Seremoni Goffa a Myfyrdod, Dydd Gŵyl Padrig Sant, 17 Mawrth 2007



Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
Mynwent Cathays , Caerdydd
Dydd Llun 17 Mawrth, 2008: Dydd Gŵyl Padrig Sant
Am 11.00 o’r gloch yn y bore.

(MAP)

Cyn y seremoni hon dethlir Offeren arbennig am 9.15 o’r gloch ar gyfer Dydd Gŵyl Padrig Sant yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Heol Seland Newydd, Cathays. (MAP)



Yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon (1845—1850) gorfodiwyd i oddeutu dwy miliwn a hanner o bobl ymfudo “i’r nefoedd ynteu tramor...”
Bydd ein meddyliau heddiw gyda nhw a chyda’r llu o bobl sydd yn dioddef eisiau dŵr, eisiau bwyd, tlodi, anghyfiawnder a rhyfel yn ein dyddiau ni.


Rhaglen



Rhagair yn Saesneg




1. Gair o groeso gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.

2. Neges gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Gill Bird.

3. Neges yn y Gymraeg a Saesneg gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4. Neges yn y Wyddeleg a Saesneg gan Llwydd Iwerddon, Mary McAleese, wedi’i darllen gan Colm McGrady, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru.

5. Côr Cochion Caerdydd: Sliabh Geal gCua.

Cyfansoddiwyd y gân hon yn y Wyddeleg gan yr alltud o Swydd Waterford, Pádraig Ó Miléadha (1877 – 1947), a ymsefydlodd yng Nghlydach am oddeutu ugain mlynedd cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cychwynodd y côr gydag un pennill yn y Wyddeleg wreiddiol cyn canu’r gân i gyd yn y Gymraeg.
Mae’r gân Wyddelig hon o Gymru yn canu tros y bobl sydd yn byw ymhell o’u cartref ac o’u hiaith frodorol.

6. Ysgol Gynradd Gladstone:
a) Bydd y plant yn adrodd 'Famine', cerdd am y newyn yn ein byd cyfoes;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.

7. Ysgol Gynradd Gatholig Ioseff Sant, Cathays:
a) Bydd y plant yn adrodd The Fields of Athenry;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.

8. Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan, Cathays:
a) Bydd y plant yn adrodd Biaffra, cerdd am y newyn yn Biaffra, Nigeria, tua deugain o flynyddoedd yn ocirc;l.
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.

9. Darlleniad o’r Beibl gan y Tad Edward J. Cody, I.C., Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Cathays.

10. Cyfarchion gan y Bonheddwr Oliver John Moss, Swyddog Materion Cymreig, Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, Llundain.

11. Dave Burns: Emigrant Eyes: Cân am yr ymfudo torfol o Iwerddon.

Un o blant Newtown, ‘Iwerddon Fach’ Caerdydd gynt, yw Dave. Mae’n aelod hefyd o’r grwpiau enwog, ‘Yr Hennessys’ ac ‘Ar Log’.

12. Côr Cochion Caerdydd yn canu: ‘Thula Thula’, hwiangerdd o Dde Affrica.
Cafodd ei recordio gan ‘Ladyship Black Mambazo’, ar eu cryno ddisg, ‘Long March to Freedom’.
I’w glywed cliciwch fan hyn.

13. Gosodiwyd torchau / blodau wrth waelod y Gofeb tra fydd y Côr Cochion Caerdydd yn canu Dona Nobis Pacem ac yna y gân Wyddelig, ‘Only Our Rivers Run Free’.

Fe’u gosodiwyd yn ôl y drefn hon:

a) Y Capten Norman Lloyd Edwards, Arglwydd Raglaw De Morgannwg.
b) Yr Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Gill Bird.
c) Ar y cyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mr. Colm McGrady, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru.
d) Jenny Willott, Yr Aelod Seneddol, Canol Caerdydd.
e) Dau dorch er cof am y diweddar John O’Sullivan, un o arloeswyr Fforwm Cymru y Newyn.
Chwaeraeodd JOS ran anhepgor ym mhob agwedd o waith Fforwm Cymru y Newyn o’r cychwyn ar 11 Tachwedd 1994 i’w farwolaeth ar Ddydd Calan 2008.

14. Dave Burns yn canu un o’i ffefrynau: The Country I’m Leaving Behind

Cawsai’r gân hyfryd hon am alltudiaeth ei chanu yn fynych yn Newtown, yr hen dreflan Wyddelig yng Nghaerdydd.

Cafodd Dave Burns ei syfrdanu wrth ddarganfod nad oedd neb yn adnabod y gân pan ymwelodd ac Iwerddon, gwlad ei hynafiaid, yn y chwedegau hwyr.
Er i’r alaw, arddull a geiriau ddangos yn glir ei bod wedi cael ei hysgrifennu – hwyrach yng Nghymru – gan rhywun o Iwerddon, cân yw hon sydd yn canu tros yr ymfudwyr i gyd waeth pa wlad bynnag a pha iaith bynnag y maen nhw wedi ei gadael.

15. John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru Y Newyn: Gair o ffarwél, gan gynnwys teyrnged i John O’Sullivan, heddwch i’w lwch.

16. Gweddi a bendith gan y Tad Michael MacCarthy, I.C.

17. Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Amhrán na bhFiann’, Anthem Genedlaethol Iwerddon.

18. Dave Burns: (ar ôl nifer o geisiadau a ddaeth wedi’r datganiad trawiadol gan blant Ysgol Gynradd Gatholig Ioseff Sant) yn canu: ‘The Fields of Athenry’.

19. Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’, Anthem Genedlaethol Cymru.



Seremoni wedi’i threfnu gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf Catholig Ioseff Sant a Chyngor Caerdydd.



Ar ôl y seremoni estynniwyd Fáilte / Croeso / Welcome i bawb o 12.00 o’r gloch ymlaen yng Nghlwb Catholig (Cymdeithasol) Ioseff Sant, 29 Heol yr Eglwys Wen. Darperiwyd bwffê a chafodd y feillionen Wyddelig ei gwlychu lawer tro!

MAP

Dyred pan fynnych, cymer a welych,
A gwedi delych, tra fynnych trig!

Gan Sypyn Cyfeiliog,1340 – 1390.



Hon fydd y ddegfed a’r olaf seremoni o’i math a drefnwyd gan Fforwm Cymru y Newyn, Caerdydd.

Rydym ni’n ddiolchgar i’r sefydliadau, cymdeithasau ac unigolion i gyd a fu’n gefnogol i ni mewn ffyrdd amrywiol ers i ni lansio ym mis Chwefror 1995.
Rydym yn arbennig o ddiochgar i Gyngor Caerdydd ac i’w Gwasanaethau Profedigaeth.
Ers i’r seremoni gyntaf yn 1999, buon nhw’n cefnogi’r seremoni bob blwyddyn yn ogystal â chynnwys y Gofeb yn eu Llwybr Treftadaeth (gweler rhif 14 y ddogfen).

ENGLISH



Gorgysylltiadau’r ŵyl

Erthyglau amrywiol yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar y wefan hon sydd yn adlewyrchu’r ŵyl a thema’r seremoni, ac a fydd, hwyrach, yn achos i ambell i wn, i ddeigryn ac i elfen o ymffrostio.



Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr

The Wales National Great Famine Memorial

Abhaile / Home / Adref.