Darlith–: Pat O’Brien 1910‒1953.

Ysgolfeistr ac Arweinydd Eisteddfodol

Darlith draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau
yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd Awst 4 2004
o dan nawdd Fforwm Cymru y Newyn.

32 yn bresennol.


’Rwyf am sôn am ychydig heddiw am wr a fu’n arweinydd eisteddfodau am yn agos i chwarter canrif ac a fu hefyd yn un o arweinyddion ein Prifwyl am saith mlynedd cyn iddo farw yn ddwy a deugain oed. Arweinydd eisteddfod yn yr hen ffordd draddodiadol oedd, ac mae’n werth pwysleisio hyn a chofio nad oedd iddo offer technegol a manteision eraill sydd ar gael heddiw i’n harweinyddion proffesiynol. Roedd mwy o ddibyniaeth yr adeg honno ar ddawn lleisiol yn ogystal â hiwmor a ffraethineb. Yn ychwanegol mae’n rhaid cofio fod torfeydd mawrion yn ein heisteddfodau – a llawer ohonynt yn swniog ac anhrefnus. Cynhelid yr eisteddfodau hyn mewn capeli a neuaddau (mawr a bach) ac ambell dro mewn sied wair fel ag yn eisteddfod Saron ger Dinbych – dro arall mewn pabell arbennig wedi ei chodi yn bwrpasol fel ag yn eisteddfodau Llanuwchllyn a Llangwm. Galwai hyn am alluoedd hyblyg a dyfeisgar ar ran yr arweinydd.

Felly, fel rhyw fath o ragymadrodd, mae’n werth ini gael disgrifiad o’r hyn a ddisgwylid o arweinydd ac nid oes dim gwell na’r esboniad a roddwyd mewn beirniadaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943. Roedd cystadleuaeth yn yr wyl honno am draethawd ar y testun, ‘Hen Arweinyddion Eisteddfodol’ a’r beirniad oedd Caerwyn Roberts – ei hun yn arweinydd penigamp ac yn brif lyfrgellydd Sir Fôn ac yn hannu o Gynwyd. Enwyd stryd yn Llangefni hefyd ar ei ôl. Enillydd y gystadleuaeth oedd y Parchedig Daniel Williams ac fe gyhoeddwyd ei waith yn llyfryn. Dyma ddywedodd Caerwyn Roberts yn ei feirniadaeth oedd anghenion arweinyddion eisteddfod:

“Eu pennaf gwaith yw cadw trefn a rheol dda ar y gweithgareddau, arolygu’r llwyfan a’r miloedd sy’n ymgynnull, a gyrru drwy’r gwaith yn esmwyth a didramgwydd. Geilw’r swydd am ddull a dawn arbennig. Nid pob un a alwyd a gynysgaeddwyd â’r grym â’r gras, yr un reddf a chynneddf, i gyflawni’r swydd yn gymeradwy.”

Gyda hyn o ragarweiniad mi a’i ymlaen yn awr i sôn am ychydig am un o arweinyddion eisteddfod mwyaf talentog a welodd Cymru, sef Pat O’Brien.

Ar ddydd Sadwrn y cyntaf o fis Medi yn y flwyddyn 1956 ym mynwent plwyf diarffordd Llanfihangel yng Ngwynfa yn yr hen sir Drefaldwyn fe ddadorcuddiwyd cofeb ar ffurf croes geltaidd i goffáu gŵr o’r enw Edward David O’Brien neu ‘Pat’ O’Brien fel y’i adnabyddid gan bawb, ar wahân i’w ddisgyblion yn Ysgol y Green yn Llanrhaeadr ym Mochnant lle y bu’n brifathro am yn agos i ugain mlynedd.

Mi ddof yn ôl at y gofeb yn nes ymlaen, ond pwy oedd y Pat O’Brien hwn a ddaeth yn ei dro yn arweinydd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn anwylun cenedl? Fe’i disgrifwyd ef gan y Parchedig Huw Jones mewn llythyr ataf y llynedd fel:

“Yr anwylaf, y ffraethaf a’r medrusaf o arweinyddion ’steddfod a welodd Cymru.”

Dyna ichi ddweud mawr ond mae’n wir pob gair.

Gwyddel o’r enw James O’Brien oedd ei dad a chydag ef y mae cnewyllyn yr holl ddirgelwch sy’n ymwneud â’r stori hon, a dyma hefyd y rheswm pam yr ydw i yn traddodi yma heddiw o dan fantell y Fforwm Gwyddelig yng Nghaerdydd, sef Fforwm Cymru y Newyn.

Un o deulu’r Arthuriaidd ym mhlwyf Llanfihangel yng Ngwynfa oedd Mary O’Brien, mam Pat, neu ‘Edward Defi’ fel y byddai hi yn cyfeirio ato. Yr oedd ei thad hithau, David Arthur, wedi priodi â Margaret Morris o blwyf cyfagos, Llanfyllin, ond yn eglwys plwyf Llanfihangel y priodwyd y ddau – yn yr un eglwys y cafodd Ann Griffiths, yr emynyddes, ei phriodas hithau ac ym mynwent yr un eglwys y’i claddwyd.

Ganwyd deg o blant i Margaret a’i gŵr David Arthur, y pedwar cyntaf yn y Waun, Pentre Isa, ym mhlwyf Llanfyllin. Erbyn Mehefin 3, 1881 roedd y teulu wedi symud i fyw i blwyf cyfagos arall, sef plwyf Llanrhaeadr ym Mochnant, oherwydd yno ym Mhwllwrach y ganwyd y pumed plentyn sef Mary, mam Pat O’Brien.

Mewn tair blynedd wedi geni Mary ’roedd y teulu wedi symud eto – y tro hwn i ‘Topllan’, tŷ ger yr eglwys yn Llanfihangel, a ganwyd pump arall yno. Fe welir felly fod Margaret, y fam, wedi esgor ar ddeg o blant dros gyfnod o ugain mlynedd ac mae nifer o’i disgynyddion yn yr un cylch hyd heddiw.

Yn ddiweddarach fe geir Margaret Arthur a’i gŵr David Arthur (nain a thaid Pat O’Brien) yn ogystal a’r ferch Mary (mam Pat) yn byw yn ’Poplar Cottage’ yng nghanol pentref Llanfihangel rhwng yr eglwys enwog yno a’r dafarn nid anenwog, y ’Goat’, lle y byddai côr enwog Aelwyd Penllys yn cymdeithasu ar ôl bod yn ymarfer gyda’i harweinydd disglair, y diweddar Barchedig Elfed Lewis, yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf.

Ond yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cychwynnodd yr holl ddirgelwch. Fe gofiwch mai ym 1896 yr agorwyd argae enwog Llanwddyn ar ôl blynyddoedd o baratoi a boddi y dyffryn hwnnw er mwyn gosod pibellau i drosglwyddo dŵr o’r llyn newydd i ddisychedu trigolion dinas Lerpwl.

Felly fe gollwyd Cwm Llanwddyn a’r pentref yn gyfangwbl, a lle bu cynnwrf diwylliannol, eglwys, capel, ysgol a thai, a lle y cynhaliwyd o leiaf un o eisteddfodau cynnar Talaith a Chadair Powys, fe drowyd y cyfan yn llyn ac, fel y dywedodd John Evans yn ei awdl ’Yr Argae’, a ennillodd iddo Gadair yr Wyl yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954:

Llanwddyn yn llyn heddiw — dinodded
Ei anheddau chwilfriw;
Tan genlli tonnog unlliw
Allorau bro’n y llawr briw.

Troi’r cwm yn fedd rhyfeddol — yn rhwth gell
Wrth y gaer gadarnaf;
O ffoi’r hud, ni ddeffry haf.
Hen ias ar Gynonisaf.

Wedi adeiladu’r argae aeth y gwaith o ’gynnal a chadw’ yn ei flaen am flynyddoedd wedi hynny. Cyflogid cannoedd o Wyddelod i weithio fel ’labrwrs’ ar ran corfforaeth Lerpwl i adeiladu’r argae ac yna i ’gynnal a chadw’. Yn eu mysg, mae’n debyg, yr oedd gŵr o’r enw James O’Brien a ddaeth ym mhen y rhawd yn ’lodjiar’ yn Poplar Cottage lle yr oedd Mary yn byw gyda’i mam, Margaret Arthur, oherwydd erbyn hyn roedd Margaret y nain yn weddw gan fod ei gŵr, David Arthur, wedi marw ym mis Tachwedd 1908.

Ym mhen blwyddyn wedi hynny, ar 10fed o Dachwedd 1909, ’roedd Mary Arthur wedi priodi James O’Brien, y ’lodjiar’, yn eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa gyda’r Canon J. R. Roberts yn gweinyddu. Arwyddwyd y tystysgrif briodas gan Maggie Arthur, y fam, John Lloyd Davies, Maurice Arthur, brawd y briodferch, ac Elizabeth Elen Arthur, chwaer iddi. Ar y dystysgrif ceir enw tad James O’Brien, sef David O’Brien, ‘Farmer’, ond nid oes tystiolaeth ei fod yn bresennol yn y briodas.

’Roedd Evan Arthur, brawd arall i’r briodferch, wedi mynd i’r De i weithio fel glöwr yn negawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ym 1901 fe’i cawn yn byw yn 37 Trebanog Road, Porth, Rhondda, gyda Richard Roberts a’i wraig, Ann, y ddau ohonynt yn hannu o Sir Fôn. Priodasai Evan â Margaret, merch y ty, ac roedd iddynt dri o blant. Ym mhen ychydig wedi hynny symudodd Evan a’i wraig i Abertridwr, ger Caerffili, ac fe’u cawn yn byw yn 20 King Street yno. Gweithiai Evan ym mhwll glo y Windsor.

I’r tŷ hwnnw yr aeth James O’Brien a’i wraig Mary i dreulio eu mis mêl. Un diwrnod yn ystod eu arhosiad aeth James O’Brien allan o’r tŷ gan ddweud ei fod am fynd i chwilio am waith fel y medrent ymgartrefu yn y ’Sowth’ lle yr oedd digon o gyfleon gwaith ar y pryd. Ni ddaeth James O’Brien yn ôl i’r tŷ ac yn ôl yr hanes ni welodd y teulu ef byth wedi hynny. Diflannodd!

Erbyn hyn ’roedd Mary, ei wraig, yn feichiog a bu’n rhaid iddi ddychwelyd at ei mam yn Llanfihangel ac i ail–gydio yn ei gwaith yn cario’r post o gwmpas y plwyf mawr a gwasgaredig. Ar 21ain o fis Awst 1910 ganwyd mab bychan i Mary O’Brien ac fe’i bedyddiwyd yn Edward David O’Brien yn yr eglwys leol gan y Canon J.R.Roberts. Nid oedd y tad yn y cofrestru nac yn bresennol ar y diwrnod y bedyddiwyd y bachgen ond fe’i henwir fel y tad ar y dogfennau.

Gan fod y fam yn cario’r post o gwmpas y plwyf enfawr a thenau ei boblogaeth mae’n fwy na thebyg y byddai Mary O’Brien yn cydio yn ei dyletswyddau yn gynnar yn y bore ac yn dychwelyd i’w chartref yn hwyr y prynhawn. Yn ei habsenoldeb, gofelid am y bachgen gan Margaret Arthur ei nain, a ddisgrifiwyd gan Rhys T. Davies yn y ‘Faner’ fel “un o gymeriadau mwyaf diddorol a gwreiddiol Llanfihangel.”

Ei gwaith hi oedd “gofalu a glanhau’r ysgol leol yn ogystal a gwarchod nifer o’r plant a elai i’w thy (chwedl Rhys T. Davies eto): “ i fwynhau ein tamaid canol dydd ac i wrando ar sgwrs flasus Mrs. Arthur.”

’Roedd yr hen Faggie Arthur, fel y’i hadnabyddid hi yn lleol, yn fydwraig gofrestredig hefyd ac o’r herwydd gwyddai am hynt a helynt pob plentyn a aned yn y cylch. Mae’n debyg fod Edward David ei hwyr wedi dod o dan ddylanwad ei nain ddiddorol ac wedi etifeddu arabedd a ffraethineb y Gwyddel oddi wrth ei dad, er nad oes sôn o gwbl am hwnnw, hyd y gwyddon, wedi i’w fab gael ei eni.

Gyda’i fam a’i nain y codwyd Edward David O’Brien ond gwyddai pobl y fro mai Gwyddel oedd ei dad a buan y daeth pawb i’w adnabod fel ’Pat’ ac o dan yr enw ’Pat’ O’Brien y cyfeiriwyd ato ar hyd ei oes fer weithgar a phrysur. Erys diflaniad y tad, sef James O’Brien, yn ddirgelwch hyd heddiw.

Er fod gan Mary O’Brien (y fam) swydd yn cario’r post mae’n siwr mai prin oedd adnoddau ariannol y teulu. Serch hynny, cafodd Pat O’Brien ei godi mewn awyrgylch ddiwylliannol a chrefyddol gyfoethog. Nid yn unig ’roedd ei nain, Maggie Arthur, yn ei fagu a’i godi yng nghefndir diwylliant y fro, yr oedd Pat yn mynd i’r ysgol eglwys leol, ac i’r eglwys gyfagos yr oedd y teulu yn ei mynychu.

Gŵr o’r enw Charles Edward Shimmin oedd prifathro’r ysgol, Sais uniaith, brodor o Ynys Manaw, a ddaeth i’r pentref o fod yn athro yn Ysgol Sant Thomas yn Bury, ger Manceinion. Bu’n ddylanwad mawr arno er ni chyfeirir at Pat unwaith yn llyfr log yr ysgol. Mae’n anodd credu na fu Edward David O’Brien yn ddisgybl perffaith yn yr ysgol gan i un o’i gyfoedion gyfeirio ato fel “cythraul, drygionus, castiog.”

Rheithor y plwyf oedd y Canon J. R. Roberts, cerddor, bardd a chynhaliwr diwylliant y cylch. Bu ganddo gôr plant yn y pentref a ddaeth i enwogrwydd drwy Gymru gyfan gan ennill gwobrau lu gan gynnwys y Genedlaethol. Bu’r ddau wr yma yn gefn i’r teulu ac mi dybiaf eu bod wedi bod yn gymorth i Pat yn ystod ei fachgendod.

Gan ei fod wedi ei godi yn y cefndir crefyddol a diwylliannol hyn, fe fyddai’n ymwybodol hefyd, mae’n siwr, o gyfraniadau enwogion eraill y fro, Ann Griffiths yr emynyddes, John Davies Pendugwm a fu’n genhadwr yn Tahiti, John Hughes, Pantrobert, Thomas Williams, (‘Eos Gwynfa’) heb sôn am Harri Parri, Craig y Gath, a ddysgodd y grefft o farddoni i’r Fendigaid Ann.

Erbyn iddo fynd i Ysgol Ganolgradd Llanfyllin yr oedd Pat yn barod i wynebu y ddau a fyddai’n brifathrawon arno sef E.T.Griffiths a’r hynod John Lloyd Thomas, mab i weinidog Capel Gibea, Brynaman. Hyd y gwn i mae holl gofnodion Ysgol Llanfyllin un a’i mewn dwylo preifat neu wedi’u colli ac o’r herwydd ni fedrais fanteisio ar yr hyn gofnodwyd yno am Pat, ac rwy’n siwr y byddai Lloyd Thomas wedi gwneud hynny. Gwyddon, fodd bynnag, ei fod yn un direidus eithriadol, yn un creadigol ac wedi gwneud yn dda iawn yn ei arholiadau terfynol. Lloyd Thomas roddodd iddo ei gyfle cyntaf i arwain eisteddfod pan ofynnodd iddo arwain eisteddfod Gŵyl Ddewi yn yr ysgol ym 1927.

Mae’n ddiddorol sylwi mai Lloyd Thomas a fu’n brifathro yn Llanfyllin am oddeutu hanner can mlynedd a fu hefyd yn gymaint o ddylanwad ar yrfaoedd Elizabeth Vaughan y gantores a Ryan Davies y diddanydd, y ddau ohonynt yn ddisgyblion yn ei ysgol.


Yr oedd bryd Pat ar fod yn athro a chyn iddo fynd i goleg hyfforddi roedd yn rhaid iddo gael profiad o ddysgu ac fe’i cawn yn bwrw ei brintisiaeth yn gyntaf yn ysgol Llanerfyl ym 1928 lle yr oedd R. W. Jones (‘Erfyl Fychan’), sefydlydd Cymdeithas Cerdd Dant ac awdur ‘Bywyd Cymdeithasol Cymru’ a ‘Rhigwm i’r Hogiau’ yn brifathro.

Yn y flwyddyn ganlynol aeth yn ‘pupil teacher’ i ysgol Llangadfan lle ’roedd gwr neilltuol iawn arall yn brifathro sef David Pierce Roberts, brodor o Faentwrog a thad y Dr. Enid Pierce Roberts, Nest Davies, Y Trallwng a’r diweddar Luned, gwraig Ambrose Bebb. Yn ystod ei gyfnod yno cafodd gyfle i ddisgleirio ym mywyd diwylliannol y cylch ac amlygwyd ei ddoniau yn yr amrywiol gyfarfodau a gynhelid yno.

Ym mis Tachwedd 1929 cydnabuwyd Pat O’Brien yn athro didystysgrif gan y Bwrdd Addysg ac yn y flwyddyn ganlynol daeth yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin lle yr amlygodd ei hun unwaith eto yn y bywyd diwylliannol Cymraeg gan ennill nifer o gystadlaethau yn eisteddfodau’r coleg. Ceir cyfeiriadau at ei fedrusrwydd yng nghylchgrawn y coleg fel hyn:

“Gogleisiwyd ni gan arabedd y cyfaill O’Brien.”

Un o’i hoff driciau oedd dynwared Cymry enwog ac adroddir amdano fel hyn:–

“Daeth Twm o’r Nant i ymweld âr ddaear hon eilwaith, ym mherson y brawd O’Brien. Yr oedd Twm mor ffres a gwreiddiol ag erioed, a mwynhawyd awr ddifyr tu hwnt yn ei gwmni. Onid ydyw Twm wedi datblygu’n ’sglaig gwych.”

Yn y coleg ym 1931 cafodd gyfle arall a chofnodir hyn:–

“An interesting innovation this year was the Welsh chairing ceremony impressively conducted by E.D.O’Brien.”

Tra yn y coleg bu’n ymarfer ei alluoedd fel athro yn Ysgol Stryd y Priordy yng Nghaerfyrddin ac mae ei lyfrau nodiadau ar gyfer gwersi yn fy meddiant.

Gwnaeth argraff ffafriol iawn ar ei athrawon yn y coleg ac fel hyn mae ei adroddiad terfynol yn darllen:–

“A thoroughly good student, difficult to speak too highly of him. He has one of the happiest dispositions of any student ever at college. Good in his work, has a charming manner with a class. Well prepared lessons, good disciplinarian, above average in personality, excellent in Welsh, very popular with staff and students.”

Nid yw’n syndod felly ac yntau yn un ar hugain oed iddo gael ei ddewis yn brifathro Ysgol yr Eglwys ym Maentwrog yn olynydd i John M. Wilson, Sais rhonc a fu’n brifathro yno am 14 mlynedd ac yn athro gyda Phwyllgor Addysg Sir Feirionnydd am 47 o flynyddoedd.

Yn llyfr cofnodion yr ysgol ym mis Mehefin 1932 mae Wilson y cyn brifathro yn ôl yn dirprwyo ac yn cofnodi yn y llyfr log:–

“Took charge of this school today during the absence of the head master. Mr. O’Brien has to return on account of the death of a relative.”

Yr oedd Margaret Arthur, ei nain ac un o’r cymeriadau diddorol a gwreiddiol Llanfihangel, wedi marw a bu hyn yn golled fawr i Pat O’Brien. Golygai hyn hefyd fod Mary O’Brien, ei fam, yn byw ar ei phen ei hun yn Poplar Cottage. Ym mis gorffennaf 1933 ceir cofnod olaf Edward David O’Brien fel prifathro ym Maentwrog:–

“Today, I resign the headship of this school having been appointed headmaster of Llanrhaeadr ym Mochnant C.E. School, Denbighshire.”

Dyma gychwyn felly ar gyfnod o ugain mlynedd fel prifathro yn y Llan a dau ddegawd o weithio’n ddygn ym mhob agwedd ar fywyd crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol y pentref, y cylch a’r genedl. Erbyn hyn ’roedd wedi sefydlu ei hun fel arweinydd eisteddfod a byddai galw mawr am ei wasanaeth mewn eisteddfodau a phob math o gyngherddau.

Gwisgai’n drwsiadus ar y llwyfan gan arddel siaced ddu a thrwsus ’pin stripes’. Yr oedd ei fam, Mary O’Brien, wedi dod i fyw ato i dŷ’r ysgol yn y Llan a bu hi yn gydymaith iddo ac yn gofalu amdano (ac ef amdani hithau) am y gweddill o’i oes. Ni fu Pat O’Brien yn briod ond bu iddo nifer o gariadon, mae’n debyg, ac fe ddyweddïodd ag un ohonynt ond ni ddaeth dim o’r berthynas.

Roedd Pat yn dda ei gymwynas ac ato ef yr elai pobl y Llan pan oedd angen llenwi ffurflen neu i dderbyn cyngor ar yr hyn a’r llall.

Yn ogystal ag arwain yr eisteddfodau a chadw trefn ar y tyrfaoedd a’r gweithgareddau ’roedd angen cadw’r gynulleidfa mewn hwyliau da ac weithiau byddai galw am stori i ddiddanu ac i lenwi cyfnod tawel neu i aros i gystadleuydd neu feirniad weithiau i ddod i’r llwyfan i gystadlu neu draddodi. Dyma pryd y disgleiriai Pat fel storïwr neu reolwr. Codai faneg yn ei law fain gan ofyn a oedd rhywun wedi ei cholli a phan na cheid ateb gofynnai i geidwad y drws fynd allan i weld a oedd rhywun yn canu, “My tiny hand is frozen!”

Dro arall byddai angen ei alluoedd fel rheolwr. Mewn un ’steddfod yn y Foel roedd cryn gynnwrf yng nghefn y neuadd lle yr oedd gwr ifanc o blwyf cyfagos a feddai ar glustiau mwy na’r cyffredin yn gwneud mwy o dwrw na neb arall. Gwyddai Pat pwy oedd a chyhoeddodd yr arweinydd ei fod yn gwybod pwy wnelai’r swn ond na fedrai ei weld gan fod clustiau mawr rhywun arall yn rhwystro iddo ei weld. Gwr y clustiau mawr yn mynd allan o’r neuadd ar ei union wedi’i gywylyddio a’r dorf yn dangos ei chymeradwyaeth.

Dro arall yn eisteddfod Llansilin trefnwyd yn ôl yr arfer mai cystadleuaeth y corau fyddai’n cloi’r ŵyl. Sylwodd yr arweinydd fod côr o un o bentrefi’r cylch wedi cyrraedd y neuadd beth amser cyn y cynhelid eu cystadleuaeth a bod rhai o aelodau’r côr, o dan dylanwad y gwin barlys, efallai, yn swniog ac yn amharu ar y gweithgareddau.

Cyhoeddodd Pat O’Brien ar unwaith fod trefnwyr yr wyl wedi penderfynu newid trefn y cystadleuaethau drwy gynnal cystadleuaeth y corau yn gynt na’r arfer. Gwahoddodd aelodau’r côr a safai yng nghefn y neuadd i ddod ymlaen at erchwyn y llwyfan er mwyn iddynt fod yn barod i gystadlu.

Nid oedd trefnwyr yr eisteddfod wedi gwneud unrhyw newid i drefn y cystadlu, wrth gwrs, a bu aelodau’r côr hwnnw yn sefyll am awr a hanner yn ymyl y llwyfan hyd nes y daeth eu tro i ganu. Roedd Pat wedi goresgyn yr anhawster unwaith eto ac wedi cael trefn ar y gynulleidfa.

Mewn eisteddfod arall cyflwynodd Pat O’Brien un o’r unawdwyr gan gyhoeddi ei fod am ganu, “How vain is man” neu, os ydych esiau enw’r gân yn Gymraeg, meddai, “Mor fain yw dyn”!

Medrai fod yn eithriadol o ddoniol a byddai pobl yn cael eu denu i eisteddfodau a chyngherddau gan ei arabedd, hiwmor a’i ffraethineb. Yn amlach na dim ef oedd y ’star attraction’. Yr oedd iddo urddas arbennig a chyda ef y byddai’r cyfrifoldeb i gyflwyno llywyddion, y beirniaid, arweinyddion corau ac yn y blaen, a hynny hab ddarn o bapur o’i flaen — na’r un nodyn wedi’i deipio’n ofalus ar ei gyfer.

Roedd yn arweinydd heb ei ail. Bu’n arwain eisteddfodau ar bob lefel ond ef oedd y ffefryn yn eisteddfodau mawr Cymru, rhai fel Llanuwchllyn, Llangwm, Llanrwst, Llandderfel a chyn belled ag Aberteifi a rhai taleithiol fel y Powys a Dyffryn Conwy. Ac yng eisteddfodau’r Urdd, Eisteddfod Lewis yn Lerpwl a chyngherddau prawf fel yr un enwog yn Aberystwyth.

Ef oedd un o arweinyddion Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen o’r dechrau. Pan ddaeth y Genedlaethol i Rosllannerchrugog ym 1945 cafodd ei gyfle cyntaf i arwain gwyl fawr y genedl. Pan gynhaliwyd yr eisteddfod yng Nghaerffili ym 1950 ac yntau yn un o’i harweinyddion, bwriodd yr wythnos yng nghwmni ei fam, yn aros yn 20 King Street Abertridwr gyda’i gefnither Gwladys Arthur, merch Evan, yn yr union dŷ lle y bu ei rieni ar eu mis mêl ym 1909 ac o ble y diflanodd ei dad James O’Brien rhyw fore i chwilio am waith. Yn y tŷ hwnnw mae cyfnither Pat yn dal i fyw a hithau dros ei deg a phedwar ugain oed.

Fe dderbyniodd Pat O’Brien wahoddiad i Eisteddfod y Rhyl ym 1953 ond bu farw ym Mehefin y flwyddyn honno a mawr fu’r siom. Cyhoeddwyd ei farwolaeth ar y radio ar yr un diwrnod y cafodd y frenhines bresennol ei choroni. Daeth cwmwl o dristwch tros y Llan a hir fu’r galaru. Cyn yr eisteddfod lluniodd Gwilym R. Tilsley gadwyn o englynion am Pat O’Brien i’r achlysur o dan y pennawd ‘;Hiraeth’ a dyna un ohonynt:

Er i serch gwlad ei erchi – er ei wâdd
I’r ŵyl, ni ddaeth leni
Ni ddaeth er ei hiraeth hi
Yn y Llan, trwm yw’r llenni.

Bu’r ’gligieth’ ym mynwent gyhoeddus Llanfihangel yng Ngwynfa ac ’roedd dros chwe chant yn yr angladd. Yn fuan wedi hynny penderfynwyd codi cofeb iddo yn y fynwent honno a threfnwyd derbyn tanysgrifiadau i gyfarfod â’r costau. Trefnwyd hyn i gyd gan Gymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys ac mewn ychydig iawn o amser casglwyd yn agos i drichant o bunnau. Ym mysg y tanysgrifwyr yr oedd enwau Arglwydd Raglaw’r Sir, yr Aelod Seneddol lleol, corau a chapeli’r fro a llu o unigolion o bob rhan o Gymru.

Dyluniwyd a chodwyd cofeb ar ffurf croes Geltaidd gan adeiladydd o Lanfyllin a threfnwyd iddi gael ei dadorchuddio gan Caerwyn, un arall o arweinyddion mawr yr wyl ond oherwydd anhwylder methodd â bod yno.

Gwnaed y gwaith yn el le gan Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ar y pryd, sef W. Emyr Williams Wrecsam ond brodor o Sir Drefaldwyn.

Ar y gofeb ceir englyn o waith ’Rhosier’, y Parchedig W. Roger Hughes (tad Nia Rhosier), i goffáu’r arweinydd:

Arabedd îr a wybu, – a fynnid
Ar lwyfanau Cymru;
Ei law fain welw i fyny,
A’i ddawn fawr mor ddiddan fu.

Lluniwyd llawer o farddoniaeth er cof amdano gan gynnwys englynion coffa gan Iorwerth Lloyd, hen gyfaill iddo, penillion o waith Caerwyn Roberts, cywydd coffa gan Ben Jones Bangor, penillion gan Marged Mochnant ac anerchiad barddonol o waith Gwilym Rhys Llangurig a gyflwynwyd pan agorwyd Gorsedd Cadair a Thalaith Powys ym 1956.

Dengys y ffaith fod cofeb wedi’i chodi i Pat O’Brien o fewn tair blynedd i’w farwolaeth mor uchel y’i perchid ac mor awyddus yr oedd ei gyfeillion a’r genedl i ddangos eu parch a’u hedmygedd i:

“Yr anwylaf, y ffraethaf a’r medrusaf o arweinyddion ’steddfod a welodd Cymru.”

***********************

Dyma ddiwedd y ddarlith fel y’i traddodwyd hi ond erys ôl‑nodiad, sef englyn i Pat O’Brien ym 1944 gan David Pierce Roberts, Prifathro Ysgol Llangadfan:–

O hen bry yw O’Brien – ei dafod
Sy’n deifio fel mellten
Yn ei ’wits’ mae’n ofnatsen
Ac un clws, mae’n hogyn clên.

©: John Iorwerth Davies, Penybont–ar–Ogwr, Awst 2004.

Cyhoeddwyd y llyfr, Pat O’Brien 1910 – 1953,
a ysgrifennwyd gan y darlithydd, yn 2003 gan Gymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys.

Ar y clawr blaen ceir llun yn dangos Pat O’Brien yn ei anterth.

Mewn llun arall gwelir Pat O’Brien (ar y dde) yn ymlacio gyda’r Parchedig D. Jacob Davies, yntau hefyd yn arweinydd eisteddfodol.

Dymunwn ddatgan ein diolchgarwch i’r Bonheddwr John Iorwerth Davies am baratoi ac am draddodi’r ddarlith hon ac am ddanfon y testun llawn atom gyda ei ganiatâd caredig i’w gyhoeddi ar y wê yn y Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd.


English

Llanrhaeadr ym mochnant: Llyfryddiaeth fer.

Llanrhaeadr–ym–Mochnant: Hanes .

Y Genhinen a’r Siamrog.

Gorgysylltiadau Gŵyl Padrig Sant.

Hafan / Home