Tua 1903 gadawodd Iwerddon a daeth i fyw i Glydach, yng Nghwm Tawe. Cafodd swydd yn ffatri nicel Mond a phriododd ferch a ddaeth hefyd o ‘Y Déise’. Ganwyd plant iddynt, ac er i’w plant fynychu ysgol Gatholig a chwarae gyda phlant Gwyddelod eraill a siaradai Saesneg, dysgasant beth o’r Gymraeg, caneuon yn arbennig, mewn ardal lle siaradai bron pawb yr iaith honno ar y pryd.
Ond bu bryd Pádraig bob amser ar ei Wyddeleg annwyl ac ymroddodd ei hun i waith ‘Conradh na Gaeilge’, mudiad dros adfer yr hen iaith a sefydlwyd ym 1893, ymysg y Gwyddelod eraill yn Ne Cymru. Teithiai ar brydiau mor bell â Merthyr Tudful i gynnal dosbarthau nos.
Ni anwybu faterion cyfoes yn Iwerddon chwaith ac erbyn 1914 bu ym ‘mataliwn’ prysur lleol yr I.R.A. yr oedd tua chant o aelodau ynddo.
Cymerai ran gyson yng ngwaithgarwch undeb y gweithwyr yn ffatri Mond hefyd ac yn y pen draw collodd ei swydd ynddi am gymeryd ochr y gweithlu yn ystod streic a gaeodd y ffatri am dri mis ym 1922.
Dychwelodd i Iwerddon gyda’i wraig a’u plant. Bu’r teulu yn dlawd wedi goroesi streic mor hir ac yn Iwerddon gwynebasant y Rhyfel Cartref a rwygodd y wlad honno. Wedi bwrw misoedd hir a blinderus o dlodi ym mro ei febyd cafodd swydd fel athro Gwyddeleg.
Arhosodd yn y swydd honno nes i’w iechyd dorri yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu farw ym 1947. Cladwyd ef ym mynwent Túr an Fhíona (‘Tŵr y Gwin’ neu ‘Tooraneena’ yn ‘Saesneg’) ac i’r fan honno y daeth Llywydd Iwerddon, Cathal Ó Dálaigh, ym 1977, canmlwyddiant ei eni, i ddatguddio plac a osodwyd uwchben ei fedd.
Er na chafodd erioed ond addysg yr ysgol gynradd ymddiddorai mewn llyfrau a llenyddiaeth drwy gydol ei fywyd. Tra’n byw yng Nghlydach cyfansoddai gerddi a phenillion yn y Wyddeleg ac yn Saesneg sydd bellach yn rhan adnabyddus o etifeddiaeth Iwerddon. Mae ei ysgrifau hefyd yn rhan o etifeddiaeth Cymru a ddeil yn gwbl anhysbys.
Teg fydd dwyn sylw at ddwy gerdd yn bennaf. Y gyntaf yw ei gampwaith, ‘Trí Glúine Gaedheal’ (‘Tair Cenhedlaeth o Wyddelod’), hunangofiant mewn ffurf cerdd hir, a gyhoeddwyd ym 1953.* Mae’r drydedd ran o’r 112 o dudalenau yn ymwneud â’i brofiadau yng Nghymru. Ceir blas ynddi ar ffwdan a mwstwr bywyd bro ddiwydiannol gan gynnwys disgrifiad unigryw o daith dan daear i ymweld â phwll glô. Ceir disgrifiad arall, hallt a beirniadol, o’r ffatri nicel Mond.
Yr ail gerdd yw ‘Sliabh Geal gCua’ (‘Mynydd Disglair Cŵa’), cerdd ar gân sydd ymysg fefrynnau’r genedl, un o glasuron yr iaith yn y ganrif hon, ac un a ddeilliodd o Gymru. Arferai Pádraig a’i wraig, fel rhieni eraill Cwm Tawe ar y pryd, fynd â’u plant i lan y môr ym Mro Gŵyr. Yna yr eisteddai yn aml gan synfyfyrio am ei wlad frodorol, am fro ei febyd ac am yr hen iaith a garai gymaint. “Teg”, ysywaeth, yw “edrych tuag adref”.
Rhywdro, naill ai wrth eistedd ar lan y môr, neu ynte yn ei gartre yng Nghlydach, cyfansoddodd y geiriau bythol a geir isod yn yr Wyddeleg wreiddiol ac mewn trosiad i’r Gymraeg sydd mor ffyddlon i’r Wyddeleg ag sydd yn bosibl.
Tybed a oes ymysg ein darllenwyr fardd a fedrai droi ein trosiad ffwndrus i’r Gymraeg yn gerdd a chân go iawn? Mae’r gerddoriaeth, hen alaw draddodiadol, ar gael gan y Golygydd ond ysgrifennu gan amgau gwerth 30c mewn stampiau.
Canwyd ‘Sliabh geal gCua’ gan gôr o Iwerddon yn Nhabernacl Caerdydd ar nos Wener, 18 Hydref, 1996, yn ystod ‘Gwasanaeth Coffa a Chymodi’ a gynhaliwyd yno er cof am y sawl a fu farw fel canlyniad i’r ‘Newyn Mawr’ a ddigwyddodd yn Iwerddon 150 o flynyddoedd yn ôl gan gychwyn y traddodiad o ymfudo a erys hyd heddiw, traddodiad a effeithiodd yn sylweddol ar hanes Cymru wrth i miloedd ffoi i Gymru yn ystod y newyn yn chwilio am loches.
* Mae’r llyfr hwn mewn stoc yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd (Ffôn: 00 44 29 20 382116).
Dá mbeinnse i measc mo ghaolta i Sceichín glas na séimhfhear,
Nuair a scaipeann teas na gréine ó spéir gheal gan smál;
Nó dá mbeinnse ansiúd fé’n réaltain nuair a thiteann drúcht ar fhéar ann,
Ó a Shliabh geal gCua nár dhéirc sin dá m’fhéidir é ‘fháil!
‘Sé mo léan nach bhfuair mé tógaint le léann is mórchuid eolais,
I nGaoluinn uasal cheolmhar ba sheolta mo bhéal;
Ó thabharfainn cuairt thar sáile is thabharfainn bua thar barr chugat,
Mar a Shliabh geal gCua ba bhreá liom thú ‘ardú fé réim.
Mo ghrása thall na Déise, ‘dir bhánta, ghleannta is shléibhte,
O shnámhas anall thar tréanmhuir táim tréithlag gan bhrí;
Ach ó b’áil le Dia me ‘ghlaoch as, mo shlánsa siar go hÉirinn,
Agus slán le Sliabh na Féile le saorghean óm’ chroí!
Pe bawn ymysg fy mherthnasau yn Sceichín gwyrdd y dynion mwyn,
Wrth i des yr haul ymledu o wybren loyw lân,
Neu pe bawn draw o dan y sêr a’r gwlith yn disgyn ar borfa yno,
O Fynydd disglair Cŵa onid elusen a fyddai hynny petai’n bosibl ei gael!
Gwae fi na ches fagwraeth gyda dysg a llawer o wybodaeth,
Yng Ngwyddeleg urddasol gerddorol y buasai fy ngheg yn rhugl;
O teithiwn dros y môr a rhoddwn fuddugoliaeth benigamp i ti,
Achos o Fynydd disglair Cŵa buasai’n braf gennyf dy godi mewn bri.
Fy nghariad draw yw’r Déise, y caeau, glynnoedd a bryniau,
Ers i mi hwylio hyd yma dros y cefnfor, egwan a llesg wyf i;
Ond gan mae ewyllys Duw ydoedd fy ngalw oddi yno, fy mendith draw i Erin,
A ffarweliaf â Mynydd yr Haelioni gyda chariad rhydd gan fy nghalon!
Cafodd fersiwn newydd o'r gân hon yn y Gymraeg ei ganu yng Nghaerdydd ar Wyl Padrig 2003.
Pádraig Ó Miléadha (1877 – 1947): Poet of Ireland and of Wales
Pádraig Ó Miléadha
Scéal Phádraig Uí Mhiléadha sa Ghaeilge.
The story of Pádraig Ó Miléadha in Irish.
An English ‘translation’ (as ‘accurate’ as could be achieved by an amateur) of part a long poem by Pádraig Ó Miléadha, ‘Trí Glúine Gaedhal’ (‘Three Generations of Gaels’), published in Dublin in 1953. In the section translated he gives a graphic account of his journey to, life in and eventual return to Ireland from the Swansea Valley, South Wales.