Ymerodraeth o lawenydd estron. Ymetyb yr wybren gyda thon ar ôl ton o ddyrnodau llachar — rhoddion a deflir gan y dail i’w moch.
Oedi mae’r tatws, ymchwyddo ac ymdyblu, cyfamodwyr y dom yn deisebu gorffennol dilafar. Dros beth fuon ni farw? Tybed?
Pan dorrir caeau, rhuthra swigod methedig o boer i ddwylo morwyn y fferm.
Cenllysg yn bwrw’r pridd anystwyth wrth i ddatganiad, sydd heb ei ffurfio, bell ystyried gwlychu gwefus ei lefarydd.
Atgofion datgladdedig yn crochlefain.
Y gwehilion, yn fudr‑seimlyd ac wedi’u pori gan gyhyron, yn hyrddio cwch o ragenwau o hafan aflonydd yr hanesydd.
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.