Caerdydd: Sul y Newyn



Wrth i’r flwyddyn eglwysig ddirwyn i ben, y mae’r Eglwys yn ein gwahodd i edrych ar fywyd, i edrych ar y greadigaeth ac i weld ynddi ddrych tragwyddoldeb. Y byd iawn, yr unig fyd lle gall pobl fyw yn ymwybodol ac yn ddoeth yw byd creadigaeth Duw a’i gyfundrefn. O’n cwmpas ac yn enwedig yn ein dinasoedd, fe welwn waith dwylo a meddyliau dynion. Anghofiwn Dduw, Arglwydd nef a daear; awn yn drahaus a gnawn ddrwg i’n gilydd. Mae gwareiddiaid wedi mynd heibio; adeiladwyd dinasoedd newydd ar adfeilion yr hen rai. Mae’r meddwl dynol, mor ffrwythlon a dyfeisgar, yn arddangos ei athrylith fwyaf wrth ganfod dulliau dinistr a dychryn. Eithr, yn ôl cynllun Duw, â pob peth heibio. Daw Dydd y Farn i bawb. Ni wyddwn pryd bydd hi’n digwydd. Yr holl a wyddwn yw y bydd dilynwyr Iesu Grist yn dioddef ac yn cael eu herlid yn Ei enw Ef. Neges yr Efengyl yw dyfalbarhau wrth wasanaethu’r Arglwydd gydol ein dyddiau a rhodio yn Ei lwybrau Ef.

Heddiw yn yr Offeren hon, cofiwn y dioddefaint ac artaith a brofwyd yn Iwerddon, a brofwyd gan gyndeidiau llawer ohonom ganrif a hanner yn ôl. Nid peth newydd oedd profi newyn yn Iwerddon ym 1845. Eithr roedd yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno ac yn y blynyddoedd dilynol i gael effeithiau hynod a phellennig. Mewn teuluoedd y mae cof y blynyddoedd hynny yn un diweddar. Ganwyd fy nhaid yn y 1830au. Doeddwn innau ddim yn ei adnabod. I’m nhad, roedd yn ysbrydoliaeth drwy gydol ei oes.

Nid am ddioddefaint y blynyddoedd hynny y gweddďwn heddiw, er mor ofnadwy ac echrydus yr oeddynt. Yn hytrach dylem atgoffa’n hunain bod trychinebau tebyg yn digwydd o hyd yn ein byd heddiw. A dal i roi’r un rhesymau dros beidio ag ymyrryd i atal y llwgu a’r angen a wnawn. Talwn bobl i beidio â chynhyrchu bwyd fel y gellir cynnal ein llewyrch ni. Ac felly y cynyddwn yr edliw a’r atgofion a fwyda raniadau a rhyfeloedd y ganrif nesaf.

Agwedd y Newyn yn Iwerddon rwyf am i ni ei hystyried heddiw yw ei effaith hynod ar fywyd yr Eglwys o amgylch y byd. Allan o wasgaru’r bobl druenus a newynog yr adeiladwyd yr Eglwys Gatholig sydd ohoni heddiw mewn llawer cwr o’r byd. Y bobl hyn, y dywedwyd wrthynt fod Duw wedi’u diarddel am eu hymlyniad i’w ffydd hynafol, a gariodd y ffydd honno gyda hwy a’i hail–wreiddio yn rhannau’r hen fyd a’i hail–adeiladu yn y byd newydd.

Gwelodd blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddechrau diwygiad yn y bywyd Catholig. Profodd yr hen gymunedau a oroesodd yr erledigaeth dwf araf. Cynorthwywyd hyn gan yr ymfudiadau cynnar o’r Iwerddon i ardaloedd diwydiannol newydd de Cymru. Dechreuodd enwau Gwyddelig ymddangos ar gofrestri Mynwy o 1814 ymlaen. Erbyn 1820 fe’u ceir yn y Fenni hefyd ac erbyn 1839 ceir mwy o enwau Gwyddelig nag o Gatholigion Cymraeg cynhenid. Ym mlynyddoedd y Newyn dechreuodd llongau ddod â phobl newynog i Gaergybi ac i Aberdaugleddau ac Abertawe. Deuai’r rhan fwyaf ohonynt o Gorc i brif borthladd y cyfnod, sef Casnewydd. Ym mis Chwefror 1848 cyrhaeddodd yr Argyle o Glonacilti yn cario tair buwch, dau geffyl, dwy dunnell o datws, 64 oedolyn a 36 plentyn, ugain ohonynt o dan saith oed. Nid oedd gan y llong drwydded i gario pobl. Ym mis Mehefin 1848 daeth y Catherine o Gorc â 98 person dros ei chwota swyddogol. Fe’i gwelwyd yn glanio pobl ddwy filltir islaw i’r Ty Gwylio yng Nghasnewydd. Ym mis Mawrth 1849 fe erlyniwyd meistr y llong Mary am ddod â rhagor na 20 o bobl. Gadawodd y llong Gorc â 46 o deithwyr ar ei bord. Glaniodd 17 mewn cwch yn aber afon Wysg tra gorfodwyd eraill i fynd ‘dros yr ochr’ i’r llaid wrth ymyl y goleudy. Yn yr un flwyddyn cyhuddwyd Jasper Travers o gludo 197 o deithwyr, 119 o oedolion a 78 o blant mewn llong â thrwydded i gario 98. Rhoddwyd llawer i’r lan oddi ar longau eraill ar hyd yr arfordir o Abertawe i Gasnewydd.

Yng Nghyfrifiad 1851 roedd 2069 o bobl a aned yn yr Iwerddon yn byw yng Nghasnewydd, 3051 ym Merthyr a 1333 yn Abertawe. Erbyn 1861 roedd rhyw 9000 o Wyddelod yn Sir Fynwy a 27,000 ym Morgannwg – 10,000 ohonynt yn ardal Caerdydd. Crybwyllaf y ffeithiau hyn ond i roi syniad o’r niferoedd a ddeuai i dde Cymru. Mae llawer ohonoch yma heddiw, p’un ai os ydych yn cofio neu yn dewis peidio, yn ddisgynyddion i’r trueiniaid hyn. Daethant o hyd i waith lle’r gallent a dechreuasant sefydlu’u cartrefi bychain, tlawd. Yn aml cawsent eu dirmygu a nid oedd croeso iddynt. Ym mis Mawrth 1849 dywedodd y Cardiff and Merthyr Guardian : “Rydym wedi arfer â chysylltu budredd, anhrefn a thlodi anobeithiol â phob peth Gwyddelig o’r nifer fawr o frodorion diog, segur a thruenus y chwaer ynys sydd yn croesi’n llwybrau’n barhaus.” Roedd y sarhad dianghenraid hwn yn rhan o ragair i adroddiad ar orymdaith Clwb y Hiberniaid a fyddai, mewn gwirionedd, yn ôl yr adroddiad, “yn dwyn cymhariaeth ag unrhyw gorff o foneddigion yn y wlad” ac a oedd yn “un o’r gorymdeithiau godidocaf a welwyd erioed yng Nghaerdydd.”

Mae’n amlwg nad adlewyrchu safbwynt yr holl Gymry a wna’r Cardiff and Merthyr Guardian o ystyried gweithred Mr. Jones o Fferm y Cwrt, ger Porth Talbot. Pan laniwyd grwp oddi ar long hwylio wrth Dwyni Cynffig fe baratôdd Mr. Jones ei sgubor yn noddfa iddynt a threfnodd gyflenwad bwyd gan ei gymdogion. Am rai misoedd roedd Gwyddelod newynog yn falch o’r cysgod, o’r bwyd ac o’r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt gan Mr. Jones a’i gymdogion.

Roedd y mewnfudwyr o Wyddelod hyn yn awyddus i gael hyd i offeiriaid i’w gwasanaethu. Fe ddywedir am Wyddelod y Newyn ym Mhorth Talbot mai eu dyhead mawr, er nad oedd yr un masnachwr yn eu mysg, oedd cael ymarfer eu ffydd a “phenlinio unwaith eto wrth Allor Duw.”

Roedd hi’n amhosibl i’r offeiriaid cenhadol yn ne Cymru gwrdd â’r galw. Er bod eu nifer wedi cynyddu rhywfaint, ychydig oeddynt o hyd. Ar ben hynny roedd erledigaeth y canrifoedd wedi’u gwneud yn betrusgar ynglyn â dechrau canolfannau newydd rhag ofn deffro unwaith eto ragfarnau dwys yr oesoedd a fu er niwed y bobl Gatholig. Dim ond gyda chyrhaeddiad gwyr fel Tad Portal, Merthyr, Tad Millea, Caerdydd, Tad Kavanagh, Abertawe a Thad Tobin, ymysg gweithwyr y rheilffordd yng ngogledd Cymru, y gallai’r gwaith o ail–adeiladu’r cymunedau Catholig ddechrau o ddifrif. Yng Nghaerdydd ei hun, daeth y Rhosminiaid â gweledigaeth a gobaith newydd.

Mae hi’n addas ein bod ni heddiw, ganrif a hanner ar ôl i’r Newyn ddechrau, yn cofio gyda balchder a gostyngeiddrwydd dwys y gwyr, gwragedd a phlant a ddaeth yma yn llu. Roeddynt yn dlawd, yn newynog a chawsant ddirmyg. Pan ddechreuasom anghofio; i ddewis peidio â chofio’r bobl hyn y mae arnom gymaint o ddyled iddynt, dechreuasom droi oddi wrth ein gwreiddiau a chyflawnder ein ffydd. Y sawl sy’n anghofio’i wreiddiau a anghofia’n fuan pwy ydyw.

Yn eu dioddefaint a’u helbulon cariai’r bobl hyn ymwybyddiaeth o Dduw a gwledigaeth o Eglwys Crist gyda hwy. Yn fuan iawn, wrth iddynt godi o’u tlodi eithafol yn y cychwyn, dechreuasant ffurfio’u clybiau Hiberniaidd a’u cymdeithasau. Rhoes y rhain lun a chyfeiriad i’w cymunedau ac roedd ganddynt gysylltiadau agos â’u ffydd ac â gwyliau’r Eglwys. Chwiliasant am offeiriaid i’w gwasanaethu ac athrawon i’w plant. Roedd gan y gweithwyr Gwyddelig ym Mhenybont–ar–Ogwr a orchmynnodd i dincer teithiol gael hyd i offeiriad iddynt, a’i rybuddio i beidio â dychwelyd heb un, synnwyr o Gatholigiaeth yr Eglwys y byddai’n dda i ni ail–ddarganfod. Nid arhosodd y bobl hyn i eraill wneud pethau ar eu rhan a darparu ar gyfer eu gofynion ysbrydol. Ar adeg pan drafodwn ran y lleygwyr yn yr Eglwys, da o beth yw cofio ein bod yn siarad allan o realiti byw, menter a chyfraniad lleyg a ddeilliodd bob amser o’r bobl. Soniwn weithiau am amser pan na fydd offeiriaid. Pe digwydd i’r diwrnod hwnnw gyrraedd byddai’r Eglwys Gatholig wedi peidio. Oherwydd y mae’r offeiriadaeth weinidogaethol wrth wraidd gwasanaeth yr Eglwys fel roedd Crist yn ei bwriadu. Gwyddai ein cyndeidiau annysgedig hyn drwy ddyfnder eu ffydd ac fe weithredent ar y wybodaeth honno.

Gofynnaf i chi heddiw i weddďo dros yr Eglwys yma yng Nghymru. Mae gennym hanes urddasol i’n hysbrydoli. Yn y canrifoedd diweddar, mewn erledigaeth ac mewn tlodi, ymdrechodd y bobl Gatholig i gynnal yr Offeren ac i gael hyd i ddulliau effeithiol o drosglwyddo’r ffydd i’w plant. P’un ai’r Cyfrin Gyngor yn cwyno yn amser Elizabeth I fod plant y pabyddion yn Henffordd “yn cael eu dysgu a’u bridio gan ysgolfeistri o’u crêd eu hunain” neu’r Tad Millea yng Nghaerdydd yn rhoi tystiolaeth rymus i Gomisiynwyr y Llywodraeth yn 1847 o’r angen brys am ysgolion ar gyfer ei braidd Catholig, rydym yn gwrando ar draddodiad sydd yn rhan o’n hetifeddiaeth grefyddol. Yn ein cenhedlaeth rydym yn methu â gwneud yr etifeddiaeth honno, cynnwys yr Efengyl, yn gof ac yn obaith i’n pobl ifainc.

Gaerdydd Gatholig, Gymru Gatholig, dadorchuddiwch eich gorffennol. Wrth wneud hynny, byddwch yn adeiladu eich dyfodol. Os tyriwch yn ddigon dwfn bydd y dyfodol hwnnw mor urddasol â’r gorffennol a roes fod iddo. Oherwydd bydd yn rhan o’r gadwyn ddi–dor honno o wasanaeth ac o weddi a ddaw i ni o’r apostolion.



Pregeth yr Esgob Daniel Mullins (a draddodiwyd yn Saesneg gan Archesgob Caerdydd ar y pryd, y Tra Parchedig J.A.Ward, OFM.) yn ystod Offeren Goffa’r Newyn Mawr, Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Caerdydd, 19 Tachwedd, 1995.

Cyfiethiad: Julia Burns.

English

Sa Ghaeilge / Yn y Wyddeleg / In Irish

Y Ddraig Werdd Rhif 1

Leathanach Baile / Hafan / Home Page