Y Tlawd a’r Wyrcws



Yn amser y Tuduriaid cydnabuwyd cyfrifoldeb cymdeithas am y di–waith a’r anghenus, a thua diwedd teyrnasiad Elizabeth penderfynwyd y dylai’r plwyfi godi treth ar eu cyfer. Cyn hir daeth hyn yn orfodol. Roedd y Cyngor Cyfrin yn gofalu am y mesurau cyffredinol drwy’r wlad a’r ynadon yn gyfrifol am y plwyfi. Offeiriaid, ysweiniaid a dynion blaenllaw’r gymdogaeth oedd y rhain. Penodwyd goruwchwyliwyr i sicrhau nad oedd prinder bwyd a phethau angenrheidiol. Drwy hyn diddymwyd byddin o gardotwyr, a thebyg iawn mai dyma’r rheswm na fu chwyldroad gwaedlyd yn y wlad hon, fel yn Ffrainc.

Ond, er bod y bwriad yn ganmoladwy roedd y cymhwysiad yn wallus. Y prif reswm oedd diffyg dealltwriaeth yr oes. Ni wahanaethwyd yn ddigon clir rhwng ymddygiaadau anghfreithlon a gweithredoedd anweddus. Rhoddwyd meddwon mewn stociau – a thaflwyd methdalwyr i garchar. ‘Doedd dim rhyddid gan y tlawd. A pheth arall, ‘doedd dim cysondeb yn y driniaeth.

Yn naturiol ddigon effeithiodd amgylchiadau Ewrop a’r byd ar gyflwr y wlad. Yn sgîl rhyfel Napoleon daeth chwyddiant, prinder arian, a newyn, ac o ganlyniad cynyddodd swm y dreth yn ddirfawr. Felly, ym 1834 pasiwyd Deddf y Tlawd. Ei diben oedd cyfyngu ar y gwariant drwy ganiatáu adeiladu tai wyrcws i gynnwys y gorlif, ac i roi lloches i’r hen a’r anabl. Penodwyd gwarcheidwaid lleol i weinyddu’r ddeddf.

Yn anffodus roedd yr oes yn galon‑galed a chomisiynwyr canolog y llywodraeth yn rhy awdurdodol. Gwahanwyd gwrywod oddi wrth eu gwragedd a gwasgarwyd teuluoedd. Ni wnaed dim gwahaniaeth rhwng yr hen a’r ifanc, yr iach a’r afiach, y synhwyrol a’r gwallgof., y gweddus a’r anweddus – a gwaeth na’r cyfan anghofiwyd fod angen tosturi ar y gwan. Yng Nghaerfyrddin fe elwid y Wyrcws yn Bastille, a mawr fu’r cyffro a’r llawenydd pan dorrwyd i mewn iddo gan ddilynwyr Rebeca. Tasg y dynion yn y Wyrcws oedd torri tunnell a hanner o gerrig y dydd. Dengys hyn un o broblemau mawr yr awdurdod sef sut oedd i roi gwaith a oedd yn anos na’r hyn y gellid ei gael y tu allan. Serch hynny roedd nifer o bobl yn dewis mynediad er gwaethaf y caledi.

Cyflwyniad arall i’r ddeddf oedd rhoi caniatâd i uno plwyfi os oedd angen, er mwyn i un plwy gynorthwyo’r llall. Gwnaed hyn, er enghraifft, rhwng Pen‑y‑Bont ar Ogwr a’r Bont ‑ faen, ac adeiladwyd Wyrcws i dros 80 o oedolion ym Mhen‑y‑Bont ym 1837.

Daeth y tai hyn i bron pob tre ym Mhrydain, a hefyd i wledydd eraill fel yr Iseldiroedd a’r Amerig. Mae eu diben wedi newid, ond mae’r adeiladau yn bodoli o hyd – o Hwlffordd i Gasnewydd a thu hwnt.

Roedd cyflwr y wlad yn weddol gyson o 1850 i 1880 ond wedyn dychwelodd dirwasgiad yn bennaf am fod America, a oedd newydd ddod yn wlad unol, yn allforio cyfanswm anferth o wenith ac ßd i Brydain ac Ewrob. Achosodd hyn leihad yn arian y ffermwyr ac o ganlyniad anodd oedd iddo dalu labrwr a phrynu nwyddau fel o’r blaen. Gwaethygodd ystad y pentrefwyr hyd nes i dyrfa ohonynt ymfudo i’r gweithfeydd neu i wlad dramor. Ond hyd yn oed yn y gweithfeydd roedd problemau difrifol oherwydd y berthynas rhwng y gweithwyr a’u cyflogwyr. Effeithiodd hyn oll ar safle’r tlawd yn y gymdeithas.

Ym 1909 fe gynhaliwyd Comisiwn Brenhinol i ymchwilio i’r mater a chymerwyd tystiolaeth fanwl oddi wrth arbenigwyr. Sylwyd yn fuan fod yna wahaniaeth mawr rhwng ymddygiad y gwahanol blwyfi. Mewn un man ni roddwyd cymorth i fam os mai un plentyn oedd ganddi. Os oedd ganddi fwy nag un danfaonwyd hwynt i’r wyrcws. Credid mewn plwy’ arall y gallai’r fam ofalu am ddau blentyn wrthi ei hun; ond mewn plwy’ cyfagos rhoddid digon o gymorth #8216;allanol’ iddi i wneud hynny yn ddibryder.

Roedd danfon gweithwyr i’r wyrcws yn lleihau rhif y rhai segur, tra oedd cymorth o’r plwy’ yn eu galluogi i barhau yn eu gwaith er gwaethaf prinder cyflog. Ond roedd hyn yn amharu ar eu gallu i chwilio am waith mwy ffafriol mewn ardal arall.

Os oedd gwarcheidwad yn meddwl fod dynes yn talu gormod o rent am ei chartref gorchmynnid hi i symud i le rhatach hyd yn oed os byddai’r awyrgylch newydd yn anffafriol iddi hi a’i phlant.

Ni chynorthwyid gwraig am flwyddyn gyfan os oedd hi a’i gr wedi gwahanu, ac mewn ambell blwy’ danfonid hi i’r Wyrcws.

Glynnai menywod oedrannus wrth eu gwaith am flyddoedd lawer hyd yn oed os byddent yn sâl. Yr unig ddewis arall a oedd ganddynt oedd mynd i’r Wyrcws. Soniwyd am berson 82 mlwydd oed yn ennill 1/6 yr wythnos ac yn derbyn 4/6 o’r plwy’; un arall, 79 mlwydd oed, yn gweithio o bump y bore hyd ddeg y nos am 2/11. Roedd hi yn derbyn 4/0 o’r plwy a thorth oddi wrth y ficer ac yn talu 2/0 yr wythnos o rent.

Roedd gweithwyr cydnerth ar dro yn cael cymorth o’r plwy’ os byddent yn gofalu am eu rhieni. A’r gwarcheidwaid a oedd yn ei ganiatáu oedd y cyflogwyr yn aml – ffermwyr fynychaf. Fel hyn cedwid y gyflog yn isel. Ym marn aelodau’r comisiwn dylid ystyried yr holl amgylchiadau.

Tybiwyd yn aml nad oedd gobaith i’r bobl a oedd yn derbyn cymorth heb sylwi mai’r rheswm am eu cyflwr oedd diffyg hyffordiant.

Mewn ambell bentref cynorthwyid pawb oedd yn hen os oedd y swyddog gweinyddu yn un o’r rhai oedd yn meddwl fod arian y plwy’ yn fath o bensiwn. Ond mewn pentref arall byddai’r arferiad yn hollol wahanol. Weithiau dosbarthwyd arian yn ôl yr oedran a’r rhyw: dyn o dan 60 oed yn cael oed yn cael 2/0 yr wythnos a menyw, swllt a chwech; dyn dros 60 oed, hasnner coron, a menyw, dau swllt; dyn dros 70 oed, triswllt, a menyw o;r un oed, hanner coron. ‘Doedd dim arall yn cael ei gyfrif.

Tueddwyd i orbwysleisio materion moesol. Er enghraifft, gŵr yn, 78 mlwydd oed a’i wraig, 61 oed, hoff o ddiod meddwol, yn cael gostyngiad ytn eu harian wythnosol o 5/0 i 2/6 er mwyn iddynt ymwrthod. yn arall, 73 oed, yn byw gyda’i fab di–waith yn cael gostyngiad o 3/6 i 2/6 er mwyn i’r mab wneud mwy o ymdrech i gael gwaith.

Ym 1892 roedd 31.9 y cant o’r tlodion yn y Wyrcws, a 36 y cant ym 1900 er bod cynnydd mawr wedi bod yn yr arian a roddwyd o’r plwy’. Roedd y mwyafrif yn hen a thua wyth deg y cant ohonynt yn anabl.

Cafwyd cofnodion yn Llyfrau Festri’r plwy’ a roddwyd bathodyn i’r tlotyn a oedd yn derbyn help er mwyn ei gadw dan sylw. Yn Llambed roedd y llythrennau L.P. arno (Lampeter Pauper). Drwy;r dull yma y medrid gwrthod cais rhywun o blwy arall. Erlidiwyd genethod beichiog i ffwrdd od nad oeddent yn enedigol o’r ardal.

Ym 1837, dair blynedd ar ôl pasio Deddf y Tlawd, awgrymwyd i’r plwyfi y dylent adeiladu noddfa i’r gwallgof er mwyneu symud o’r Wyrcws; a thua 1860 daeth Ysbytai’r Meddwl.

Ym 1847 archwiliwyd safon y rhai oedd yn gofalu am bobl yn y Wyrcws a gwelwyd mai’r unig anghenraid oedd y gallu i ddarllewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar foteli moddion.

Hyd at 1867 tlodion oedd fynychaf yn nyrsio, ond y flwyddyn honno danfonwyd cylchneges i’r gwarcheidwaid i’w hysbysu mai nyrsys cyflogedig oedd i wneud hynny. Dyma adeg ‘Dynes y Lamp’, Florence Nightingale. Ym 1869 atgoffwyd yr awdurdodau y dylai’r cleifion gael eu nyrsio mewn wardiau ar wahân, ac ym 1874 dechreuwyd cyrsiau arbennig i hyffoddi’r nyrsys. Erbyn diwedd y ganrif roedd pob Wyrcws sylweddol o dan arolygiaeth metron a oedd wedi derbyn o leiaf dair blynedd o hyfforddiant mewn ysbyty gydnabyddedig. O dani hi cyflogwyd tair nyrs arall. Yn raddol, daeth y wardiau hyn yn glafdai (Infirmaries) a phan ddaeth Geriatreg yn arbenigedd meddygol ym mhumdegai’r ganrif hon daeth y mwyafrif ohonynt yn Ysbytai’r Henoed.

Roedd y tlodion yn y Wyrcws i lanhau’r wardiau, i baratoi’r bwyd, i olchi’r dillad ac yn y blaen, ond nid oeddynt i fwydo’r cleifion. Roedd meddygon apwyntiedig yn gyfrifol am y rhain ac os oedd angen triniaeth lawfeddygol arnynt danfonid hwy i ysbyty.

Ofedd (di–flas) oedd y bwyd, a phrin o faeth, er bod comisiwn ym 1836 wedi cyhoeddi esiamplau o’r ymborth y dylid ei baratoi. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hyn gan olygydd y Lancet ym 1878:

“Medical treatment consists quite as much in the administration of a sufficient and appropriate diet as in the exhibition of drugs and the object of the Medical Officer and the Guardians alike is to cure”.

Ynglyn â’r plant a’r babanod – truenus iawn oedd eu cyflwr hwy. Mewn un Wyrcws gofelid am y babanod gan fenyw a oedd yn gyfrifol am y golchdy. Doedd dim amser ganddi i droi! Mewn man arall rhoddwyd hwynt i eistedd yn rhes o flaen bord hir, a phan oedd eisiau cysgu arnynt plygai’r pennau bychain ymlaen i’r ford: syniad y metron oedd hyn. Gofalwyd am y mwyafrif gan fenywod oedrannus. Roedd y gwlâu yn wlyb, a’r plant a oedd yn medru cerdded yn edrych yn ddiflas mewn dillad llwyd, trwchus, di–siâp: Pob un yr un peth, a’r undonedd yn llethol.

Cynhelid rhyw fath o ysgol i blant dros bum mlwydd oed. Ym marn awduron y Llyfrau Gleision ym 1847, roedd yr un yn Abertawe yn wddol foddhaol – er bod y plant yn gorfod doddef y drewdod pan oedd toiled y clafdy cyfagos yn cael ei wacá. Yng Nghaerdydd dysgwyd hwy am deirawr y dydd os oedd y tywydd yn deg: os nad oedd, aethai’r bechgyn i’r ffermydd a’r merched i wnïo. Yng Nghastell–nedd roedd adeilad y Wyrcws yn warthus: medd yr adroddiad: ‘We see no reason for immuring children in such places’.

Yn Lloegr ceisiwyd uno rhai o’r ysgolion, ond aflwyddiannus fu’r ymdrech. Mewn byr amser fe’u galwyd yn Barrack Schools. Ceir disgrifiad byw o’r hyn oedd yn digwydd yn nofel feistrolgar Dickens, Bleak House, a gwyddom i gyd fod H.M. Stanley – a ddaeth o hyd i Livingstone yn nes ymlaen – wedi dianc o’r Wyrcws yn y Rhyl.

Penderfynodd y Llywodraeth ym 1906 nad oedd yn weddus cymryd plant i mewn i’r fath lefydd. Adeiladwyd tai arbennig ar eu cyfer – yr Homes – a rhoddwyd y rhai hßn yng ngofal teuluoedd cyfrifol ac apwyntiwyd swyddogion i gadw llygad arnynt.

Pan ddaeth y Wladwriaeth Les i fodolaeth aeth y Wyrcws a’i stori gymhleth i ebargofiant, ond mae’r oes wedi newid a cheir cymaint o rwgnach a helbul heddiw ag erioed. Pan ofynnwyd i Kate Robewrts beth oedd ei barn hi, atebodd: ‘Ddoe roedd popeth mor brin, a phobl yn gwerthfawrogi’r cyfan. Heddiw, mae pawb yn cael popeth, a’r gwerthfawrogiad mor brin.’

Y gwir a ddywedodd.



O’r llyfr ‘Yng Nghwmni’r Meddyg’ gan Dr. J.H. Thomas a gyhoeddwyd gan Tŷ John Penry (Abertawe) ym 1990.

Y Ddraig Werdd Rhif 2

Erthyglau eraill gan Dr. Thomas:
1. Rhai Agweddau ar Bla y Tatws yn Iwerddon

2. James Ebenezer Bicheno
Erthygl yn Saesneg am yr ysgolhaig y mae ei fywyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cysylltu Cymru, Iwerddon, Lloegr a Thasmania.
3. Starvation Fever
Erthygl arall yn Saesneg.

Hafan / Home