N.M.Cummings: Trueni Skibbereen



Cefais fy synnu o ganfod y treflannau truenus yn wag o bobl, hyd y gwelwn i. Mi euthum i mewn i rai o’r hofelau i geisio canfod pam, ac mi welais olygfeydd na all na thafod na phin‑sgrifennu ddechrau eu mynegi. Yn yr un cyntaf, roedd yna chwech o sgerbydau llyglyd ac echrydus, yn ymddangos fel pe baent wedi marw, ac wedi eu hel at ei gilydd mewn congl ar wellt mochaidd; yr unig orchudd drostyn nhw oedd rhyw damaid o glwt ceffylau, a’u coesau dychrynllyd yn hongian yn noeth uwchnbeb eu pengliniau.

Mi euthum yn nes atyn nhw a chanfod, drwy glywed ochneidio tawel, eu bod yn fyw, mewn twymyn – pedwar plentyn, gwraig, a’r hyn a fu unwaith yn ddyn. Mae’n amhosibl mynd i fanylion, digon yw dweud o fewn rhai munudau fy mod i wedi fy amgylchynu gan o leiaf ddau gant o ddrychiolaethau dynol cyffelyb, rhithiau mor erchyll fel na all geiriau eu disgrifio. Roedd y rhan helaethaf o lawer ohonyn nhw yn ffwndro, naill ai oherwydd llwgu neu dwymyn. Mae eu sgechfeydd aflan yn dal i atseinio yn fy nghlustiau, a’u golwg dychrynllyd wedi’i serio ar fy ymennydd.

Geiriau N.M.Cummings, Ustus Heddwch o Gorc, am ei ymweliad â Skibbereen ddiwedd y 1840au.



Cyfiethiad ©: Harri Pritchard‑Jones.

Y Ddraig Werdd, Rhifyn 1, Hydref 1996.

Hafan / Home