Ni Chawn Ddianc rhag ein Hanes waeth pa mor Daer a Ymdrechwn



Tra’n oedi am bigyn bach o amheuaeth ynghylch a ddywedasai’r un peth pe bai’n Taoiseach (Prif Weinidog), mae’n bwysig cymeradwyo sylwadau diweddar Bertie Ahern (Arweinydd yr Wrthblaid ‒Gol.) am y Newyn Mawr ac yn enwedig ei gais am i lywodraeth Prydain ymddiheuro am yr hyn a ddigwyddodd 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n amlwg yn iawn wrth ddweud y cyfrannai arwydd o’r fath tuag at gysylltiadau gwell rhwng pobl Iwerddon a Phrydain gan helpu gwella’r rhaniadau a ddeillia o hanes erchyll. Credaf, ysywaeth, fod perygl na ddeallwyd yn eang arwyddocâd sylwadau Mr. Ahern, yn rhannol oherwydd ni threiddiasant yr arwyneb, ac yn rhannol oherwydd y cwmwl tew o belydriad ôl‒drefedigaethol sydd yn eu cuddio.

Pan drafodwyd y mater ar ‘Questions and Answers’, er enghraifft, cafwyd cydsyniad rhwng y panel a’r gynulleidfa fod gofyn am ymddiheuriad yn ei ddibrisio. Crybwyllwyd mai dim ond ymddiheuriad digymell fyddai’n ystyrlon a’i fod yn anghywir ceisio sbarduno llywodraeth Prydain i wneud y fath ystum.

Credaf, i’r gwrthwyneb, mai’r peth pwysicaf i ni yn y cyswllt hwn yw ceisio ymddiheuriad a nid ei gael. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ymateb y sefydliad Prydeinig. Y cwbl gallwn ei wneud yw mynnu ein hawl i ymddiheuriad. Eithr yn y ceisio y mae ein hiachád ni. Byddai iachád yr ymddiheuro ar ochr y Prydeinwyr hwythau.

Un rheswm pam mae rhaid i ni ofyn yw bod rhywbeth ar goll o’n hamgyffred o ganlyniadau hanes ar hyn o bryd. Er mwyn deall y presennol mae eisiau i ni ddehongli’n iawn y digwyddiadau a ddaeth â ni yma. Mae eisiau i ni ddechrau deall, er enghraifft, pam yr ymddygwn fel pe bai ein hanes yn rhyw fath o gynnen gyfeillgar rhwng gwladwriaethau neu lwythau cystadleuol.

Mae’n ffasiynol nawr ymysg y sawl a gais wadu’r gwirionedd am berthynas Iwerddon â Phrydain i siarad am ein “hanes cyfrannol”. Celwydd yw’r ymadrodd hwn. Gellir ei gymharu â “threisio cyfrannol” neu “mygio cyfrannol”. Dywed Bertie Ahern rhy ychydig wrth honni: “yn hanes hir y cysylltiadau rhwng y ddwy ynys, dros ganrifoedd lawer, roedd y Gwyddyl yn fwy dioddefus na beius.” Un o faglau cyflwr ôl‒drefedigaethol y meddwl yw’r cymhelliad i leisio fersiwn y gwladychwr o hanes. Mae’r cyflwr hwn wedi lledu trwy’r cyfryngau, y byd gwleidyddol a phrifysgolion y Weriniaeth ac o ganlyniad yng nghyfathreb gyhoeddus y wlad i gyd. Meddyliwn fel yr addysgwyd ni i feddwl.

Dyma pam, pryd bynnag y ceisia gwleidydd neu glerigwr o Brydain agor trafodaeth am rinweddau ymddiheuriad Prydain i Iwerddon, mai llais Gwyddelig a glywn bob amser yn baldorddi am yr eisiau i ymadael â’r gorffennol. Yn yr un modd, pan yr awgryma person cyhoeddus y byddai’r fath ymddiheuriad yn addas, efallai, codir yr un lleisiau i negyddu’r cais.

Mae’r Newyn Mawr yn cwffwrdd â nerf tost iawn yn Iwerddon gyfoes. Dywedodd un academig hunanhonedig mae ymladd unwaith eto y rhyfel a gollwyd gan y Provisionals a wna’r sawl sy’n sôn am y Newyn. Dywedodd un arall wrthyf ar raglen radio y dylwn beidio â grwgnach am y gorffennol oherwydd, wedi’r cwbl, nid oedd y Newyn yn ddrwg i gyd ‒ “arweiniodd, wedi’r cwbl, at foderneiddio’r gymdeithas Wyddelig.”

Yn aml, mae bod yn rhan hanes arswydus yn meddwl eich bod, drwy ddadleoliad, anwybodaeth orfodol neu gywilydd, wedi colli rhyw wybodaeth am eich gorffennol eich hun a felly yn eisiau’r sylfaen ffeithiol i esbonio a sylweddoli’ch teimladau. Yn waeth byth, yn absenoldeb hunanwybodaeth, dechreuwch dderbyn fersiwn y gormeswr. Heb hunan ymwybyddiaeth daw ymwybodaeth o’r teimladau dinistriol yn unig.

Am ein bod yn byw mewn cymdeithas ôl‒drefedigaethol ni fedrwn ymddiried yn llwyr yn ein ffordd o feddwl. Os am ddod o hyd i’r gwirionedd, mae’n rhaid i ni ymddiried yn ein teimladau yn yr eiliadau pan fyddwn yn teimlo yn dda amdanom ein hunain. Nid yw hwn yn gyfystyr â dibynnu ar ‘sentiment’, sydd yn rhyw fath o ‘dy hanner ffordd’ rhwng meddwl a theimlad. Megis ffurfiau arbennig ar feddwl ni ellir ymddiried yn ‘sentiment’.

Os credwn ein bod yn fwy na bodau materol ac ein bod yn meddiannu ar ddimensiwn ysbrydol, rhaid i ni sylweddoli bod rhyw wirionedd yn y ffordd y daethom i deimlo am brofiad hanes a hefyd am y ffordd y teimlwn yn ein hunain fel canlyniad i’r profiad hwnnw. Er mai ffaith yw sylwedd hanes, dibynna’i wirionedd ar deimlad. Deillia’r cymhelliad i chwilio am ffaith o deimlad bob amser a pheth iach yw hynny.

Nid ystyria’r rhan fwyaf o’r pethau a ddywedir yn gyhoeddus yn enw pobl Iwerddon, ar bynciau fel cenedlaetholdeb, gweriniaetholdeb, y Gogledd, hunaniaeth ddiwylliannol ac yn y blaen, y wir etifeddiaeth o deimlad sydd yn bodoli yma, a sydd yn aros yn y tirlun ac ym mynwesau ein pobl ac sydd yn atseinio â phoen hanes na darfu eto.

Nid yw hanesyddiaeth neu drafodaeth wleidyddol sydd yn gwadu dilysrwydd gwir deimladau yn llwyr ddibynadwy. Credaf y dylem ymddiried mewn teimladau. Dylem eu holi, ie, ond peidiwn â’u hwfftio na chael gwared â hwy yn ysgafn. A yw’r teimladau hyn yn cyd‒fynd â’r hyn a wyddom? Os na, pam? Os na, efallai mae peth gwybodaeth ar goll a fyddai’n helpu i’w hesbonio.

Y mae teimladau cymdeithasol, poen cymdeithasol, briw cymdeithasol, ac mae gan y teimladau hynny eu hygrededd eu hunain na ellir ei wadu. Nid oes diben dweud y dylem “adael y gorffennol ar ôl ” achos ni fedrwn wneud felly. Ni allwn ddianc rhag ein hanes waeth pa mor daer yr ymdrechwn. Yn hwyr neu’n hwyrach bydd yn rhaid i ni wynebu’r gwirionedd llwyr amdano.

Yn aml, wrth ddymuno bod yn rhesymol iawn, i ddangos ein bod yn fodlon i anghofio yn ogystal ag i faddau, amharchwn ein teimladau dwysol ein hunain neu deimladau ein rhieni neu ein cyndadau neu ein cyd‒ werinwyr. Mae’n ddealladwy ein bod yn dymuno bwrw ymlaen â phethau, ond mae hwn yn amhosibl mewn gwirionedd hyd nes i ni fynd i’r afael â’r gorffennol unwaith ac am byth. Wrth fynnu’n ddifater y dylem “fynd ymlaen â phethau”, rydym yn atal ein hunain rhag ei wneud.

Hyn, i mi, yw’r arwyddocâd o ddarganfod yr hyder i ofyn am ymddiheuriad gan Brydain. Wrth gwrs ei bod hi’n bwysig i anrhydeddu’r rhai a ddioddefodd ac a fu farw drwy’u cofio, ac i gydnabod gwirioneddau arswydus eu dioddefaint, ond mae’n rhaid i ni goffáu y digwyddiadau hynny er ein mwyn ni ein hunain hefyd. Gadawodd y Newyn res o etifeddiaethau a erys gyda ni: gwaedlif ein hieuenctid, llygredd o’n hysbrydoliaeth, dinistr ein hannibyniaeth ysbryd ac ein hunaniaeth.

Byddai’n drychineb waeth petaem yn creu ymwybyddiaeth ffug o’r digwyddiad dychrynllyd hwnnw sydd yn cario’r fath wirionedd arswydus ac emblematig am ein hanes , ac felly cadw ein hunain am byth rhag y gwir am yr hanes hwnnw.



©: John Waters.

Cyhoeddwyd yr erthygl uchod yn yr Irish Times, 17 Hydref, 1995. Cafwyd caniatâd caredig y Rheolwr Olygydd, David Nowlan, i’w chyfiethu ac i’w chyhoeddi.

Cyfiethiad ©: Julia Burns.

Y Ddraig Werdd Rhif 1

Leathanach Baile / Hafan / Home Page