiw gyda nhw a chyda’r bobl a ddioddefodd yn ôl y tsunami ar ddiwedd 2004, hyrddwynt Katrina ym mis Medi 2005, y daeargryn ym Mhacistan ym mis Hydref 2005 a’r syrthfa fwd yn y Pilipinas ym mis Chwefror eleni. Meddyliwn hefyd ar y llu o bobl sydd yn dioddef eisiau dŵr, eisiau bwyd, tlodi, anghyfiawnder a rhyfel.

Rhaglen


(Meistr y Seremonïau drwyddi draw fydd Mr. Colin Sangster, Plwyf Catholig Ioseff Sant, Cathays).


1. Cerddoriaeth groeso gan by Fred Smow a’i 78’s jazz band.

2. Recordiad CD o’r soprano Americaidd, Renée Fleming yn canu Hard Times Come Again No More gan Stephen Foster (1826 ‑ 1864).

3. Gair o groeso gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.

4. Neges gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Freda Salway.

5. Neges yn y Wyddeleg a Saesneg gan Colm McGrady, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru.

6. Neges yn y Gymraeg a Saesneg gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, LLywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7. Côr Cochion Caerdydd: Sliabh Geal gCua.

Cyfansoddiwyd y gân hon yn y Wyddeleg gan yr alltud o Swydd Waterford, Pádraig Ó Miléadha (1877 – 1947), a ymsedydlodd yng Nghlydach am oddeutu ugain mlynedd cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y côr yn cychwyn gydag un pennill yn y Wyddeleg cyn mynd ymlaen yn y Gymraeg.
Mae’r gân Wyddelig hon o Gymru yn canu tros y bobl sydd yn byw ymhell ou cartref ac o’u hiaith frodorol.

8. Myfyrdodau yn cael eu harwain gan Rachel Corcoran, Cardiff University Catholic Society.

Fel teyrnged i’r lluoedd o bobl a ddiddefodd y tsunami, Hyrddwynt Katrina a’r trychinebau ym Mhacistan Pakista a’r Pilipinas, bydd Fred Smow a’i jazz band yn chwarae cerddoriaeth gymwys.

9. Anerchiad gan y Parchedig Aled Edwards, Caplan i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymr.

10. Liberty, yn cael ei chanu gan y Côr Cochion Caerdydd.

11. Darlleniad gan y Tad Joseph Breidenbach I.C., Offeiriad y Plwyf, Ioseff Sant, Cathays.

12. Gosodir torchau tra fydd y Côr Cochion Caerdydd yn canu Dona Nobis Pacem.

13. Gwystl a addroddir yn Saesneg ac yn y Gymraeg gan blant ysgol yr ardal.

14. The Country I’m Leaving Behind

Daw y gân hyfryd hon am alltudiaeth o Newtown, yr hen dreflan Wyddelig yng Nghaerdydd.
Cafodd Dave Burns ei syfrdanu wrth ddarganfod nad oedd neb yn adnabod y gân pan ymwelodd ac Iwerddon, gwlad ei hynafiaid, yn y chwedegau hwyr.
Er i’r alaw, arddull a geiriau ddangos yn glir ei bod wedi cael ei hysgrifennu hwyrach yng Nghymru — gan rhywun o Iwerddon, cân yw hon sydd yn canu tros yr ymfudwyr i gyd waeth pa wlad bynnag a pha iaith bynnag y maen nhw wedi ei gadael.

15. Diolch yn fawr gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.

16. Bydd y Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Amhrán na bhFiann’ (Anthem Genedlaethol Iwerddon) a ‘Hen Wlad fy Nhadau’ (Anthem Genedlaethol Cymru).

****************

Ar ôl y seremoni estynnir Fáilte / Croeso / Welcome i chi o 12.00 o’r gloch ymlaen yng Nghlwb Catholig (Cymdeithasol) Ioseff Sant, Heol yr Eglwys Wen. Darperir bwffê am ddim.

Dyred pan fynnych, cymer a welych,
A gwedi delych, tra fynnych trig!

(Gan Sypyn Cyfeiliog,1340 – 1390).

****************

Seremoni wedi’i threfnu gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf Ioseff Sant a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd.

****************

ENGLISH

****************

Gorgysylltiadau’r ŵyl

Erthyglau amrywiol yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar y wefan hon sydd yn adlewyrchu’r wyl a thema’r seremoni, ac a fydd, hwyrach, yn achos i ambell i wn, i ddeigryn ac i elfen o ymffrostio.

****************

Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr

The Wales National Great Famine Memorial

Abhaile / Home / Adref.