Killard: Pentref a Ddiflannodd



Bwriadais fy ysgrifen ddiwethaf i fod yr un olaf, ond wrth edrych drwy’m mhortffolio gwelaf fraslun neu ddau, un ohonynt o leiaf y tybiwch efallai ei fod yn werth ei gyhoeddi.

Mae pentref Killard yn rhan o Undeb Kilrush, ardal o 17,022 o erwau. Roedd ganddo boblogaeth o 6850 o eneidiau ym 1841 a’i werth , yn nhermau treth y Tlodion, yn £4254. Mr. John MacMahon Blackall, rwyaf yn deall, yw’r prif dirfeddiannwr a’i gartref iach wedi’i leoli’n ardderchog ar ael bryn, wedi’i gysgod gan fryn arall rhag stormau’r Iwerydd. Saif ei do’n ddiogel o hyd, ond diflannodd y bobl.

Pysgota oedd prif waith trigolion y pentref a byddent yn cyfun’u gwaith ar y dwr â thyfu tatws. Wrth i’r olaf fethu gellid disgwyl iddynt droi at bysgota yn fwyfwy, ond gwerthwyd cychod a gwialenni er cynhaliaeth y presennol ac fe ychwanegwyd gadael y pysgodfëydd at fethiant y tatws. Disgynnodd y rhent i ddim ac yna daeth y gwastatwr a’r difethwr.

Beth ddigwyddodd i’r 6850 o eneidiau, ni wn, ond nid erys deg o’r pentref gyfan i ddweud wrth y teithiwr, lle yn ôl y cyfrifiad, y ceid hyd iddynt ym 1841.

Buont yma, ont maent wdi ymadael am byth; a’r cwbl sydd yn weddill o’u haneddau yw ambell i wal yn pydru a thomenni o wellt y toeau yn troi’n wrtaith.

Mae Killard yn enghraifft o hanner yr Iwerddon. Pe na buasai cabanau’r bobl mor fregus eu bod wedi’u cymysgu, megis Babylon, â’u clai cysefin, byddai’r Iwerddon yn enwog am oesoedd am ei hadfeilion....



Cyhoeddiwyd yn ‘The Illustrated London News’.

Cyfiethiad ©: Julia Burns

Y Ddraig Werdd Rhifyn 2.

Hafan