Seán Mac Réamoinn: Cyfaill Arbennig i Gymru



Newyddiadurwr, darlledwr, un a ddangosai frwdfrydedd tros yr Wyddeleg, y Gymraeg a thros cerddoriaeth ydoedd Seán Mac Réamoinn: bu farw yn gynnar ym mis Ionawr 2007 yn 85 oed. Bu yn gyfaill da i Gymru ac i’r Gwyddyl yng Nghymru. Yr oedd yno yn gyson gyda chyngor, cymorth ac â chalondid yn ystod blynyddoedd meithrin Fforwm Cymru y Newyn. Mawr fydd e golled i ni.

Aelod yr Orsedd oedd Seán, gyda’r enw barddol ‘Siôn Garmon’, enw a ddewisodd am mai ffurf Wyddeleg ‘Llwch Garmon’ yw ‘Loch Garman’, sef ‘Wexford’.

Cafwyd Seán ymysg y siaradwyr wrth i’r Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr gael ei dadorchuddio ac ei chysegru ym Mynwent Cathays, Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Padrig Sant, 17 Mawrth 1999. Dathlu go iawn yw hwn: cofio’r gorffennol eithr gyda bryd a chalon wedi’u sadio yn y dyfodol. Yr oedd Seán yno gyda ni, ysbrydolwr penigamp a fu’n arwain, yn calonogi ac yn symbylu.

Bu’r achlysur hwnnw, a’r rhai a gynhaliwyd yn flynyddol ers hynny, yn goffâd i’r Newyn Mawr yn Iwerddon fel i’r miloedd a groesodd y Mor Iwerddon ar ei ôl. Erbyn yr 1860au yr oedd mwy na 70 ghettöau Gwyddelig yng Nghaerdydd yn unig, a llawer eraill yn y cymoedd.

Ar ben hynny cymerodd Seán ran wrth lansio cylchgrawn Gwyddeleg, An Briathar Saor, y cylchgrawn cyntaf o’i fath a gyhoeddiwyd yng Nghymru erioed. Fe’i lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandeilo, Awst 1994, gan Seánand ac ei gyfaill da, Harri Pritchard‑Jones. Llefarodd Seán yn y Gymraeg a Harri yn y Wyddeleg! Gresyn na pharodd y fenter arloesol honno ond hyd i bedwar argraffiad.

Serch hynny, bu ‘Comhluadar Caerdydd’,y grŵp o siaradwyr Gwyddeleg a oedd tu ocirc;l i’r cynllun hwnnw, yn gyfrifol hefyd am drefnu cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 1994 a arweiniodd yn uniongyrchol at sefydlu Fforwm Cymru y Newyn.

Yr ydym ni’n ddiolchgar iawn iawn i’r Bonheddwr Seán Mac Réamoinn am fod yno drwyddi draw i’n helpu ni ar hyd y ffordd. Breintiedig yr ydym ni hefyd i gael croesawu i Seona a Brian Mac Réamoinn, merch a mab Seán, i’n plith ni heddiw.





Seremoni Goffa a Myfyrdod, Dydd Gŵyl Padrig Sant, 17 Mawrth 2007


Hafan / Home / Baile.