Y Wyrcws



Mae cofion am y wyrcws yn ein hatgoffa ni heddiw am y tlodi dybryd yr oedd pobl Iwerddon ynddo yn y 19eg ganrif. Yr oedd y wyrcws yn sefydliad yr oedd anobaith yn treiddio drwyddo. Gall conolbwynto ar y wyrcws fod yn gymorth i ni ddeall sefyllfa pobl sydd wedi eu dal mewn llefydd fel carchardai a gwersylloedd i ffoaduriaid drwy’r byd heddiw, fel canlyniad i ryw ‘newyn’.

Yr oedd yn dynged felly i filoedd fynd i mewn i’r wyrcws pan oedd y Newyn ar ei waethaf yn i 1840au.

Pan fyddai tlodi yn cael ei weld fel anghyfleustra a thlodion yn cael eu trin fel troseddwyr, yr oedd y wyrcws yn nodweddiadol o’r cyfnod: byddai’n cael ei redeg fel carchardy.

Yn gyson â thraddodiad economaidd y farchnad rydd a’r syniad mai eu bai eu hunain oedd doddefaint y tlodion, atgyfnerthai’r wyrcws ddelwedd negyddol tlodi, ac yr oedd rhaid i’r teuluoedd a âi i mewn i’r wyrcws ddioddef mwy. Cosbi oedd ei ddisgyblaeth – amddifadu o fwyd, gwahanu o gymdeithas a thorri teuluoedd.



Testun o daflen AfrI (‘Action from Ireland’) Dulyn, a roes ganiatâd i ni ei gyfiethu a’i gyhoeddi.

Trosiad: ©: Robat ap Tomos, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Caerdydd.

Y Ddraig Werdd Rhifyn 1, Hydref 1996.

Adref / Home