Defyniadau: Sylwadau o Ffynhonellau Amrywiol



‘Gwylnos Americanaidd’; Plentyn yn Ymadael:

“Roedd hi’n debyg i gynhebrwng mawr....yr ymadawiad olaf....yn drist iawn i’w weld....Roedd y rhieni yn arbennig o drist, fel petai’r person a oedd yn gadael wedi marw’n wir....Bydai’n well gennych beidio â bod yno o gwbl petaech yn meddu ar unrhyw deimladau meddal.”
Llawysgrif 1411, Adran Llên Gwerin Iwerddon, Coleg y Brifysgol, Dulyn.

O Flaen eu Gwell:

“Bydd haneswyr a gwleidyddion ryw ddydd yn pwyso a mesur y dadleuon a dogfenna’r flwyddyn athrist hon ac adrodd, gyda neu heb deimlad, faint o gyfrifoldeb a oedd i’w briodoli i’r nef a faint i greulondeb, calongaledwch neu ddiofalwch dyn.
Mae’r sefydliadau brolidig ac ysbryd yr ymerodraeth yn y fantol. Maent o flaen eu gwell.”

The Times, wedi’i ddyfynnu yn ‘The Ocean Plague’ gan Robert Whyte (1848).

Eu Helw Uniongyrchol eu Hunain:

“Os haedda unrhyw ddosbarth amddiffyniad a chymorth y llywodraeth, y dosbarth hwnnw a alltudiwyd o’i wlad enedigol er chwilio am y medd lleiaf o gynhaliaeth ydyw....Mae rheidrwydd ar y Gyfraith, o leiaf ar ochr y Saeson....i roi terfyn ar y gyfundrefn honno lle mae cwmni sydd yn masnachu mewn ymfudwyr yn prynu ddeciau canol cyfan rhyw long gan ei pherchnogion a’u llenwi â chymaint o drueiniaid ag y cânt afael ynddynt ar unrhyw delerau, heb yr ystyriaeth leiaf o cyfleuster y teithwyr....neu unrhywbeth heblaw eu helw uniongyrchol eu hunain.”
Charles Dickens, ‘American Notes’.

Y Sawl a Wna’r Pethau Hyn:

“Wrth ochr y ffordd roedd olion truenus un neu ddau gaban a’u waliau wedi’u gwastatu. Roedd yma’r ffwng du, y cacamwci, y danadl poethion a’r holl chwyn atgas hynny sy’n dilyn yn sgîl gormes a dinistr; ac wrth i’r gwynt diflas eu symud yn araf, gan udo drwy’r twmpathau diffaith, ni fedrwn beidio â gofyn a fydd y sawl a wna’r pethau hyn yn meddwl o bryd i’w gilydd fod yna gyfrif i’w wneud yn y bywyd nesaf. Cyfrif a osoda wyneb yn wyneb rym, anfoesgarwch, cyfoeth a gam-ddefnyddir, erlidiaeth, trachwant, dial, trythyllwch a gloethineb gyda’r bobl isel y maent wedi sathru â’r fath gam hunanol a difaol ar eu hawliau a’u breintiau i fyw’n syml.”
William Carleton, ‘The Black Prophet’.

Ffolineb yr Ynfytyn:

“Yr eiliad y dywedir yr enw Iwerddon, mae’r Saeson fel petai’n ffarwelio â theimlad cyffredin, synnwyr cyffredin a phwyll cyffredin ac ymddygant â chreulondeb barbaraidd y gormeswr a ffolineb yr ynfytyn.”
Sidney Swift.

Cyflenwadau a Anfonwyd:

“Prif ffynhonnell ein hadnoddau oedd cymorth haelioni dinesyddion yr Unol Daleithiau. Roedd y cyflenwadau a anfonwyd o America i Iwerddon ar raddfa na welwyd ei thebyg mewn hanes.”
Trafodion Pwyllgor Cymorth Canolog Cymdeithas y Cyfeillion yn ystod y Newyn yn Iwerddon ym 1846 a 1847.

I Ba Bynnag Rhan o’r Byd:

“I ba bynnag rhan o’r byd yr â’r Saes, teflir cyflwr Iwerddon yn ei wyneb....gan bob ffrwmpyn di-werth o athronydd....gan bob penboethyn o offeiriad....”
The Times, Mawrth 22, 1847.

Bydd y Bwyd hwn braidd yn Ddrud:

“Fe’m sicrhawyd....bod plentyn blwydd oed iach a fagwyd yn dda yn gwneud bwyd maethlon a blasus iawn boed mewn stiw, wedi’i rostio neu wedi’i bobi neu’i ferwi ac yn ddiau bydd yn gwneud cystal mewn fricassée neu ragout....
Rwyf yn cydnabod y bydd y bwyd hwn braidd yn ddrud ac felly’n arbennig o addas i landlordiaid, a chanddynt, mae’n debyg, yr hawl orau ar y plant gan eu bod wedi llawcio’r rhan fwyaf o’u rhieni eisoes.”
Jonathan Swift, ‘A Modest Proposal’.



Cyfiethiadau ©: Julia Burns.

Y Ddraig Werdd, Rhifyn 2, Gaeaf 1996.

Hafan / Home