Oxfam: Datganiad am Newyn

Beth Yw Newyn?
Prinder dybryd o fwyd yw newyn ac mae pobl yn llwgu am nad oes modd iddynt dyfu neu brynu digon o fwyd ac ni fedrant, yn aml, deithio i fannau lle mae bwyd ar gael. Mae pobl yn marw o newyn ac yn diodde’ o afiechydion a achosir gan ddiffyg bwyd. Nid yw pobl gyfoethog, rhan amla’, yn diodde’ o brinder bwyd.

Pam fod Newyn yn Digwydd?

Y tri rheswm pennaf am hyn yw:

1. Y Tywydd
Mae sychder, hynny yw diffyg glaw am gyfnod hir, yn medru achosi newyn. Nid oes modd i’r cnydau dyfu heb dd*r ac ni cheir cynhaeaf a does dim hadau i’w plannu ar gyfer cynaeafau y dyfodol.
Ond nid yw sychder bob amser yn arwain at newyn. Mae pobl mewn gwledydd lle ceir newyn, o bryd i’w gilydd, yn darganfod ffyrdd i ymdopi â hyn. ER enghraifft, pan geir cynaeafau da, mae pobl yn storio’r bwyd a’r hadau ar gyfer y dyfodol.
Bu cyfnodau hir o sychder yn yr Unol Daleithiau ac yng ngwledydd Prydain yn 1976, ond ni chafwyd newyn. Pam? Am fod y gwledydd hyn yn fwy cyfoethog ac nid ydynt yn rhyfela.

2. Rhyfel
Gall rhyfel droi prinder bwyd yn newyn. Pan mae rhyfel yn digwydd ni all pobl dyfu bwyd ac yn aml, fe losgir y bwyd yn eu storfeydd neu fe gaiff ei ddwyn. Gorfodir hwy i adael eu cartrefi er mwyn chwilio am fwyd ac am waith. Mae eu cnydau bwyd, eu gwartheg a’u cartrefi yn cael eu dinistrio. Mae’r ffyrdd hefyd mewn perygl o gael eu cau neu yn rhy beryglus i deithio arnynt, ac mae brwydro ac ymladd yn ei gwneud hi’n anodd i gludo bwyd ar frys i’r bobl hynny sydd ei wir angen.

3. Tlodi
Mae newyn yn digwydd yng ngwledydd tlota’r byd ac yn effeithio waetha’ ar y bobl dlawd. Mae’r enghraifft a welir isod yn dangos pam fod newyn yn debygol o ddigwydd.

Ym Mhle mae Newyn yn Digwydd?
Mae newyn wedi digwydd ar draws y byd yn y gorffennol, er enghraifft: yn Iwerddon yn 1845, yn Rwsia yn y 1930au ac yn Tseina yn y 1940au. Sefydlwyd Oxfam yn 1942 mewn canlyniad i newyn yn Ewrop. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd prinder bwyd dybryd drwy Ewrop i gyd, ond yn fwya’ arbennig felly yng ngwlad Groeg. Ffurfiwyd Pwyllgor Rhydychen ar gyfer Cymorth Newyn i helpu pobl newynog Gwlad Groeg.
Erbyn heddiw mae prinder bwyd yn gyffredin mewn sawl gwlad yn y byd, er enghraifft, mewn rhannau o Ddwyrain Ewrop, a gall y prinder bwyd hwn droi’n newyn.
Y gwledydd sydd dan y bygythiad mwya’ yw’r gwledydd ar draws Affrica, sy’n gorwedd o’r Gorllewin i’r Dwyrain – gwledydd megis Ethiopia a’r Swdan.

Ethiopia & Swdan 1984 - 85.
Mae rhyfel, newyn a thlodi i gyd yn achosi newyn difrifol yn y ddwy wlad hon. Hwyrach y medrwch chi gofio’r amser pan oedd ‘Band Aid’ a ‘Live Aid’ yn cael eu sefydlu.
Roedd y newyn yn ddwys iawn oherwydd y problemau canlynol:

Cnydau ar Gyfer eu Allforio
Defnyddiwyd llawer o dir i dyfu bwyd ar gyfer ei allforio i wledydd cyfoethog y byd. Gwnaed hyn er mwyn talu yn ôl yr arian a fenthycwyd i Ethiopia a’r Swdan gan y gwledydd cyfoethog. Gorfodwyd y ffermwyr i dyfu ‘cnydau arian’ e.e. cotwm neu gnau daear ond canlyniad hyn oedd fod llai o dir gan y ffermwyr i dyfu bwyd i’w hunain a’u teuluoedd.

Yr Anialwch yn Ymledu
Roedd yr anialwch yn dal i ledu, yn rhannol oherwydd fod tir yn cael ei glirio ar gyfer tyfu ‘cnydau arian’ ac am fod gorfodaeth ar y bobl dlawd i dorri coed, i’w gwerthu fel coed tân neu i’w defnyddio i oginio yn y cartre’. Trwy fod yr anialwch yn ymestyn roedd llai o dir i dyfu bwyd a llai o dir pori ar gyfer y gwartheg.

Prisiau Bwyd Uchel
Trwy fod y cynaeafau yn methu, roedd llai o fwyd ar eu cyfer ac fe gododd prisie bwyd gan wneud hi’n amhosib’ i bobl dlawd ei brynu.

Niwed i’r Pridd
Roedd hi’n arferiad gan y ffermwyr i gylchdroi cnydau gan adael peth tir heb ei drin am flwyddyn, i’w gyfoethogi. Ond nid oedd hyn yn bosib’, bob amser. Er enghraifft, roedd y rhai heb dir yn gorfod benthyca arian i’w brynu ac o dan bwysau i dalu nôl eu dyledion yn fuan. I wneud hyn, roeddent yn parhau i dyfu cnydau ar yr un tir, heb gyfnod o seibiant, ac felly yn achosi niwed i’r pridd.

Y Drychineb
Yna, digwyddodd y sychder gwaetha’ ers 20 mlynedd. Dinistrwyd y cynaeafau am fod rhyfel yn digwydd yn y ddwy wlad, fe ddinistrwyd cartrefi y bobl a lladdwyd eu hanifeiliaid gan eu gorfodi i symud i chwilio am fwyd. Bu rhai ohonynt yn ffodus o gyrraedd gwersyll lle medrent gael cysgod a bwyd a chafodd eraill gymorth brys ar ffurf bwyd, dŵr a moddion. Estynwyd y cymorth yma iddynt gan grwpiau lleol yn gweithioyn Ethiopia a’r Swdan; gan lywodraeth y ddwy wlad a chan wledydd eraill ar draws y byd.

Dim Coed i Amddiffyn y Tir
Mae coed yn gwarchod y pridd mewn dau ddull; mae’r canghennau a’r dail yn rhoi cysgod ac mae’r gwreiddiau yn glynu’r pridd at ei gilydd. Ni all y pridd a’r cnydau a dyfir ynddo felly gael ei chwythu ymaith gan y gwynt na’i symud gan lifogydd a phan mae’n bwrw’n drwm gall y pridd felly gynnal mwy o ddŵr. Wrth cwympo mwy a mwy o goed yn Ethiopia a’r Swdan fe welwyd dirywiad yn ansawdd y pridd a chynhyrchu llai a llai o gnydau.

Newyddion o’r 90au
Digwyddodd hyn eto yn 1992 yn Somalia lle cafwyd sychder, rhyfel a newyn. Roedd newyn yn barod mewn sawl gwlad yn Ne Affrica. Fel arfer mae gan y gwledydd yma ddigon o fwyd ar gael i fwydo ei hunain, ond y tro yma, roeddent hwythau hefyd yn wynebu newyn.
Beth felly yw’r ateb? Isod, medrwch ddarllen hanes Ethiopia a’r Swdan ers y newyn.

Oes Modd Atal Newyn?
Mae newyn yn debygol o ddigwydd mewn rhai gwledydd lle ceir rhyfela, tlodi a sychder, ac mae’r achosion hyn tu hwnt i reolaeth y bobl leol. Serch hynny, fel a ddengys y stor´au isod, nid yw’r bobl yn y gwledydd hyn wedi digalonni yn gyfangwbl.

Glasu Ethiopia
Daeth rhyfel Ethiopia, a barodd 30 mlynedd, i ben yn 1991 a bu hyn yn fodd i’r bobl leol ail‑adeiladu eu bywydau. Ceir nifer o raglenni plannu coed; er enghraifft, yr un yma, yn y llun, yn Hararghe.
Penderfynodd grŵp o bobl yn Hararghe blannu coed ffrwythau ond i alluogi’r hadau i dyfu, roedd rhaid wrth gyflenwad parhaol o ddŵr. Talodd Oxfam am osod pibellau dŵr ac mae’r perllannoedd, erbyn hyn, yn cynhyrchu nifer o ffrwythau megis eirin gwlanpg ac afalau. Yn ogystal a darparu bwyd mae’r coed hefyd yn gysgod i’r pridd ac yn atal erydiad.

Ail‑Stocio Anifeiliaid yn y Swdan
Mae llawer o bobl yn y Swdan, fel yng nghymuned Beja, yn ennill eu bywoliaeth drwy werthu geifr, defaid a chamelod, ond fe drigodd miloedd ohonynt adeg y newyn. Mewn un ardal yn y Swdan rhoddodd Oxfam nifer o eifr i bob un teulu, i’w galluogi i ail stocio ac mae’r anifeiliaid hyn hefyd yn rhoi llaeth i’w yfed iddynt. Talodd Oxfam hefyd ar gyfer hyfforddi milfeddygon o’r ardal, i ofalu am y geifr yn yr ardal hon.
Bellach mae’r bobl mewn cymunedau fel Beja a Haranghe yn fwy abl i oroesi pan mae sychder a phrinder bwyd yn taro. Ni fedrant reoli rhyfeloedd na’r tywydd ond mae modd iddynt gyd‑weithio i greu dyfodol mwy sicr i’w hunain.

Ffeithiau am Newyn
1. Bob blwyddyn mae rhwng 13 – 18 miliwn o bobl, merched a phlant rhan fwya’, yn marw o newyn ac afiechydon a achosir gan ddiffyg bwyd.
2. Cynhyrchir digon o rawn ar draws y byd i fwydo pawb gyda 3,000 cilocalorïau y dydd (mae angen 2,000 – 2,900 cilocalorïau y dydd ar oedolion, a phlant angen 800 – 1,700).

3. Yn dilyn llifogydd 1974 yn Bangladesh, roedd miloedd o bobl yn llwgu. Er hynny, arhosodd pedwar miliwn tunnell o fwyd yn y stordai, am nad oedd ganddynt arian i’w brynu.
4. Yn ystod y 1970au, bu newyn mewn rhai gwledydd yng Ngorllewin Affrica a thra fod miloedd o bobl yno yn llwgu roedd llywodraethau’r gwledydd yma yn danfon llysiau i Ewrop er mwyn ad‑dalu eu dyledion i’r gwledydd cyfoethog.

Cafwyd y datganiad uchod o’r daflen ‘Newyn’ a gyhoeddwyd gan Oxfam Cymru, Caerdydd> Ffôn: 00 44 29 20757067.

Saesneg

Y Ddraig Werdd Rhifyn 2.

Hafan