Connemara Gwyllt?: Trip Gwyddelig yr Hen Gorff



Ym mis Mai 1852 penderfynodd Bwrdd Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd mai da o beth fyddai sefydlu Cenhadaeth ymysg y Gwyddelod a hynny yn y Gorllewin yn Connaught. I ymchwilio i’r fantais neu anfantais o wneud hyn, anfonwyd dau o hoelion wyth yr enwad draw i Iwerddon sef y Parchedig Henry Rees, Lerpwl a’r Parchedig David Charles, Trefeca. Am bythefnos yn ystod mis Gorffennaf y flwyddyn honno teithiodd y ddau Gymro drwy’r ynys gan nodi yr hyn a welsant.

Cyhoeddwyd ffrwyth eu hymchwil yn y Drysorfa yn ystod 1853 ac fe geir ganddynt ddarlun o sefyllfa Iwerddon ryw ddwy flynedd ar ôl y Newyn Mawr. Er bod effaith y newyn i’w gweld ymhobman prin iawn yw’r cyfeiriadau ato. Y tuedd oedd i gytuno â’r farn swyddogol fod y newyn wedi darfod ym 1847 ac mai diogrwydd y Gwyddel ac, yn naturiol, o gofio natur eu taith, ymlyniad y bobl at y ffydd Gatholig oedd y rhesymau pam roedd y wlad mewn sefyllfa mor druenus. Wrth fynd heibio i Goleg Catholig Maynooth codwyd y gwrychyn Protestanaidd i’r eithaf:
“Nis gallem edrych ar Maynooth heb deimladau cyffrous, wrth feddwl mai dyma oedd ffau y bwystfil Rhufeinig, yn mha un y magai ei genawon ieuanc, a fyddant wedi hyn yn gwibio yma a thraw i ddifetha eneidiau dynion.”

Roedd y Gwyddel wedi syrthio i bwll uffern felly ac heb obaith am achubiaeth hyd nes y byddai yn ymwrthod â Chatholigiaeth. Brithir yr adroddiad chymhariaethau rhwng safon byw uchel y Protestaniaid a thruenir Catholigion. Yn Athlone pwysleisir:

“Fod hanner trigolion y dref – sef yr hanner mwyaf parchus – yn Brotestaniaid....ac yn byw mewn tai a doid â llechi, ond bod y lleill yn byw mewn tai ag ymddangosiad budr a thlawd arnynt dan d gwellt.”

Yn yr un modd, wrth ddisgrifio’r bobl, adlewyrchir disgrifiadau, a oedd yn britho cylchgronau a phapurau newydd Cymru a Lloegr, sef mai rhyw greadur hanner anifail oedd y Gwyddel. Yn Athlone:

“Gwaeddant, crochlefant ac udent gan wneud bob math o ystumiau...megis torf o wallgofiaid.”

Tra yn Galway:

“Teimlem ein bod wedi dod i gartrefle y bwystfil, mor dlawd ag anifeiliaid yr oeddynt, a’u danedd mawrion yn fforchi allan o’u genau llydain.”

Er hyn i gyd, teimlant fod yna obaith i Iwerddon:

“Effaith lanhaol a gwareiddiadol yr efengyl yw’r unig feddyginiaeth.”

Hynny yw, dôs da o Galfiniaeth! Canmolir y rhai hynny syn llafurio i wella cyflwr y bobl megis y Gweinidog Presbyteraidd Mr. Armstrong yn Ballina oedd wedi agor ysgol i 70 o ferched i ddysgu gwno. Telid cyflog i’r merched gyda’r amcan yr:
“Ant â’u harian adref, ac yn y modd hyn, hyfforddir eu rhieni pa fodd i fyw yn well, ac ennillir eu meddwl at yr ysgol Brotestanaidd.”

Yn amlwg ni welent ddim o’i le mewn defnyddio arian fel abwyd i broselyteiddio!
Wrth dreulio’r Sul yn Oughterard daw pwl o hiraeth dros y ddau Gymro wrth feddwl am y saint gartref yng Nghymru yn paratoi am y capel tra:
“Roeddynt hwy, ’wedi eu halltudio i gongl estronol mynyddoedd Connemara.”

Sylwent fod torfydd trwy’r bore wedi bod yn cyrchu i’r Offeren ac ofnent mai i fanno y byddai rhaid iddynt hwythau fynd os na ddeuent o hyd i wasanaeth Protestanaidd. Ond daeth gwaredigaeth rhag y fath ‘sen’:
”Fel yr oeddym yn petruso pa un a aem i mewn neu beidio, tybied glywed ohonom ganu, deallsom y dôn yn uniawn. Yr oedd y casgliad yn naturiol, ‘Dyma Brotestaniaid’ meddem ni wrth ein gilydd!”

Yr oeddynt wedi canfod Ysgol Sul a gynhelid mewn tŷ cyfagos o dan lywyddiaeth yr ysgolfeistr lleol. Yn y prynhawn cawsant fynychu gwasanaeth yn yr Eglwys Wladol. Gan i rai eu camgymeryd am glerigwyr o Loegr gwahoddwyd iddynt bregethu. Gwrthod a wnaethant gan bwysleisio nad oeddynt mewn ‘urddau esgobaethol’.

Treuliwyd gweddill y daith yn ymweld Limerick, Tralee, Killarney, cyn troi yn ôl am y dwyrain i ymweld Chorc a Dulyn. Ar Orffennaf 21 hwyliasant am Lerpwl a chartref. Yn niwedd yr adroddiad dywedant mai tri pheth neilltuol oedd wedi tynnu eu sylw, sef:

“Y Jail, y Poor‑house a’r Barracks — ffrwyth naturiol yr anghenfil Rhufeinig, meddem ni.”

Er eu bod yn argymell sefydlu cenhadaeth ni chlywyd ychwaneg am y fenter, a buan yr anghofiwyd am daith y ddau Brydeinwyr o Gymry i’r Ynys Werdd.



’ ©: Einion Wyn Thomas, Archifdy Meirionydd, Dolgellau, Gwynedd.

English

Gwyddeleg

Y Ddraig Werdd Rhif 1, Hydref, 1996. Adref / Home